From Wikipedia, the free encyclopedia
Canolfan ymchwil Cymreig a Cheltaidd yw Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, a leolir ar safle ger Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth, Ceredigion. Mae'n rhan o Brifysgol Cymru. Mae'n "cynnal prosiectau cydweithredol ar iaith, llên a hanes Cymru a’r gwledydd Celtaidd eraill."[1] Un o brif amcanion y ganolfan yw cyhoeddi gwaith anolygedig y beirdd Cymraeg canoloesol, yn cynnwys Beirdd y Tywysogion a Beirdd yr Uchelwyr. Agorwyd y ganolfan ar 28 Mai, 1993, gan yr Arglwydd Cledwyn o Benrhos.[2] Cyfarwyddwr y ganolfan ers Hydref 2008 oedd yr Athro Dafydd Johnston.[3] Penodwyd yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones yn Gyfarwyddwr yn Ionawr 2021.[4] Mae Elin hefyd yn bennaeth ar Sefydliad Mercator sydd nawr hefyd wedi ei lleoli yn y Ganolfan.
Enghraifft o'r canlynol | sefydliad |
---|---|
Pencadlys | Aberystwyth |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.