Remove ads
From Wikipedia, the free encyclopedia
Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn 2017 ger Bodedern, Ynys Môn, ar 4-12 Awst 2017. Cyhoeddwyd yr Eisteddfod ar 26 Mehefin 2016 yn neuadd yr ysgol uwchradd yng Nghaergybi, gyda'r Archdderwydd Geraint Llifon wrth y llyw.[2] Roedd yr Eisteddfod yn cynnal prosiect i ddathlu canmlwyddiant Eisteddfod y Gadair Ddu a gynhaliwyd ym Mhenbedw ym 1917.[3] Rhoddwyd targed o £325,000 i'r gronfa leol, a chafwyd record newydd ar y pryd, gan guro cyfanswm 2014 yn Sir Gâr, with i drigolion Môn godi £412,000.[4] Am y tro cyntaf, roedd modd gwrando ar gyfeiliannau ar gyfer y darnau gosod ar wefan yr Eisteddfod.[5]
← Blaenorol | Nesaf → | |
Lleoliad | Bodedern | |
---|---|---|
Cynhaliwyd | 4-12 Awst 2017 | |
Archdderwydd | Geraint Llifon | |
Daliwr y cleddyf | Robin o Fôn | |
Cadeirydd | Derec Llwyd Morgan | |
Nifer yr ymwelwyr | 147,498 | |
Enillydd y Goron | Gwion Hallam | |
Enillydd y Gadair | Osian Rhys Jones | |
Gwobr Daniel Owen | Neb yn deilwng | |
Gwobr Goffa David Ellis | Steffan Prys Roberts | |
Gwobr Goffa Llwyd o’r Bryn | Carys Bowen | |
Gwobr Goffa Osborne Roberts | John Ieuan Jones | |
Gwobr Richard Burton | Sara Anest Jones | |
Y Fedal Ryddiaith | Sonia Edwards | |
Medal T.H. Parry-Williams | Dan Puw | |
Y Fedal Ddrama | Heiddwen Tomos | |
Dysgwr y Flwyddyn | Emma Chappell | |
Tlws y Cerddor | Neb yn deilwng | |
Ysgoloriaeth W. Towyn Roberts | Sarah Gilford | |
Medal Aur am Gelfyddyd Gain | Cecile Johnson Soliz[1] | |
Medal Aur am Grefft a Dylunio | Julia Griffiths Jones | |
Gwobr Ifor Davies | Rhannwyd rhwng Peter Davies, Peter Finnemore, Pete Telfer a Christine Mills | |
Gwobr Dewis y Bobl | Julia Griffiths Jones | |
Ysgoloriaeth yr Artist Ifanc | Marged Elin Owen | |
Medal Aur mewn Pensaernïaeth | Stride Treglown | |
Ysgoloriaeth Pensaernïaeth | Myfyr Jones-Evans | |
Medal Gwyddoniaeth a Thechnoleg | Deri Tomos |
Enillydd y gadair oedd Osian Rhys Jones (ffugenw Gari); roedd 12 ymgais a'r dasg oedd llunio awdl ar fwy nag un o'r mesurau traddodiadol, heb fod yn fwy na 250 o linellau o dan y teitl Arwr neu Arwres. Traddodwyd y feirniadaeth gan Peredur Lynch ar ran ei gyd-feirniaid Huw Meirion Edwards ac Emyr Lewis. Dywedodd y beirniaid fod hi'n gystadleuaeth agos a bod tri yn deilwng o'r gadair gyda dau o'r tri beirniad yn ffafrio Gari.
Enillydd y goron oedd Gwion Hallam (ffugenw 'elwyn/ annie/ janet/ jiws.') o Felinheli ger Caernarfon; roedd 34 wedi cystadlu a'r dasg oedd ysgrifennu pryddest ar y testun 'Trwy Ddrych'. Traddodwyd y feirniadaeth gan M. Wynn Thomas ar ran ei gyd-feirniaid Glenys Mair Roberts a Gwynne Williams.[6]
Tasg y gystadleuaeth oedd creu nofel heb ei chyhoeddi gyda llinyn storïol cryf, heb fod yn llai na 50,000 o eiriau. Y wobr oedd Medal Goffa Daniel Owen a £5,000, yn rhoddedig gan Ann Clwyd er cof am ei phriod Owen Roberts, Niwbwrch. Cafwyd 13 o nofelau ond nid oedd yr un ymgais yn haeddu’r wobr yn ôl y beirniaid Bethan Gwanas, Caryl Lewis a’r diweddar Tony Bianchi.
Enillydd y fedal oedd Sonia Edwards o Langefni ddeunaw mlynedd ar ôl iddi ennill y fedal yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Ynys Môn 1999. Y dasg oedd cyfansoddi cyfrol o ryddiaith greadigol heb fod dros 40,000 o eiriau ar y thema 'Cysgodion' gyda gwobr ariannol o £750 yn ogystal a'r fedal. Derbyniwyd 20 o gyfrolau eleni a traddodwyd y feirniadaeth gan Gerwyn Williams ar ran ei gyd-feirniaid Francesca Rhydderch a Lleucu Roberts.[7]
Y dasg oedd cyfansoddi darn i fand pres yn seiliedig ar y thema seryddiaeth, sêr, planedau a / neu’r gofod, heb fod yn hwy na saith munud. Cafwyd naw ymgais ond nid oedd neb yn deilwng o'r wobr eleni, yn ôl y beirniaid Geraint Cynan, Branwen Gwyn a Philip Harper.[8]
Enillydd y fedal oedd Heiddwen Tomos, yn wreiddiol o Lanybydder sydd nawr yn byw ym Mhengarreg, am ei drama Milwr yn y Meddwl; roedd 17 o ymgeiswyr a'r dasg oedd ysgrifennu ddrama lwyfan heb unrhyw gyfyngiad o ran hyd. Y beirniaid oedd Siân Summers, Sara Lloyd a Tony Llewelyn Roberts.
Bu Mari Lloyd Pritchard yn cyd-lyny ac arwain prosiect creadigol oedd yn cynnwys Aled a Dafydd Hughes o'r band Cowbois Rhos Botwnnog er mwyn cofio aberth y Cymry yn y Rhyfel Byd Cyntaf, gan gydweithio gydag amryw o artistiaid a pherfformwyr er mwyn creu cyfanwaith newydd ym mhafiliwn yr Eisteddfod gan gynnwys cyngerdd Côr yr Eisteddfod. Bydd y bardd Guto Dafydd a Grahame Davies a'r cyfansoddwr Paul Mealor o Lanelwy, Sir Ddinbych hefyd yn rhan o'r prosiect.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.