Mewn ieithyddiaeth mae cyfieithiad benthyg yn derm ar gyfer gair neu ymadrodd benthyg am beth neu gysyniad sydd wedi ei chyfieithu'n llythrennol, gair-am-air neu wraidd-wrth-wraidd o iaith estron. Yn aml gall y gair neu'r ymadrodd benthyg wedi'i gyfieithu wneud dim synnwyr yn yr iaith darged heb wybod y cyd-destun neu ystyr y gair yn yr iaith ffynhonnell.
Cyfieithiad a benthyciad yw cyfieithiad benthyg ar yr un pryd. Er enghraifft, mae ci a poeth yn cyfateb i'r Saesneg dog a hot. Felly mae ci poeth ~ poethgi yn cyfieithu ar ddelw'r Saesneg hot dog.
Mae calque ei hun yn air benthyg o'r enw Ffrangeg calque ‘dargopi, trasiad; dynwared, copi agos’ (cynigir dynwarediad fel cyfieithiad Gymraeg o'r Saesneg calque yn Geiriadur yr Academi[1]). Mae'r ferf calquer yn golygu ‘dargopïo, trasio; dynwared yn agos’; papier calque yw papur trasio yn y Ffrangeg.[2] Mae gair benthyg ~ benthycair yn y Gymraeg ei hun yn cyfieithiad benthyg o'r Saesneg loanword sydd ei hun, yn ei dro, yn cyfieithiad benthyg o'r gair Almaeneg Lehnwort.[3]
Cyfieithiadau benthyg yn y Gymraeg
Mae cyfieithiadau benthyg yn frith yn yr iaith Gymraeg, yn enwedig yr iaith lafar. Er enghraifft:
- llifolau, ar ddelw'r Saesneg floodlight
- Gwlad yr Iâ, ar ddelw'r S. Iceland, ffrwyth camdarddiad poblogaidd o ice ‘iâ’ + land ‘gwlad’ (er bod yr enw'r wlad brodorol Islandeg Ísland yn golygu ‘ynys’, sy'n cyfateb i'r S. island)
- llawysgrif, ar ddelw'r Lladin manūscrīptum ‘llawysgrifen, ysgrifen â’r llaw’ o'r geiriau manū- ‘llaw’ a scrīptum ‘ysgrifen’
- llygoden, ar ddelw'r S. mouse cyfrifiadurol, y teclyn tywys ar y cyfrifiadur
- rhai weithiau, ar ddelw'r S. sometimes
Cyfieithiad rhannol
Mae benthyciad cymysg(iaith) neu ran-cyfieithiad benthyg (loan blend neu partial calque yn y Saesneg) yn golygu cyfieithu'n llythrennol un rhan o'r gair gwreiddiol ond nid y llall.[4] Er enghraifft, mae'r enw ar y gwasanaeth digidol Gwyddelig, Saorview yn cyfieithiad rhannol gan ei fod yn defnyddio enw y gwasanaeth digidol Brydeinig, Freeview gan gyfieithu'r elfen flaenaf o'r Saesneg i'r Wyddeleg saor ond gadael yr ail elfen view yn ddi-gyfieithiad. Ymysg enghreifftiau eraill mae liverwurst ‘sosej iau / afu’ (< Almaeneg Leberwurst), apple strudel ‘strwdel afalau’ (< Alm. Apfelstrudel) a the Third Reich ‘y Drydedd Reich’ (< Alm. Drites Reich).
