yr holl bethau byw ac anfyw sy'n digwydd yn naturiol ar y Ddaear From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae'r term amgylchedd yn cyfeirio at y pethau byw a difywyd i gyd sy'n bodoli yn naturiol ar y ddaear neu ar ran ohoni (e.e. yr amgylchedd naturiol mewn gwlad). Mae'r term yn cynnwys dwy gydran allweddol:
Delwedd:Hopetoun falls.jpg, Natural environment.png | |
Enghraifft o'r canlynol | categori Wikimedia |
---|---|
Math | amgylchedd, gwrthrych ffisio-ddaearyddol |
Yn cynnwys | coedwig |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Gellir cyferbynnu'r amgylchedd naturiol â'r amgylchedd adeiledig, sy'n cynnwys yr ardaloedd a chydrannau y dylanwadir yn drwm arnynt gan fodau dynol. Ystyrir ardal ddaearyddol i fod yn amgylchedd naturiol os ydy'r effaith ddynol wedi ei chadw dan lefel gyfyngedig. Mae'r lefel hon yn dibynnu ar y cyd-destun penodol, felly mae'n newid yn ôl yr ardal a'r cyd-destun. Y term anial, ar y llaw arall, sy'n cyfeirio at ardaloedd sydd heb ymyriad gan fodau dynol o gwbl (neu sydd ag ychydig iawn o ymyriad).
Yn ystod y blynyddoedd dwethaf, mae gwyddonwyr wedi taflu golau ar rai materion amgylcheddol sy'n achosi pryder. Rydym oll yn gyfarwydd â'r materion amgylcheddol hyn megis cynhesu byd eang a haen yr oson sy'n cael eu harddangos yn y cyfryngau yn aml. Mae'r dosbarth hwn yn cynnwys gwybodaeth am y problemau, y gwyddoniaeth ynghylch y problemau a hefyd y datrysiadau.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.