cymuned ar Ynys Môn From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref a chymuned yn Ynys Môn yw Bryngwran.[1][2] Saif yng ngogledd-orllewin yr ynys ar briffordd yr A5, rhwng Caergeiliog a Gwalchmai. Hyd yn ddiweddar, roedd y drafnidiaeth i Gaergybi yn mynd trwy'r pentref, ond wedi adeiladu'r A55, sy'n mynd ychydig i'r de o'r pentref, mae'n ddistawach. Mae'r rhan fwyaf o'r pentref ym mhlwyf eglwysig Llechylched, gydag ychydig o'r rhan ddwyreiniol ym mhlwyf Llanbeulan. Mae yma dafarn or enw 'Yr Iorwerth Arms' sy'n cynal amrywiaeth o ddigwyddiadau fel Phil Fest, Parti Calan Gaeaf a Grotto Sion Corn.[angen ffynhonnell]
Eglwys y Drindod, Bryngwran | |
Math | pentref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 900 |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Ynys Môn |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 1,692.223 ±0.001 ha |
Yn ffinio gyda | Llanfair-yn-Neubwll, Bodedern, Trewalchmai, cymuned Aberffraw, Llanfaelog, Bodffordd |
Cyfesurynnau | 53.269°N 4.483°W, 53.262534°N 4.45383°W |
Cod SYG | W04000007 |
Cod OS | SH3477, SH3642976758 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Llinos Medi (Plaid Cymru) |
Nid yw pentref Bryngwran yn hen iawn. Adeiladwyd Eglwys y Drindod yn 1841, i gymeryd lle yr hen eglwys, Eglwys Sant Ulched (neu Ylched). Gellir gweld gweddillion yr hen eglwys rhyw filltir i'r de-orllewin o'r pentref. Mae rhannau o hen eglwys Llanbeulan gerllaw yn dyddio i'r 12g, ac mae bedyddfaen yma sydd efallai yn dyddio i hanner cyntaf y 11g.
Lleolir Ysgol Gynradd Gymunedol Bryngwran yn y pentref.
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5]
Cyfrifiad 2011 | ||||
---|---|---|---|---|
Poblogaeth cymuned Bryngwran (pob oed) (894) | 100% | |||
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Bryngwran) (597) | 69.7% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 19% | |||
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Bryngwran) (655) | 73.3% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 73% | |||
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Bryngwran) (133) | 35.7% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 67.1% |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.