From Wikipedia, the free encyclopedia
Cyn-chwaraewr rygbi'r undeb o Gymru ydy Robin Currie McBryde (ganed 3 Gorffennaf 1970).[1] Enillodd 37 cap dros Gymru fel bachwr rhwng 1994 a 2005.
Robin McBryde | |
---|---|
Ganwyd | 3 Gorffennaf 1970 Bangor |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | chwaraewr rygbi'r undeb |
Taldra | 183 centimetr |
Pwysau | 98 cilogram |
Chwaraeon | |
Tîm/au | Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru, Clwb Rygbi Llanelli, Clwb Rygbi Abertawe |
Safle | Bachwr (rygbi) |
Gwlad chwaraeon | Cymru |
Ganed McBryde ym Mangor, a cafodd ei fagu yn Llanfechell, Ynys Môn yn fab i John (1946–2007) a Diana (1941-2019). Mae ganddo ddwy chwaer, Naomi a Beth. Mynychodd Ysgol Tryfan, Bangor.[2] Roedd ei fam Diana McBryde yn Bennaeth Chwaraeon yn Tryfan hyd ei ymddeoliad yn 2001.[3] Enillodd gystadleuaeth 'Dyn Cryfa Cymru' yn 1992.
Dechreuodd chwarae rygbi gyda chlybiau Bangor, Porthaethwy a'r Wyddgrug, cyn symud i dde Cymru, ble ymunodd â chlwb Abertawe ac yna Llanelli. Ef oedd capten Llanelli pan enillant y Gwpan yn 1998 a Phencampwriaeth Cymru yn 1999 ac aeth ymlaen i chwarae dros y Scarlets pan ffurfwyd y tîm rhanbarthol yn 2003. Chwaraeodd 250 o gemau dros Lanelli a'r Scarlets rhwng 1994 a 2005.
Enillodd ei gap cyntaf dros Gymru yn erbyn Fiji yn 1994. Chwaraeoddd ei gêm olaf dros Gymru yn erbyn Iwerddon yn Mawrth 2005 pan enillodd Cymru'r Gamp Lawn. Cafodd ei ddewis ar gyfer taith y Llewod i Awstralia yn 2001, ond achos anaf iddo fethu'r daith.
Fel hyfforddwr blaenwyr Cymru, aeth allan i Gwpan Rygbi'r Byd Japan yn Hydref 2019. Bu farw ei fam Diana yn 78 mlwydd oed ar 13 Hydref 2019 ond arhosodd yn Japan i weithio gyda'r garfan, gan ddweud fod "neb yn fy nghefnogi mwy" na'i fam.[4]
Wedi iddo ymddeol, cafodd ei benodi'n hyfforddwr tîm dan 18 y Scarlets ac yna fel hyfforddwr y blaenwyr ar gyfer tîm cenedlaethol Cymru. Yn Mehefin 2009 fe oedd prif hyfforddwr dros dro y tîm cenedlaethol yn ystod eu taith dwy gêm yng Ngogledd America.
Yn dilyn Cwpan Rygbi'r Byd 2019 bydd yn gadael y tîm rygbi cenedlaethol ar ôl 13 mlynedd gan gymryd swydd fel un o hyfforddwyr tîm Leinster.[5]
Yn 2007, tra roedd Ray Gravell yn sâl, gofynnwyd i Robin McBryde fod yn Geidwad y Cledd yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir y Fflint a'r Cyffiniau 2007. Yn dilyn marwolaeth Ray Gravell y flwyddyn honno, cyhoeddwyd mai McBryde fyddai Ceidwad y Cledd o hynny ymlaen.[2][6] "Robin o Fôn" yw ei enw barddol.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.