From Wikipedia, the free encyclopedia
Un o Feirdd yr Uchelwyr a ganai yn y 14g oedd Llywarch Bentwrch (fl. tua chanol y 14g). Mae'n debygol ei fod yn frodor o Ynys Môn.[1]
Ni wyddys nemor dim am y bardd ar wahân i'r hyn y gellir casglu o dystolaeth yr unig gerdd ganddo sydd ar glawr. Mae ei enw barddol hynod yn codi sawl cwestiwn. Fe allai fod yn gyfeiriad at ryw hynodrwydd corfforol - roedd y beirdd yn ddigon parod i arddel enwau sy'n ymddangos ini heddiw yn ddigon amharchus - neu at enw lle, efallai. Ceir sawl enghraifft o afonydd Twrch yng Nghymru, yn cynnwys Afon Twrch ger Llanbabo, Môn, ond dim un enghraifft o Bentwrch fel enw lle.[1]
Mae unig gerdd Llywarch yn gywydd moliant i Ddafydd Fychan ap Dafydd Llwyd (fl. 1346-1377) o Drehwfa (cwmwd Llifon) a Threfeilir (cwmwd Malltraeth), gorllewin Môn. Ceir cyfeiriad yn y cywydd hwnnw sy'n awgrymu ei fod yn fardd teuluol i deulu Dafydd neu o leiaf ei fod yn gyfarwydd iawn â chanu yn ei blas. Roedd Dafydd Llwyd yn noddwr pwysig a cheir cerddi iddo gan eraill o feirdd y cyfnod fel Gruffudd Fychan ap Gruffudd ab Ednyfed, er enghraifft.[1]
Cerdd o fawl traddodiadol sy'n dwyn nodweddion newydd hefyd yw y cywydd. Pwysleisir haelioni'r noddwr a'r bwyd da sydd i'w gael yn ei lys, gan ei gymharu ag Ifor Hael, noddwr enwog Dafydd ap Gwilym.[1]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.