Remove ads
From Wikipedia, the free encyclopedia
Un o brosiectau Cymdeithas Edward Llwyd yw Llên Natur . Mae'n wefan Gymraeg sy'n ymwneud â phopeth amgylcheddol, yng Nghymru a thramor, ddoe, heddiw ac yfory. Cymraeg yw iaith y prosiect, a'r wefan, ond ceir cyfraniadau mewn ieithoedd eraill gan gynnwys y Ffrangeg.[1] Ymhlith yr adnoddau sydd ar gael ar y wefan mae:
Math | cymdeithas |
---|---|
Sefydlydd | Twm Elias, Duncan Brown |
Gwefan | http://llennatur.cymru/ |
a thu hwnt i'r wefan
Trosglwyddwyd y prif gyfrifoldeb am gasglu a rhannu gwybodaeth am Enwau Lleoedd i Gymdeithas Enwau Lleoedd Cymru yn dilyn cynhadledd a gynhaliwyd gan Brosiect Llên Natur yn 2008 yn benodol i sefydlu cymdeithas o'r fath oherwydd amlygrwydd y bwlch.
Ymhellach i'r uchod mae'r prosiect yn defnyddio fwyfwy y platfformau cyhoeddus i rannu, casglu a chadw gwybodaeth, gan gynnwys Grwp Facebook Cymuned Llên Natur, Wicipedia, a chwnmnïau cofnodi bywyd gwyllt Cymru megis Cofnod' - Y Ganolfan Gofnodion Amgylcheddol Leol ar gyfer Gogledd Cymru .
Pwrpas y Bwletin yn wreiddiol oedd cyflwyno tystiolaeth amgylcheddol unigol a phersonol yn seiliedig ar brofiadau pobl unigol yn eu broydd yn yr un modd ag elfennau eraill o Brosiect Llên Natur. Ond wrth i'r Prosiect ddatblygu ar wahanol blatfformydd mae'r Bwletin ar-lein bellach yn anelu at gyflwyno gwybodaeth thematig mwy cynhwysfawr ac yn y modd yna, ychwanegu gwerth i'r wybodaeth greiddiol. Mae'r cyfraniadau thematig hyn yn rhychwantu gwybodaeth am fywyd gwyllt, llên gwerin, dywediadau, enwau lleoedd a materion sy'n cysylltu'r unigolyn â'i amgylchedd ehangach.
Cronfa o wybodaeth yw'r Tywyddiadur wedi ei seilio ar dystiolaeth amgylcheddol dyddiedig, lleoliedig a chyda ffynhonnell yn perthyn i bob eitem. Mae'n cael ei phorthi gan wirfoddolwyr wrth i wybodaeth ddod i'r fei mewn llyfrgelloedd, archifdai, papurau newydd, cyfryngau cymdeithasol ac ati. Gall y dystiolaeth gynnwys sylwadau uniongyrchol mewn 'amser go iawn', dyddiaduron, cofnodion ysgol neu lythyrau .
Mae galluoedd chwilio'r 115,000 cofnod yn y Tywyddiadur yn caniatáu dadansoddi pob math o ddigwyddiadau sy'n ymwneud â'r tywydd a chyffelyb bynciau yn ddiweddar a thros ganrifoedd yng nghefn gwlad Cymru a thu hwnt. Mae'r adran hon yn rhyngweithiol gyda chyfle i'r defnyddiwr (y gwirfoddolwyr uchod gan fwyaf) uwchlwytho neu lawrlwytho. Dyddiaduron personol na welodd olau dydd ynghynt yw llawer o'r cofnodion, ac mae bywgraffiadau nifer o'u hawduron hefyd ar gael ar y wefan.[2]
Prif nodwedd y gronfa hon yw'r dyddiad, mis neu'r flwyddyn penodol sydd yn sail i'r cofnodion. Fe all cofnod tywydd fod yn gofnod hanesyddol neu gyfoes, megis sylwadau heddiw'r bore gan rai sy'n fyw yn awr. Ond gellir ei ddefnyddio i gyrchu diwrnod arbennig plentyndod, neu sylw mewn dyddiadur dwy ganrif yn ôl. Efallai bod cysylltiad y sylw a'r tywydd yn ymddangosiadol wan iawn: tylluan wen yn hela am dri o'r gloch y prynhawn ar ddyddiad arbennig o Chwefror; clywed y gog yn canu ddiwedd mis Mawrth; teilo cae yn barod i blannu tatws gefn gaeaf. Ond mae'r rhain hefyd yn berthnasol iawn i naturiaethwyr sy'n ceisio gweld patrwm a newid o fewn y tywydd yn y cyfnod byr a hir mewn byd y mae ei hinsawdd, ac felly ei dywydd, yn gyflym newid.
