Facebook

From Wikipedia, the free encyclopedia

Facebook

Gwefan rwydweithio cymdeithasol yw Facebook, yn debyg i Bebo a MySpace. Yn anffurfiol, defnyddir yr enw Gweplyfr arno yn y Gymraeg.[1]

Ffeithiau sydyn Enghraifft o:, Crëwr ...
Facebook
Thumb
Thumb
Enghraifft o:gwasanaeth rhwydweithio cymdeithasol, gwefan, cyfryngau cymdeithasol, user-generated content platform, cymuned arlein, very large online platform 
CrëwrMark Zuckerberg 
AwdurMark Zuckerberg, Eduardo Saverin, Dustin Moskovitz, Chris Hughes 
IaithSaesneg, Tsieineeg Traddodiadol, Tsieineeg Syml, Japaneg 
Dechrau/Sefydlu4 Chwefror 2004 
PerchennogMeta Platforms 
GweithredwrMeta Platforms 
SylfaenyddMark Zuckerberg, Eduardo Saverin, Dustin Moskovitz, Chris Hughes 
Gwefanhttps://www.facebook.com 
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Cau

Hanes

Pan lansiwyd Facebook yn 2004 gan Mark Zuckerberg, roedd aelodaeth wedi ei gyfyngu i fyfyrwyr Prifysgol Harvard, ac yna fe ehangwyd i sawl prifysgol arall yn yr Unol Daleithiau.[2] Yn raddol ehangwyd yr aelodaeth i unrhyw un oedd â chyfeiriad e-bost sefydliad addysgol (e.e. .edu, .ac.uk, ayyb) ar draws y byd, ac yn 2006 agorwyd y wefan i unrhyw berson. Mae'r defnyddwyr yn creu pwll o Ffrindiau ac yn danfon gwybodaeth a negeseuon at ei gilydd neu eu gosod ar eu tudalennau.

Ym Medi 2012, roedd gan Facebook dros biliwn o ddefnyddwyr,[3] a chredir bod 8.7% o'r rheiny yn rhai ffug.[4]

Achos llys

Yn 2007 aed a Mark Zuckerberg i'r llys gan gwmni ConnectU.com gan honni ei fod wedi dwyn eu syniad nhw am y wefan, ac wedi oedi datblygiad eu gwefan nhw'n fwriadol wrth weithio iddynt yn 2003.[5]

Nodweddion

  • Mae'n rhaid cofrestru â Facebook cyn cael mynediad i'r wefan.
  • Gellir dewis ymuno â rhwydweithiau a seilir ar leoliad daearyddol (gwladwriaeth, gwlad neu ddinas), sefydliad addysg neu gyflogwr.

Ieithoedd Facebook

Yn 2008 fel rhan o ddatblygiad Facebook ychwanegwyd rhyngwyneb amlieithog o ddewis y defnyddiwr. Ymhlith yr ieithoedd y gellir eu defnyddio mae'r canlynol:

  • Cymraeg
  • Saesneg
  • Sbaeneg
  • Catalaneg
  • Norwyeg
  • Almaeneg
  • Tsieceg
  • Tsieinëeg
  • Daneg
  • Ffinneg
  • Eidaleg
  • Iseldireg
  • Pwyleg
  • Rwsieg
  • Swedeg
  • Tyrceg
  • Portiwgaleg (Brasil)
  • Siapaneg
  • Coreg

Preifatrwydd a diogelwch

Cafwyd sawl cwyn am ddiffyg preifatrwydd ar Facebook. Yn 2010, datgelwyd fod nifer o raglenni fel gemau ar Facebook yn hel gwybodaeth bersonol a bod rhai'n eu pasio ymlaen (neu eu gwerthu) i gwmnïau eraill. Roedd hyn yn digwydd hyd yn oed ar ôl i ddefnyddwyr Facebook ddewis lefel diogelwch gwybodaeth uchaf posib. Roedd y wybodaeth a "ffermiwyd" felly'n cynnwys enwau go iawn, cyfeiriadau a gwybodaeth bersonol arall. Ym mis Hydref 2010, ar ôl wynebu bygythiad o gael achos llys yn eu herbyn yn yr Unol Daleithiau, mynnodd Facebook eu bod wedi cymryd camau i atal hynny.[6]

Cyfeiriadau

Dolenni

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.