pentref ar Ynys Môn From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref bychan a phlwyf eglwysig yng nghymuned Rhosybol, Ynys Môn, yw Llandyfrydog.[1][2] Saif yng ngogledd-ddwyrain yr ynys, tua 5 milltir i'r gorllewin o bentref Moelfre a thua 2 filltir i'r dwyrain o Lannerch-y-medd.
Math | pentrefan |
---|---|
Enwyd ar ôl | Tyfrydog |
Cysylltir gyda | Tyfrydog |
Daearyddiaeth | |
Sir | Ynys Môn |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.3416°N 4.3389°W |
Cod OS | SH443853 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Llinos Medi (Plaid Cymru) |
Enwir Llandyfrydog ar ôl Sant Tyfrydog (diwedd y 6g?). Ger Clorach, ceir y maen hir Carreg Leidr, a enwir felly am fod dyn a ladratodd Feibl yr eglwys wedi cael ei droi'n garreg am ei gamwedd, yn ôl y chwedl. Bob Nos Nadolig mae'r maen yn fod i symud o amgylch yr eglwys deirgwaith. Hanner milltir i'r gogledd o'r eglwys ceir cromlech Maen Chwyf.[3]
Yn yr Oesoedd Canol roedd plwyf Llandyfrydog yng nghwmwd Twrcelyn. Yn ail hanner y 14g, roedd gan y bardd Gwilym ap Sefnyn, mab y bardd Sefnyn, gyfran o dir yn Llandyfrydog (brodor o Lanbabo, 4 milltir i'r gorllewin, oedd ei dad, yn ôl pob tebyg).
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.