cymuned ar Ynys Môn, Cymru From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref a chymuned yng ngorllewin Ynys Môn yw Bodedern. Yn ôl Cyfrifiad 2011, roedd 1,016 o bobl yn byw yn y gymuned hon a 718 (sef 70.7%) o'r boblogaeth dros dair oed a hŷn yn gallu siarad Cymraeg.[1] Roedd 142 yn ddi-waith, sef 32.1% o'r rhai o fewn yr oedran priodol.
Math | pentref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 1,051, 1,193 |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Ynys Môn |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 935.978 ±0.001 ha, 1,932.46 ha |
Uwch y môr | 23.2 metr |
Yn ffinio gyda | Llanfair-yn-Neubwll, Bryngwran, Llanfachraeth, Bodffordd, Tref Alaw, Y Fali |
Cyfesurynnau | 53.2904°N 4.503963°W |
Cod SYG | W04000004 |
Cod OS | SH33197996 |
Cod post | LL65 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Llinos Medi (Plaid Cymru) |
Gerllaw'r pentref roedd cartref Gruffudd Gryg, yn ôl traddodiad, a gerllaw hefyd mae Presaddfed (neu 'Prysaeddfed'), plasty fu'n noddi'r beirdd am genedlaethau. Ger prif fynedfa'r plasdy mae dwy siambr gladdu sy'n dyddio nôl i tua 3000 C.C. (gweler Presaddfed (siambr gladdu))
Ganed y nofelydd poblogaidd W. D. Owen yn Nhŷ Franan ym mhlwyf Bodedern yn 1874. Credir fod llawer o hanes lliwgar ei nofel Madam Wen yn seiliedig ar draddodiadau lleol. Yn ôl traddodiad yn ardal Bodedern, roedd ogof Madam Wen mewn hafn ar ochr Llyn Traffwll, ger y pentref.
Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru Ynys Môn 2017 ger Bodedern ar 4-12 Awst 2017.
Mae yno ysgol uwchradd, sef Ysgol Uwchradd Bodedern a sefydlwyd yn 1977.
Mae C.P.D. Bodedern yn chwarae yng Nghyngrair Gwynedd.
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[2][3][4]
Cyfrifiad 2011 | ||||
---|---|---|---|---|
Poblogaeth cymuned Bodedern (pob oed) (1,051) | 100% | |||
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Bodedern) (718) | 70.7% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 19% | |||
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Bodedern) (787) | 74.9% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 73% | |||
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Bodedern) (142) | 32.1% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 67.1% |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.