From Wikipedia, the free encyclopedia
Cynhaliwyd refferendwm ar ymestyn pwerau deddfu Cynulliad Cenedlaethol Cymru yng Nghymru ar 3 Mawrth 2011. Gofynnodd y refferendwm y cwestiwn hwn: "A ydych yn dymuno i'r Cynulliad allu llunio deddfau ar bob mater yn yr 20 maes pwnc y mae ganddo bwerau ynddynt?"
Os caiff pleidlais 'ydw' ar y cyfan, bydd y Cynulliad â'r gallu i lunio deddfau ar bob mater yn yr 20 maes pwnc heb orfod cael caniatâd Llywodraeth y DU. Os caiff pleidlais 'nac ydw' ar y cyfan, ni ddigwyddith unrhyw beth a bydd y system sydd gan Gymru yn parhau.[1][2]
Cyhoeddwyd canlyniadau'r refferendwm ar 4 Mawrth 2011. Ar y cyfan, pleidleisiodd 63.49% 'ydw', a phleidleisiodd 36.51% 'nac ydw'. 'Ydw' oedd y bleidlais mewn 21 o'r 22 awdurdod lleol, gyda'r eithriad i Sir Fynwy. Ar y cyfan, pleidleisiodd 35.2% o Gymru. Croesawodd Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones y canlyniad, gan ddywedyd: "Heddiw, fe gafodd hen wlad ei pharch."
Sefydlwyd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn 1999 yn dilyn refferendwm yn 1997. Corff datganoledig ydyw sy'n trafod polisïau ac yn cymeradwyo deddfwriaeth yn ymwneud â Chymru, ac yn dyrannu'r arian a rennir iddo gan Lywodraeth y DU. Yn wahanol i'r ddau gorff datganoledig arall a sefydlwyd ar yr un pryd fel rhan o'r broses datganoli yn y DU, sef Cynulliad Gogledd Iwerddon a Senedd yr Alban, does gan y Cynulliad Cenedlaethol ddim pwerau i godi trethi (fel yn yr Alban) nac i greu deddfau'n annibynnol ar San Steffan.
Cafodd grymoedd i basio mesurau deddfwriaethol o fewn meysydd penodol eu rhoi ar ddechrau'r Trydydd Cynulliad ym mis Mai 2007 dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Ond am fod y broses o orfod cael cymeradwyaeth San Steffan i bob deddf unigol yn un hir a chymhleth, galwodd Llywodraeth Cymru, sy'n glymblaid rhwng y Blaid Lafur a Phlaid Cymru, am ddatganoli grym deddfwriaethol i Gymru o fewn y meysydd sy'n ddatganoledig eisoes a phenderfynwyd y byddai angen cynnal refferendwm arall i'r perwyl hwnnw gan nad oedd refferendwm 1997 yn cynnwys cwestiwn am bwerau deddfwriaethol.
Testun y cwestiwn a ofynnir yw[3]:
Hwn yw'r testun terfynol a gyhoeddwyd gan y Comisiwn Etholiadol ar ôl tua 10 wythnos o drafod ac ystyriaeth. Beirniadwyd penderfyniad y Comisiwn i gynnwys rhagymadrodd ar y papur pleidleisio, a ddisgrifiwyd fel "rhyw fath o ddoethuriaeth ar y cyfansoddiad Prydeinig" gan yr Arglwydd Dafydd Elis Thomas AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Dywedodd ei fod yn "sarhad ar etholwyr" a doedd dim angen ei gael o gwbl.[4] Ond mewn cyfiawnhad o'r penderfyniad, dywedodd y Comisiwn Etholiadol eu bod yn meddwl nad oedd y cyhoedd yn deall y cwestiwn yn iawn na'r rheswm dros bleidleisio. Ond mynnodd Dafydd Elis Thomas nad oedd y cwestiwn yn gymhleth:
Yn 2007, awgrymodd un pôl efallai y byddai 47% o Gymry yn dweud Ydw mewn pleidlais refferendwm, gyda 44% yn erbyn.[5] Darganfuwyd pôl a gynhaliwyd ym mis Chwefror 2008 mai 49% o blaid senedd sydd â hawliau i wneud deddfau llawn a 41% yn erbyn.[6] Ar 3 Chwefror 2010, cefnogodd y Western Mail ymgyrch Ydw.[7] Darganfuwyd pôl BBC a gyhoeddwyd ar 1 Mawrth 2010 bod codiad mewn cefnogaeth o ran deddfu llawn, hyd at 56%, gyda 35% yn erbyn, ond yr oedd Nick Bourne, arweinydd Plaid Geidwadol Cymru, yn amheugar o ganlyniadau'r pôl.[8]
Isod a geir tabl crynodol o ganlyniadau'r pôl o flaen llaw ar gyfer y refferendwm.
