Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru
From Wikipedia, the free encyclopedia
Mudiad sydd â'r nod o hybu ymwybyddiaeth, astudiaeth a dealltwriaeth o enwau lleoedd a’u perthynas ag ieithoedd, amgylchedd, hanes a diwylliant Cymru yw Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru.
![]() | |
Sefydlwyd | 1 Hydref 2011 |
---|---|
Gwefan | www.cymdeithasenwaulleoedd.cymru |
Cadeirydd | Yr Athro David Thorne |
Hanes y Gymdeithas
Ar 20 Tachwedd 2010 trefnodd Prosiect Llên Natur Cymdeithas Edward Llwyd gynhadledd ar bwnc enwau lleoedd ym Mhlas Tan y bwlch. Yn y cyfarfod hwnnw fe gytunwyd mewn egwyddor i sefydlu Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru.[1] Daeth y Gymdeithas i fodolaeth ffurfiol mewn cynhadledd a gynhaliwyd ar 1 Hydref 2011 yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru drwy gydweithrediad Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru.[2]
Gweithgaredd
Mae'r Gymdeithas yn cynnal cynhadledd flynyddol ac yn cyhoeddi bwletin ddwywaith y flwyddyn. Mae hefyd yn cynnal amrywiaeth o brosiectau a digwyddiadau mewn gwahanol rannau o Gymru.
Cyfeiriadau
Dolen allanol
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.