From Wikipedia, the free encyclopedia
Un o Feirdd yr Uchelwyr oedd Y Mab Cryg (bl. diwedd y 14g a dechrau'r 15fed). Ymddengys fod y llysenw yn cyfeirio at ei lais (cf. Gruffudd Gryg, Rhys Gryg).[1]
Ychydig a wyddom am y bardd ac rydym yn dibynnu yn bennaf ar dystiolaeth y tair cerdd o'i waith sydd ar glawr heddiw am ein gwybodaeth. Cedwir y copïau cynharaf o'r cerddi hyn mewn rhan o Lyfr Coch Hergest a ychwanegywd ato tua'r flwyddyn 1400 pan fu ym meddiant Hopcyn ap Tomas o Ynysforgan. Rhaid felly ei fod yn ei flodau cyn hynny. Mae cyfeiriadau yn ei gerddi yn awgrymu ei fod yn frodor o Geredigion, efallai o gyffiniau Aberystwyth.[1]
Ceir tair awdl fer gan y bardd yn Llyfr Coch Hergest. Cerddi dychan ydynt i gyd. Mae cyfeiriadau yn y cerddi hyn yn dangos ei fod yn gyfarwydd ag Aberystwyth (Pen Dinas) ac ardal Rhwng Gwy a Hafren, yn enwedig Maesyfed (cyfeiria at afonydd Tefeidiad, Ieithon a Chymaron ac at Raeadr Gwy). Yn ei ddychan i leidr a dorrodd i mewn i'w dŷ dywed ei fod wedi dwyn ei drwsus, ei ieir, ei grib, coes llwy a hen gôt ei fam-yng-nhyfraith: dymuna weld crogi'r leidr ar grogbren Pen Dinas, ger Aberystwyth.[1]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.