Mae'r erthygl hon yn ymwneud ag arwyddocâd penodol y flwyddyn 1839 i Gymru a'i phobl .
Murlun coffa'r Siartwyr, Casnewydd
Cartŵn Punch am helyntion Beca
John Frost , cyn-faer Casnewydd , yn cael ei amddifadu o'i swydd fel ynad oherwydd ei gydymdeimlad â Siartiaeth .
30 Ebrill - Siartwyr yn terfysgu yn Llanidloes ac yn cipio rheolaeth ar y dref am bum niwrnod.
7 Mai - Arestio Henry Vincent ar ôl annerch cyfarfod Siartaidd a'i gludo i garchar Trefynwy .[1]
13 Mai - Dechrau Helyntion Beca .
25 Gorffennaf - William Ewart Gladstone yn priodi Catherine Glynne o Benarlâg.
1 Awst - Agoriad athrofa'r Bedyddwyr yn Hwlffordd
28 Awst - Mary Anne Lewis , gweddw AS Caerdydd, Wyndham Lewis, yn priodi Benjamin Disraeli .[2]
5 Hydref - Agor Doc Gorllewinol Tre-biwt.[3]
4 Tachwedd - Terfysg Casnewydd : mae rhwng 5,000 a 10,000 o gydymdeimlwyr Siartaidd dan arweiniad John Frost, llawer ohonynt yn lowyr, yn gorymdeithio i Westy Westgate yng Nghasnewydd, Sir Fynwy , i ryddhau carcharorion Siartaidd; mae tua 22 yn cael eu lladd pan mae milwyr, dan gyfarwyddyd Thomas Phillips , y maer, yn saethu at y dorf.[4]
23 Tachwedd - Arestio Zephaniah Williams , un o arweinwyr gorymdaith y Siartwyr i Gasnewydd, ar fwrdd llong yng Nghaerdydd .[5]
Syr Thomas Frankland Lewis [6] Thomas Frankland Lewis yn ymddiswyddo fel cadeirydd Comisiwn Cyfraith y Tlodion, i gael ei olynu gan ei fab, George Cornewall Lewis .[7]
Charles Williams yn cael ei benodi'n ddarlithydd, athro, a thrysorydd Coleg yr Iesu, Rhydychen [8]
Agoriad Coleg Annibynnol Aberhonddu
Llyfrau newydd
John Davies, Aberdâr - Y Ffordd Dda pregeth a draddododd yng Nghapel Ebeneser, Aberdâr, 9 Medi 1839 i gefnogi Siartiaeth [9]
William Williams (Caledfryn) – Drych Barddonol
Maria James - Wales and other Poems [10]
James Evan (Carneinion) - Y Cristion Dyddorgar: neu Lawlyfr i Broffeswyr Crefydd [11]
Evan Breeze (Cadfan) - Yr Odlydd Cysurus, Cyfaill i'r trallodus [12]
John Dorney Harding - Essay, on the Influence of Welsh Tradition upon European Literature [13]
John Owen - Coffhad am Daniel Rowlands Llangeitho [14]
John Williams (Ioan ap Ioan) - Lloffyn y Prydydd [15]
Cranogwen
Y Cwilsyn Gwyn
9 Ionawr - Sarah Jane Rees (Cranogwen), ysgrifennwr (bu f. 1916) [19]
24 Ionawr - Dan Isaac Davies , addysgwr (bu f. 1887) [20]
30 Ionawr - John Davies (Ossian Gwent) , bardd (bu f. 1892) [21]
10 Chwefror - Thomas Jones (Cynhaiarn), cyfreithiwr a bardd (bu f. 1916) [22]
17 Ionawr - Robert Alfred Cunliffe , Aelod Seneddol Bwrdeistrefi Fflint a Bwrdeistrefi Dinbych (bu f. 1905) [23]
13 Chwefror - Robert Bird, gwleidydd (bu f. 1909) [24]
14 Chwefror - Anna Fison (Morfudd Eryri), ieithydd, eisteddfodwraig, bardd ac addysgydd (bu f. 1920) [25]
7 Mawrth - Ludwig Mond, diwydiannwr a anwyd yn yr Almaen (bu f. 1909)
31 Mawrth - Thomas Henry Thomas (Arlunydd Penygarn), arlunydd (bu f. 1915) [26]
2 Mai - Gwilym Williams (Ab Alaw Goch), barnwr (bu f. 1906) [27]
9 Mai - William Morris Lewis , gweinidog (MC) [28]
12 Mehefin - Edward James, gweinidog Annibynnol (bu f 1904) [29]
12 Awst - Owen Griffith (Eryr Eryri) , Cerddor (bu f. 1903) [30]
Medi - Edward Pritchard, peiriannydd sifil (bu f. 1900) [31]
24 Medi - John Neale Dalton, caplan brenhinol a thiwtor (bu f. 1931)
12 Hydref - Thomas Howells (Hywel Cynon), glöwr, argraffydd, cerddor, bardd, a phregethwr (bu f 1905) [32]
11 Rhagfyr - John Thomas, Llanwrtyd, cerddor (bu f. 1921) [33]
Dyddiad anhysbys
John Evans Jones (Y Cwilsyn Gwyn) newyddiadurwr (bu f. 1893) [34]
Richard Owen (Y Diwygiwr) gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd [35]
Thomas Thomas, gweinidog gyda'r Wesleaid ac awdur (bu f. 1888) [36]
Carreg Bedd Syr Charles Paget, Bermuda
27 Ionawr - yr Is-lyngesydd Syr Charles Paget , morwr a gwleidydd [37]
31 Ionawr - John Ellis, cyfrwywr a cherddor (g 1760) [38]
16 Chwefror - John Pugh (Ieuan Awst) cyfreithiwr a bardd (g 1783) [39]
11 Mai - "Doctor" John Harries , Cwrt-y-cadno, Dyn Hysbys, (g c1785) [40]
16 Mai - Edward Clive, Iarll 1af Powis, 84 [41]
20 Mai - Rice Rees, hanesydd, (g 1804) [42]
23 Mai - Owen Williams, cerddor (g 1774) [43]
20 Mehefin - Richard Williams (Dryw Bach), bardd a datganwr (g 1790) [44]
20 Gorffennaf - Griffith Hughes, gweinidog Annibynnol (g 1775) [45]
6 Medi - Evan Griffiths, gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd (g. 1778) [46]
29 Rhagfyr - Hopkin Bevan, gweinidog ac awdur, 74
Dyddiad anhysbys
Benjamin Phillips, gweinidog gyda'r Bedyddwyr Undodaidd (g 1750) [47]
Henry Evans, gweinidog gyda'r Bedyddwyr Albanaidd (g c1787) [48]
Rhestrau'r 19eg Ganrif yng Nghymru