Cyfieithiadau benthyg ar ddelw'r Saesneg skyscraper
Enghraifft o gyfieithiad benthyg morffem-wrth-morffem mewn sawl iaith yw'r gair Saesneg skyscraper ‘entrychdy’, yn llythrennol ‘nen-grafwr’:
- Affricaneg: wolkekrabber ("cymylau-grafwr")
- Albaneg: qiellgërvishtës ("nen-grafwr")
- Almaeneg: Wolkenkratzer ("cwmwl-grafwr")
- Arabeg: ناطحة سحاب (nāṭiḥat saḥāb, "cwmwl-menyncloud-butter")
- Armeneg: երկնաքեր (yerk-n-a-ker, "nen-grafwr")
- Aserbaijaneg: göydələn ("nen-dyllwr")
- Belarwsieg: хмарачос (khmaračos, "cwmwl-grafwr")
- Bengali: akash-jharu (আকাশঝাড়ু, "nen-sgubwr") neu gagan-chumbi গগনচুম্বী ("nen-gusanwr")
- Bwlgareg: небостъргач (nebostargach, "nen-grafwr")
- Catalaneg: gratacel ("crafu'r nen")
- Croateg: neboder ("nen-rwygwr")
- Cymraeg: cwmwlgrafwr neu nendwr
- Daneg: skyskraber ("cwmwl-grafwr")
- Eidaleg: grattacielo ("crafa'r nen")
- Estoneg: pilvelõhkuja ("cwmwl-dorrwr")
- Fietnameg: nhà chọc trời ("adeilad nen-brocio")
- Ffineg: pilvenpiirtäjä ("cwmwl-ymestynwr")
- Ffrangeg: gratte-ciel ("crafa'r nen")
- Georgeg: ცათამბჯენი ("sky-upleaning", "sky-uppropping"), ცათამწვდომი ("nen-gyrraedd")
- Groeg (iaith): ουρανοξύστης (uranoxístis, "nen-grafwr")
- Gwyddeleg: scríobaire spéire ("nen-grafwr") neu ilstórach (spéire) ("aml-lawr")
- Hebraeg: גורד שחקים (goréd šħaqím, "crafwr y nen")
- Hindi: गगनचुंबी' (gagan-chumbi, "nen-gusanwr")
- Hwngareg: felhőkarcoló ("cwmwl-grafwr")
- Iseldireg: wolkenkrabber ("cwmwl-grafwr")
- Islandeg: skýjakljúfur ("cwmwl-rwygwr")
- Latfieg: debesskrāpis ("nen-grafwr")
- Lithiwaneg: dangoraižis ("nen-grafwr")
- Macedoneg: облакодер (oblakoder, "cwmwl-grafwr")
- Malaialam: അംബരചുംബി (ambaracumbi, "nen-gusanwr")
- Maleieg ac Indoneseg: pencakar langit ("nen-gropiwr")
- Mongoleg: тэнгэр баганадсан барилга (tenger baganadsan barilga, "adeilad nen-biler")
- Norwyeg: skyskraper ("cwmwl-grafwr")
- Persieg: آسمانخراش (âsmânkhrâsh, "nen-grafwr")
- Portiwgaleg: arranha-céus ("crafa'r nen")
- Pwyleg: drapacz chmur ("cwmwl-grafwr")
- Rwmaneg: zgârie-nori ("scrapes-clouds")
- Rwsieg: небоскрёб (neboskryob, "nen-grafwr")
- Sbaeneg: rascacielos ("crafa'r nen")
- Serbeg: oблакодер (oblakoder, "cwmwl-rwygwr")
- Siapaneg: 摩天楼 (matenrou, "tŵr nen-grafwr")
- Slofeneg: nebotičnik ("nen-rwciwr, -gyffyrddwr")
- Swedeg: skyskrapa ("nen-grafwr")
- Tagalog: gusaling tukudlangit ("adeilad procio'r nen")
- Tamil: வானளாவி (vāṉaḷāvi, "nen-gyrhaeddwr")
- Thai: ตึกระฟ้า (tụkraf̂ā, "adeilad crafu'r nen")
- Tsieceg a Slofaceg: mrakodrap ("cwmwl-grafwr")
- Tsieineeg: Tsieineeg syml: 摩天楼; Tsieineeg draddodiadol: 摩天樓; pinyin: mótiānlóu ("adeilad cyffwrdd y nen")
- Tyrceg: gökdelen ("nen-dyllwr")
- Wcraineg: хмарочос (hmaročos, "cwmwl-ymestynwr")
Dolenni
Cyfeiriadau
Wikiwand in your browser!
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.