pentref yn Ynys Môn From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref a phlwyf englwysig yng nghymuned Tref Alaw, Ynys Môn, yw Llanddeusant[1][2] ( ynganiad ). Saif i'r gogledd o Afon Alaw ac i'r gorllewin o gronfa ddŵr Llyn Alaw.
Math | pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Ynys Môn, Tref Alaw |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.3404°N 4.4873°W |
Cod OS | SH345855 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Llinos Medi (Plaid Cymru) |
Un o atyniadau nodweddiadol y pentref yw Melin Llynnon, yr unig felin wynt sy'n parhau i weithio a chynhyrchu blawd yng Nghymru heddiw. Yn ogystal, mae yna felin ddŵr yn y pentref ar lan Afon Alaw, o'r enw 'Melin Hywel'; mae ar agor i'r cyhoedd yn yr haf ar ôl iddi gael ei hatgyweirio yn 1975. Cofnodir melin yn y plwyf yn 1352.
Sefydlwyd Ysgol Llanddeusant yn y pentref yn 1847. Er gwaethaf ymdrechion pobl leol i'w hachub[3], caewyd Ysgol Gynradd Llanddeusant yng Ngorffennaf 2011 ar ôl gwasanethu'r pentref am 160 mlynedd. Ar yr 2il o Hydref 2013, rhoddodd Pwyllgor Cynllunio Cyngor Ynys Môn ganiatad i'r cyngor ddymchwel adeilad yr ysgol a chodi 8 o dai ar y safle.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.