Gellir cyrchu hon trwy'r Tywyddiadur i ganfod cofnodion unigol (ee. Edward Edwards, Faenol Isaf, Tywyn) neu drwy Wicipedia i gael trosolwg o'r rhan hon o'r gwaith a mwy o wybodaeth bywgraffiadol am y dyddiadurwyr eu hunain (ee. Bywyd a gwaith Edward Edwards ).
Cynigir yn y trosolwg y syniad bod y dyddiadur angylcheddol cyffredin yn genre llenyddol sydd wedi ei hen esgeuluso. Mae Llên Natur yn ceisio rhoi llais i'r di-lais, a chanfod gwerth holl-fyd a holl berthnasol i'r hyn sy'n ymddangos yn blwyfol ac o'r foment yn unig.
Geiriadur enwau a thermau yw'r Bywiadur. Mae'n gyfrwng ar gyfer cyhoeddi termau Cymraeg am wahanol rywogaethau;[3] a chynefinoedd ac mae rhestr Wicipedia o wyfynod a gloÿnnod byw er enghraifft wedi'i seilio ar y termau hyn. Oherwydd y broses drylwyr o gydweithio rhwng arbenigwyr iaith ac arbenigwyr pwnc ar Banel Enwau a Thermau Prosiect Llên Natur, caiff yr enwau, bellach, eu cyfrif yn rhai safonol.
Sefydlwyd yr adran hon o'r wefan trwy gydweithio â'r adran adnoddau ieithyddol, Prifysgol Bangor. Fe gyhoeddwyd y rhestrau yn gyntaf mewn tair cyfrol yn "Cyfres Enwau Creaduriaid a Phlanhigion" ac fe barheir i wneud hynny fel y mae'r gwaith o lunio ychwaneg o restrau yn mynd rhagddo. Rhestr ddigidol greiddiol y Bywiadur yw Porth Termau Adran Adnoddau Ieithyddol Prifysgol Bangor a fe ellir defnyddio'r naill neu'r llall yn ôl cyfleustra.
Yr hyn sydd yn gwneud yr Oriel yn wahanol i lawer o gasgliadau eraill o luniau yw'r capsiynau y mae'r cyfranwyr yn eu hychwanegu. Gall y capsiwn gynnwys dyddiad a lleoliad y tynnwyd y llun a hefyd esboniad o beth yw arwyddocad y llun. Cronfa o gofnodion dadlennol ydyw, yn hytrach na chasgliad o luniau hardd yn unig. Gellir chwilio ar sail gair yn y capsiwn neu ar sail categori. Cafodd yr Oriel ei ddisodli braidd yn ddiweddar gan rym grwp Cymuned Llên Natur ond mae ei 9 mil o luniau a chapsiynau yn parhau i fod yn gronfa werthfawr wrth gefn.
Cronfa o sgyrsiau byrion "hanes llafar" sydd yn yr adran Llais . Mae'n gofnod sain o atgofion unigolion (nifer wedi marw bellach) yn eu cynefin, am eu bywyd ac am yr oes a fu, yn ôl eu profiad personol. Mae'r cyfraniadau yn ymdrin â rhyw agwedd ar fyd natur neu'r amgylchedd o fewn profiad personol y sawl sydd yn cael ei gyfweld/chyfweld. Ceir llun y person ac ychydig nodiadau am ei fywyd/bywyd, ac mae pob sgwrs yn ymdrin â rhyw hanesyn penodol. Cewch weld ar y map yr ardal y mae'r person yn ymdrin â hi (neu, mewn ambell achos, pan fydd yr ardal dan sylw ymhell i ffwrdd, cartref genedigol y person sydd yn rhoi'r cyfweliad). Mae'r recordiadau sain yn gyfres o sgyrsiau
Mae'r llyfrgell yn gasgliad o ysgrifau o ddiddordeb amgylcheddol a hanesyddol nad ydynt fel arfer wedi eu cyhoeddiunman arall. Mae tri phwrpas i'r Llyfrgell:
Collwyd rhai cyfraniadau gwreiddiol ar ôl ymyrraeth hacwyr ar fersiwn wreiddiol y wefan.
