Pentref bach gwledig yng nghymuned Gwyddelwern, Sir Ddinbych, Cymru, yw Bryn Saith Marchog[1] ( Bryn Saith Marchog ) neu Brynsaithmarchog.[2] Saif ar lan ddwyreiniol Afon Clwyd gyferbyn â phentref Derwen, tua 5 milltir i'r gogledd o Gorwen. Mae ar ffordd yr A494.
Math | pentrefan |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Ddinbych |
Gwlad | Cymru |
Gerllaw | Afon Clwyd |
Cyfesurynnau | 53.040278°N 3.379167°W |
Cod OS | SJ076500 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Ken Skates (Llafur) |
AS/au y DU | Simon Baynes (Ceidwadwyr) |
Cyfeirir at Fryn Saith Marchog yng Nghainc Gyntaf y Mabinogi, chwedl Branwen ferch Llŷr. Cyfeiriad onomastig i esbonio enw lle ydyw. Pan â Bendigeidfran i Iwerddon mae'n gadael saith tywysog a'u saith marchog i warchod Ynys Prydain. Nid enwir y marchogion ond ceir cyfeiriad at y lle:
- Yn Edeirn[i]on yd edewit y gwyr hynny, ac o achaws hynny y dodet Seith Marchawc ar y dref.[3]
Mae Ifor Williams yn nodi, gan ddilyn awgrym yr Athro Joseph Loth, fod 'seith/saith' yn gallu golygu "sant" mewn Cymraeg Canol. Mae'n bosibl felly mai "Bryn Sant Marchog" a olygid yn wreiddiol (ceir enghreifftiau o'r enw 'Sadwrn Farchog' am Sant Sadwrn hefyd).[4]
Pobl o Fryn Saith Marchog
- Eric Jones (g. 1935), dringwr
Cyfeiriadau
Wikiwand in your browser!
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.