cerddor (1839 -1903) From Wikipedia, the free encyclopedia
Roedd Owen Griffith (Eryr Eryri) (12 Awst 1839 – 4 Ionawr 1903) yn gerddor, yn ganwr ac yn arweinydd corau o Gymru.[1]
Ganwyd Eryr Eryri yn Nhyrpeg Pen Llyn, ger Cwm y Glo, yn blentyn i Gruffydd Owen ac Elen ei wraig, cafodd ei fedyddio yn eglwys blwyf Llanrug ar 13 Awst 1839.[2]. Roedd Gruffydd Owen hefyd yn gerddor, a fu'n athro gwledig mewn cerddoriaeth, yn awdur amryw donau ac anthemau, arweinydd band pres Llanrug a chôr capel Llanrug.[3] Bu farw Gruffydd Owen o'r diciâu pan oedd yr Eryr yn fachgen ifanc, gan hynny ni chafodd yr Eryr dim addysg ddyddiol ffurfiol heblaw am yr hyn dysgodd yn yr ysgol Sul.[4]
Dechreuodd Eryr Eryri gweithio yn y chwareli llechi pan oedd tua 11 oed, a chwarelwr bu ei alwedigaeth am weddill ei yrfa gwaith.
Roedd anian canu ynddo yntau, fel yn ei dad; ac ymunodd â chôr Waunfawr pan yn bur ifanc. Gan arweinydd y côr, Pierce Williams, cafodd ei addysg gerddorol gynharaf. Ym 1862 cafodd llwyddiant fel arweinydd parti bach yr Eryri Glee Society gan gipio'r wobr gyntaf yn Eisteddfod Fawr Caernarfon.
Ym 1868 fe gymerodd yr Eryr lle ei athro cerddorol gan ddod yn arweinydd côr Waunfawr. Ym 1871 unodd côr Waunfawr gyda chôr Llanberis i ffurfio côr mawr o'r enw "Côr Undebol Eryri". Bu'r côr undebol yn hynod lwyddiannus yn yr eisteddfodau lleol yng ngogledd Cymru ac ym 1875 cipiodd y brif wobr ar gyfer corau mawr yn Eisteddfod Genedlaethol, Pwllheli.[6] Buddugoliaeth fwyaf y côr oedd ei fuddugoliaeth yn Eisteddfod Genedlaethol Penbedw 1878, pan oedd corau mawr y deheudir yn cystadlu yn erbyn corau'r gogledd am y tro cyntaf.[7]
Yn fuan wedi llwyddiant Penbedw roddodd y gorau i arwain y côr. Roedd ef am i'r côr troi yn gôr cyngerdd i berfformio rhai o'r gweithiau mawr yn eu cyfanrwydd, yn hytrach na pharhau i fod yn gôr cystadlu yn perfformio darnau unigol. Doedd aelodau'r côr ddim yn rhannu ei weledigaeth.[8]
Yn ogystal â bod yn arweinydd côr bu'r Eryr yn unawdydd poblogaidd. Roedd ganddo lais bas ac fe fu yn perfformio mewn cyngherddau a gynhaliwyd trwy Gymru gyfan a gan y cymdeithasau Cymreig yn ninasoedd Lloegr. Bu'n canu ar yr un llwyfan â Megan Watts, Eos Morlais, Dr Joseph Parry, Llew Llwyfo, Signor Paggi, Gaynor Griffiths a llu o enwogion eraill ei ddydd.[9]
Bu galw mawr ar yr Eryr i fod yn feirniad ar ganu a chyfansoddi mewn eisteddfodau a chyfarfodydd cystadleuol trwy'r wlad, a bu ganddo enw da am ei degwch wrth feirniadu a'r modd y byddai'n rhoi cefnogaeth a chyngor i'r sawl na ddaeth i frig cystadlaethau.[9]
Roedd yn flaenor ac yn godwr canu i'r Methodistiaid Calfinaidd yn Llanberis a Llanrug a gwasanaethodd ei enwad trwy wneud teithiau rheolaidd o amgylch yr ysgolion Sul i ddysgu'r tonic sol-ffa i'r mynychwyr.[10]
Cyfansoddodd degau o donau ar gyfer caneuon, anthemau, darnau corawl, darnau cystadleuol a chaneuon cyngerdd a oedd yn hynod boblogaidd yn ei ddydd. Ymysg ei gyfansoddiadau mwyaf poblogaidd oedd Mae'r olwyn yn troi, Wyled yr Awen, Gwyn eu byd y tlodion yn yr ysbryd, Da was, da a ffyddlon, Fy annwyl Walia wen, a Y fam a'i phlentyn; ei gampwaith oedd Ar lan afonydd Babel a aeth trwy chwech neu saith adargraffiad.[9]
Ym 1864 priododd Eryr Eryri â Mary Jones, London House , Waunfawr.[11] Bu iddynt bedwar o blant. Bu farw Mary ym 1881 yn 39 mlwydd oed.[12] Ym 1882 ail briododd yr Eryr, ei wraig newydd oedd Jane Roberts, Glyn Padarn, Llanbadarn; bu iddynt un mab.[13]
Wedi salwch hir a orfododd iddo ymadael a'i gwaith yn y chwarel a'i gyfraniadau at fyd cerdd bu farw Eryr Eryri yn ei gartref yn Llanrug. Claddwyd ei weddillion ym mynwent y plwyf. Gan fod gymaint o bobl yr oedd wedi arwain a hyfforddi yn gerddorol wedi mynychu'r angladd honnwyd mai'r canu ar lan ei fedd oedd y canu angladdol gorau a fu yn yr ardal erioed.[14]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.