Dyddiad | Sefydliad | Ydw | Nac ydw | Ni fyddaf yn pleidleisio | Wn i ddim |
---|---|---|---|---|---|
25-28 Chwefror 2011 | Grŵp Marchnata ac Ymchwilio | 49% | 22% | - | 28% |
21-23 Chwefror 2011 | YouGov (sicr i bleidleisio) | 67% | 33% | - | - |
24-26 Ionawr 2011 Archifwyd 2011-02-07 yn y Peiriant Wayback | YouGov | 46% | 25% | 8% | 21% |
20-22 Rhagfyr 2010 Archifwyd 2011-02-21 yn y Peiriant Wayback | YouGov | 48% | 30% | 8% | 14% |
25-28 Tachwedd 2010 Archifwyd 2010-12-26 yn y Peiriant Wayback | ICM (sicr i bleidleisio) | 70% | 30% | - | - |
25-28 Tachwedd 2010 Archifwyd 2010-12-26 yn y Peiriant Wayback | ICM (popeth) | 57% | 24% | - | 18% |
22-24 Tachwedd 2010 Archifwyd 2011-10-16 yn y Peiriant Wayback | YouGov | 52% | 29% | 7% | 13% |
19-22 Tachwedd 2010 | Ymchwil Cenedl (sicr i bleidleisio) | 73% | 23% | - | 4% |
19-22 Tachwedd 2010 | Ymchwil Cenedl (popeth) | 60% | 28% | - | 13% |
25-27 Hydref 2010[dolen farw] | YouGov | 49% | 30% | 5% | 15% |
27 - 29 Medi 2010[dolen farw] | YouGov | 48% | 32% | 6% | 15% |
26 - 28 Gorffennaf 2010 Archifwyd 2011-02-21 yn y Peiriant Wayback | YouGov | 48% | 34% | 5% | 14% |
Canlyniad cyffredinol: Ydw[9]
Cyfrifwyd y canlyniadau a'u cyhoeddwyd ar 4 Mawrth 2011, yn lleol yn gyntaf ac wedyn yn ffurfiol yn y Senedd.
Mewn 21 allan o 22 awdurdod unedol, Ydw oedd y bleidlais. Sir Fynwy oedd yr unig ardal i bleidleisio Nac ydw. Roedd yn rhaid i'r Sir ailgyfrif, ond 'Nac ydw' oedd y bleidlais yn y diwedd, gyda 320 pleidlais yn unig rhyngddynt.[10]
Y canlyniad cyffredinol oedd:
Ydw : 517,132 (63.49%) |
Nac ydw : 297,380 (36.51%) | ||
▲ |
Nifer o bleidleiswyr (yn ôl Comisiwn Etholiadol): 35.2%[11]
Nifer o bleidleisiau a gyfrifwyd: 814,512.[11]
Awdurdod unedol | Nifer o bleidleiswyr | Pleidlais Ydw | Pleidlais Nac ydw |
---|---|---|---|
Ynys Môn | 43.83% | 64.77% | 35.23% |
Blaenau Gwent | 32.44% | 68.87% | 31.13% |
Pen-y-bont ar Ogwr | 35.64% | 68.11% | 31.89% |
Caerffili | 34.55% | 64.35% | 35.65% |
Caerdydd | 35.16% | 61.39% | 38.61% |
Sir Gaerfyrddin | 44.36% | 70.82% | 29.18% |
Ceredigion | 44.07% | 66.24% | 33.76% |
Conwy | 33.79% | 59.72% | 40.28% |
Sir Ddinbych | 34.47% | 61.85% | 38.15% |
Sir y Fflint | 29.45% | 62.06% | 37.94% |
Gwynedd | 43.39% | 76.03% | 23.97% |
Merthyr Tudful | 30.12% | 68.86% | 31.14% |
Sir Fynwy | 35.83% | 49.36% | 50.64% |
Castell-nedd Port Talbot | 38.00% | 73.00% | 27.00% |
Casnewydd | 27.90% | 54.76% | 45.24% |
Sir Benfro | 38.73% | 54.98% | 45.02% |
Powys | 39.68% | 51.64% | 48.36% |
Rhondda Cynon Taf | 34.62% | 70.71% | 29.29% |
Abertawe | 32.90% | 63.21% | 36.79% |
Torfaen | 33.82% | 62.78% | 37.22% |
Bro Morgannwg | 40.10% | 52.54% | 47.46% |
Wrecsam | 27.04% | 64.09% | 35.91% |
Nifer o bleidleiswyr
Uchaf: Sir Gaerfyrddin - 44.36%
Isaf: Wrecsam - 27.04%
Pleidlais
% uchaf o bleidlais Ydw: Gwynedd - 76.03%
% uchaf o bleidlais Nac ydw: Sir Fynwy - 50.64%
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.