Tyrceg

iaith a siaredir yn Nhwrci ac mewn gwledydd eraill a fu'n rhan o Ymerodraeth yr Otomaniaid From Wikipedia, the free encyclopedia

Tyrceg

Iaith a siaredir yn Nhwrci a chan leiafrifoedd yng ngwledydd eraill a fu'n rhan o Ymerodraeth yr Otomaniaid yw Tyrceg (hefyd: Twrceg). Mae'r iaith yn perthyn i gangen ddeheuol (Orghuz) o deulu'r ieithoedd Tyrcaidd, sydd yn ei dro yn gangen o'r ieithoedd Altaidd (sylwer bod anghytundeb ymhlith ieithyddion am berthynas Tyrceg â theuluoedd ieithyddol eraill).

Ffeithiau sydyn Enghraifft o:, Math ...
Tyrceg
Thumb
Enghraifft o:iaith naturiol, iaith fyw 
MathWestern Oghuz 
Enw brodorolTürkçe 
Nifer y siaradwyr 
  • 82,231,620 (2021),[1]
  •  
  • 5,870,300 (2021),[1]
  •  
  • 79,526,830 (2020),[2]
  •  
  • 79,400,000 (2019),[3]
  •  
  • 78,527,240 (2012),[4]
  •  
  • 71,435,850 (2006),[5]
  •  
  • 5,670,300 (2020),[2]
  •  
  • 350,000 (2006),[5]
  •  
  • 380,300 (2006)[4]
  • cod ISO 639-1tr 
    cod ISO 639-2tur 
    cod ISO 639-3tur 
    GwladwriaethBwlgaria, Cyprus, Gwlad Groeg, Twrci, Gogledd Cyprus 
    System ysgrifennuTurkish alphabet 
    Corff rheoleiddioTurkish Language Association 
    Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
    Cau

    Daeth yr iaith i'w diriogaeth bresennol yn Asia Leiaf, y Balcanau a'r Dwyrain Canol yn y 13g a'r 14g gyda goresgyniad y llwythau Tyrcaidd a fudodd o Ganolbarth Asia. Hyd at ddechrau'r 20g ysgrifennid Tyrceg yn yr ysgrifen Arabeg, ond yn 1929 fe'i newidiwyd ar orchymyn Mustafa Kemal Atatürk ac heddiw mae'n defnyddio gwyddor Rufeinig ac mae gramadeg yr iaith safonol wedi'i symleiddio a'i rheoleiddio'n sylweddol.

    Yn ôl cyfrifiad Bwlgaria 2001, mae 762,516 o bobl yn siarad Tyrceg fel mamiaith ym Mwlgaria (9.6% o'r boblogaeth). Mae mwyafrif y siaradwyr Tyrceg yn byw yn ardaloedd Kardzhali (yn ne Bwlgaria) a Razgrad (yn y gogledd-ddwyrain). Tyrceg yw iaith y mwyafrif yn nwyrain Cyprus yn ogystal.

    Thumb
    Arwydd ffordd ynIstanbwl 2006

    Cyfeiriadau

    Loading related searches...

    Wikiwand - on

    Seamless Wikipedia browsing. On steroids.