pentref ar Ynys Môn From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Llanfair-yng-Nghornwy ( ynganiad ) (weithiau Llanfairyngnghornwy) yn bentref bychan a phlwyf eglwysig yng ngogledd-orllewin Ynys Môn. Saif i'r gogledd-orllewin o'r briffordd A5025 rhwng Llanrhyddlad a Cemaes, ar lan Bae Caergybi. Mae'n rhan o gymuned Cylch y Garn.
Math | pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Ynys Môn |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.3919°N 4.5517°W |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Llinos Medi (Plaid Cymru) |
Mae'n bosibl bod yr enw "Cornwy" yn dod oddi wrth lwyth Celtaidd y Cornovii. Cofnodir y llwyth yma yng nghanolbarth Lloegr, ond mae awgrym hefyd fod llwyth o'r un enw yn Iwerddon.
Cysegrwyd eglwys y plwyf i'r Santes Fair. Ni wyddys dyddiad sefydlu'r eglwys. Mae'r rhannau hynaf yn dyddio o'r 11g neu'r 12g. Cafodd ei helaethu dwywaith: yn y 15g, pan godwyd siansel, ac yn yr 16g pan ychwanegwyd capel i'r de o'r siansel gyda tri bwa yn eu gwahanu. Mae'r tŵr ym mhen gorllewinol yr eglwys yn dyddio o'r 17g. Mae'n adeilad cofrestredig Graddfa 1.[1]
Ceir sawl heneb yn y plwyf, yn cynnwys meini hirion fel y rhai yn Llwyn Ysgaw a charreg unigol Pen yr Orsedd.
I'r de o'r pentref ceir bryn 170m Mynydd y Garn. Tua milltir i'r gorllewin, ger y traeth, ceir Llyn y Fydlyn. I gyfeiriad y gogledd ceir Trwyn y Gader (Saesneg: Carmel Head).
Allan yn y môr mae ynysoedd Maen y Bugail ac Ynysoedd y Moelrhoniaid yn perthyn i'r plwyf.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.