Archif yw hwn bellach ar ôl i rym Cymuned Llên Natur roi i aelodau yr un gwasanaeth ond yn llawer mwy effeithiol.
Hon ydy'r adran diweddaraf i'w chael ei sefydlu ar y wefan. Pwrpas y dudalen fapiau yw cyflwyno gwybodaeth sy'n bennaf seiliedig ar LEOLIAD. Y pwrpas yw ceisio amlygu patrymau na fuasent yn amlwg heb eu rhoi ar fap. Mae mapiau aml-lefel yn caniatau dangos gwybodaeth lawn am bob cofnod heb greu dryswch ar unrhyw olygfa unigol ohono.
Dyma'r mapiau sydd ar gael (Rhagfyr 2020) o dan gyfres o themau: mae pump thema gwahanol ar gael ar hyn o bryd...
● Thema arsylwi rhywogaethau: map rhyngweithiol cofnodion Gwalchwyfyn y Taglys ● Thema meddyginiaethau gwerin: un map hyd yma (y defnydd o ddanadl poethion yn seiliedig ar astudiaeth Ann Elizabeth Williams) ● Thema enwau lleoedd: dosbarthiad pedwar enw ar y LLWYNOG yng Nghronfa Ddata Enwau Lleoedd Melville Richards ● Thema Daeareg: dosbarthiad graddfeydd o gryndod Daeargryn 1984 yn ôl cof llygad-dystion ● Thema Adar: dosbarthiad graddfeydd o amlder clywed y gôg adeg Cau Mawr Cofid 2020
Grwp Facebook yw Cymuned Llên Natur . Mae'n derbyn mae'n debyg 80% o'r traffig sy'n cyrraedd Prosiect Llên Natur ar y ffurf mwyaf 'amrwd' sy'n nodweddiadol o'r cyfryngau cymdeithasol. O'i brosesu mae'n porthi holl adrannau eraill y cyfrwng ac yn ei dro yn derbyn gwybodaeth ohonynt wedi ei brosesu i gyfoethogi'r sylwadau sy'n cyrraedd o ddydd i ddydd. Mae 3,600 aelod o'r Grwp (Rhagfyr 2020).
Sefydlwyd cwmni theatrig o'r enw Cwmni Pendraw gyda chysylltiad llac â Phrosiect Llên Natur. Pwrpas y cwmni yw cyflwyno negeseuon amgylcheddol mewn ffordd ddramatig.
Yn 2020 sefydlwyd Grwp FB i blant (o bob oed!) a theuluoedd. Fe'i modelwyd ar yr hen lyfrau I-Spy. Cyhoeddir posteri "adnabod" sy'n cynnwys sain adar. Fe'u gwelir fel Posteri ar dudalennau cyhoeddiadau gwefan Llên Natur . Anogir plant i adnabod y rhywogaethau yn y posteri, neu i'w gweld yn y maes. Cânt eu gwobrwyo am adnabod yn gywir gyda phwyntiau. Mae bathodyn deniadol i'w cael o ennill digon o bwyntiau.
Hwn yw'r platfform diweddaraf i Llên Natur gael presenoldeb arno. Mae'n gweithio o ap. o'r un enw ac mae Llên Natur yn ymddangos ar eu hadran Geiriau (un o bedair adran ar yr ap.) neu drwy chwiliad. Ar hyn o bryd 'ffenestr siop' ydyw i gyhoeddiadau Llên Natur ond rydym yn gwyntyllu posibiliadau eraill.
Gellir cysylltu â'r prosiect trwy ffurflen "cysylltu" ar y wefan (www.llennatur@yahoo.com), trwy gyfrannu data neu luniau i'r gwahanol gronfeydd, neu trwy Facebook. Cyhoeddir crynodeb papur o gynnwys y Bwletin yn chwe misol i'w werthu yn y siopau, a chynhelir cynhadledd flynyddol ar thema arbennig yn flynyddol.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.