un o feirdd Morgannwg From Wikipedia, the free encyclopedia
Roedd Gwilym Tew (fl. 1460 – 1480) yn fardd a chopïydd llawysgrifau, yn enedigol o Dir Iarll ym Morgannwg.[1]
Mae'n bosibl ei fod yn fab i'r bardd Rhys Brydydd (fl. tua chanol y 15g) neu ei frawd.[1]
Ymhlith ei gerddi mae cywyddau serch, cywyddau gofyn, nifer o gerddi mawl traddodiadol i noddwyr, a dwy awdl i'r Forwyn Fair.[1]
Bu Gwilym Tew yn berchen ar Lyfr Aneirin am gyfnod. Copïodd nifer o lawysgrifau yn cynnwys copïau o'r Trioedd, llyfr achau, casgliad o'i gerddi ei hun, a dwy eirfa sydd ymhlith yr engheifftiau cynharaf o'i math yn y Gymraeg.[1]
Yn llawysgrif Peniarth 51, yn ei law ei hun, ceir cyfieithiad Cymraeg o'r bwystori Ffrangeg Bestiaire d'Amour gan Richart de Fornival.[1]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.