From Wikipedia, the free encyclopedia
Un o Feirdd yr Uchelwyr oedd Owain Waed Da (bl. ail hanner y 14g a dechrau'r ganrif olynol). Fe'i gelwir hefyd yn 'Ieuan Waed Da' gan Syr Ifor Williams ac eraill, ond gwyddom bellach mai 'Owain' oedd ei enw.[1]
Owain Waed Da | |
---|---|
Ganwyd | 14 g |
Galwedigaeth | bardd |
Mae'n bosibl mai brodor o gwmwd Eifionydd, Gwynedd oedd Owain, a cheir dau gywydd ganddo sy'n ei gysylltu â'r cwmwd hwnnw. Ond mae Guto'r Glyn yn ei gywydd moliant i dref Croesoswallt yn gyfeirio at ŵr o'r enw Owain Waed Da fel bardd o'r cyfnod blaenorol a oedd yn fwrdais yn y dref honno. Gan fod yr enw mor brin mae bron yn sicr mai'r un gŵr a olygir ac mae'n bosibl felly fod Owain wedi ymsefydlu yng Nghroesoswallt yn nes ymlaen yn ei yrfa.[1]
Mae'r ddau gywydd o waith Owain a gedwir yn gerddi moliant i Ieuan ab Einion a'i bedwar mab. Bu Ieuan ab Einion yn Siryf Sir Gaernarfon yn 1385-90 ac a gefnogodd wrthryfel Owain Glyn Dŵr; cyfeirir at Gastell Gricieth yn y gerdd i Ieuan a'i bedwar mab, sy'n cryfhau'r cysylltiad ag Eifionydd. Cywydd moliant i Madog ab Ieuan ab Einion yw'r ail gerdd.[1]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.