tîm rygbi'r undeb yng Nghymru From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Clwb Rygbi Llanelli yn dîm Rygbi'r Undeb Cymreig a sefydlwyd yn 1872. Maent yn chwarae mewn coch a gwyn, a'u maes yw Parc y Scarlets, Llanelli. Cân Llanelli yw "Sosban Fach", cân sydd wedi dod yn gyfystyr a'r clwb bellach.
Math | tîm rygbi'r undeb |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Prifadran Cymru |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.686944°N 4.175278°W |
Mae Llanelli bron bob amser wedi bod yn un o dimau clwb cryfaf Cymru. Eu hoes aur, mae'n debyg, oedd yn nechrau'r 1970au pan oedd Carwyn James yn hyfforddwr arnynt. Yn y cyfnod yma enillasant Gwpan Cymru bedair gwaith yn olynol rhwng 1973 a 1976, yn ogystal â churo tîm y Crysau Duon mewn gêm enwog yn 1972. Cafodd Llanelli fuddugoliaeth dros Awstralia yn 1967 a chawsant gêm gyfartal gyda hwy yn 1975.
Chwaraeodd y clwb ym Mhrifadran Cymru yn 2012/13. Maent yn bwydo i mewn i dîm Scarlets Llanelli sy'n chwarae yn y Gynghrair Geltaidd.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.