Corff er hyrwyddo iaith a diwylliant (De) Corea yn fyd-eang From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Canolfan Diwylliannol Corea Saesneg arferol Korean Cultural Center (Coreeg: 한국문화원, Hanja: 韓國文化院) yn sefydliadau dielw sy'n cyd-fynd â Llywodraeth De Corea sy'n anelu at hyrwyddo diwylliant Corea a hwyluso cyfnewid diwylliannol. Fel sawl corff genedlaethol arall, mae'n rhan o ddiplomyddiaeth ddiwlliannol y wlad i hyrwyddo pŵer meddal y wladwriaeth.
Enghraifft o'r canlynol | sefydliad, cultural center |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 2009 |
Yn cynnwys | Korean Cultural Center, Tokyo, Korean Cultural Center in Spain, Korean Cultural Center in Argentina, Korean Cultural Center, Paris, Korean Cultural Center Washington, D.C., Korean Cultural Center New York, Korean Cultural Center, Los Angeles |
Sylfaenydd | Korean Culture and Information Service |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Gan ddechrau o 2009, dechreuodd Gwasanaeth Diwylliant a Gwybodaeth Corea sefydlu Canolfannau Diwylliannol Corea ledled y byd.
Mae'r canolfannau'n cael eu rhedeg gan Wasanaeth Diwylliant a Gwybodaeth Corea, is-adran o Weinyddiaeth Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth De Corea.[1]
Mentrau Fel rhan o ymdrechion i gyflwyno a lledaenu diddordeb mewn agweddau amrywiol ar ddiwylliant Corea, mae'r canolfannau wedi trefnu llawer o raglenni o dan y categorïau celfyddydau, cerddoriaeth, llenyddiaeth, ffilm a choginio.[2]
O 2021 ymlaen, mae 33 o Ganolfannau Diwylliannol Corea mewn 28 o wledydd.[3]
Mae Canolfan Diwylliannol Corea yn debyg i sawl sefydliad gan genedl wladwriaethau eraill er mwyn hyrwyddo diwylliant, iaith a buddion eu gwledydd. Y Basgwyr (gydag Etxepare Euskal Institutua ) a'r Catalaniaid (gydag Institut Ramon Llull) yw'r unig ddau genedl ddi-wladwriaeth sydd â sefydliad mor soffistigedig a strategol. Hyd yma, nid yw Cymru wedi gweld yn dda i sefydlu asiantaeth debyg.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.