Gruffudd Llwyd
bardd From Wikipedia, the free encyclopedia
bardd From Wikipedia, the free encyclopedia
Un o Feirdd yr Uchelwyr o Bowys a ystyrid gan ei gyfoeswyr yn un o feirdd mwyaf dawnus yr oes oedd Gruffudd Llwyd neu Gruffudd Llwyd ap Dafydd ab Einion Lygliw (fl. chwarter olaf y 14g - chwarter cyntaf yr 15g).[1] Mae ei gerddi yn cynnwys dau gywydd mawl i Owain Glyn Dŵr sy'n dyddio i'r cyfnod cyn ei wrthryfel mawr. Bu'n athro barddol i Rhys Goch Eryri (fl. 1385 - 1448). Roedd ei ewythr ar ochr ei dad, sef Hywel ab Einion Lygliw, yn fardd hefyd.[1]
Ychydig a wyddys am fywyd personol Gruffudd Llwyd, ond cedwir ei achrestr yn y llawysgrifau, er bod y manylion yn angytuno. Hanodd o deulu o feirdd a gysylltir â Powys Wenwynwyn. Roedd ei gartref ym mhlwyf Llangadfan, Maldwyn. Bu ganddo dri mab, sef Maredudd, Dafydd ac Einion. Ni wyddys pryd y ganwyd Gruffudd Llwyd, ond ymddengys y bu farw erbyn y 1420au, ar sail tystiolaeth ei gerddi.
Cedwir deunaw o gerddi yn y llawysgrifau y gellir eu derbyn fel gwaith dilys y bardd. Canodd gerddi serch a chrefydd a mawl i uchelwyr Powys. I Rys Goch Eryri, bardd serch oedd Gruffudd Llwyd yn bennaf, ac mae'n bosibl fod llawer o'i gerddi serch ar goll erbyn heddiw, er eu bod yn ffurfio traean o'r cerddi ganddo sydd ar glawr. Roedd ei noddwyr yn cynnwys Owain Glyn Dŵr a'i dad-yng-nhyfraith Syr David Hanmer, Owain ap Maredudd o'r Neuadd-wen, Hywel ap Meurig Fychan a'i frawd Meurig Llwyd o Nannau (ger Dolgellau), Gruffudd ab Ieuan Llwyd o blwyf Mathafarn, a dau deulu o ardal Ceredigion a Sir Gaerfyrddin.[1]
Ceir sawl cyfeiriad yn ei waith at y chwedlau Cymraeg am gymeriadau fel Arthur, Rhita Gawr ac Uthr Pendragon ac at Drioedd Ynys Prydain.[1]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.