iaith From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Almaeneg (Deutsch: ynganiad Almaeneg ) (Almaeneg Uchel ac Almaeneg Isel) yn perthyn i gangen Germanig gorllewinol yr ieithoedd Indo-Ewropeaidd. Mae'n perthyn i'r un teulu ieithyddol â Saesneg, Iseldireg a Norwyeg.
Mae angen dyfyniadau a/neu gyfeiriadau ychwanegol ar ran o'r erthygl hon. Helpwch wella'r erthygl gan ychwanegu ffynonellau dibynadwy. Caiff barn heb ffynonellau ei herio a'i dileu. (Gorffennaf 2013) |
Almaeneg | ||
---|---|---|
Deutsch | ||
Ynganiad IPA | ˈdɔʏtʃ | |
Siaredir yn | Yn bennaf yn Ewrop Almaeneg, fel iaith leiafrifol ac ymhlith y gwasgariad Almaeneg ledled y byd | |
Cyfanswm siaradwyr | 90 miliwn (2010)[1] i 95 miliwn | |
Teulu ieithyddol | Indo-Ewropeaidd
| |
System ysgrifennu | Lladin (Gwyddor Almaeneg) | |
Statws swyddogol | ||
Iaith swyddogol yn | Yr Undeb Ewropeaidd (iaith swyddogol a lleiafrifol) Yr Almaen | |
Iaith leiafrifol gydnabyddedig yn | Y Weriniaeth Tsiec[2] Denmark[3] Hwngari[4] | |
Rheoleiddir gan | Nid oes rheoli swyddogol (Rheolir yr orgraff Almaeneg gan Gyngor yr Orgraff Almaeneg (Rat für deutsche Rechtschreibung)[12]). | |
Codau ieithoedd | ||
ISO 639-1 | de | |
ISO 639-2 | ger (B) | deu (T) |
ISO 639-3 | variously: deu – New High German gmh – Middle High German goh – Old High German gct – Alemán Coloniero bar – Austro-Bavarian cim – Cimbrian geh – Hutterite German ksh – Kölsch nds – Low German sli – Lower Silesian ltz – Luxembourgish vmf – Main-Franconian mhn – Mócheno pfl – Palatinate German pdc – Pennsylvania German pdt – Plautdietsch swg – Swabian German gsw – Swiss German uln – Unserdeutsch sxu – Upper Saxon wae – Walser German wep – Westphalian | |
Wylfa Ieithoedd | 52-AC (Almaeneg Orllewinol Gyfandirol) > 52-ACB (Deutsch & Dutch) > 52-ACB-d (Almaeneg Ganolog gan gynnwys 52-ACB–dl & -dm Almaeneg Safonol) + 52-ACB-e & -f (Yr Uchel Almaeneg & Almaeneg Swisaidd) + 52-ACB-g (Iddeweg) + 52-ACB-h (gwasgariad Almaeneg. Eraill: 52-ACB-hc Almaeneg Hutterite & 52-ACB-he Almaeneg Pennsylvania ayyb) + 52-ACB-i (Yeneg); tua 285 o wahanol fathau: 52-ACB-daa hyd at 52-ACB-i | |
Mae Almaeneg Uchel yn un o ieithoedd pwysicaf y byd gyda llenyddiaeth helaeth yn perthyn iddi. Almaeneg sydd â'r nifer mwyaf o siaradwyr brodorol o holl ieithoedd Ewrop (tua 100 miliwn yn 2004 neu 13.3% o'r boblogaeth). Mae'n un o'r ieithoedd Germanaidd. Ceir elfen o gyd-ddeallusrwydd rhwng Almaeneg ac Iseldireg ond llai gyda'r ieithoedd Sgandinafaidd. Arddelir fersiwn ar yr iaith, Almaeneg Safonol (a adweinir yn aml fel Hochdeutsch neu fel "Standardhochdeutsch") fel iaith cyhoeddi a'r cyfryngau. Ceir fersiynau cenedlaethol o Almaeneg Safonol sy'n ystumo ychydig oddi ar eu gilydd - Almaeneg Safonol yr Almaen, Almaeneg Safonol Awstria, ac Almaeneg Safonol Swistir. Yn y Swistir geliwr Almaeneg Safonol yn Schriftdeutsch, sef "Almaeneg ysgrifenedig".
Yn ystod yr Oesoedd Canol (neu yr Oesau Canol, y Canol Oesoedd) cynnar fe ddigwyddodd symudiad sain mewn rhai tafodieithoedd Germanig a elwir yn ail symudiad sain neu yn symudiad sain Hen Almaeneg Uchel. Gelwir y tafodieithoedd hyn, sef Alemanneg, Bafareg, Ffranconeg y Dwyrain, Ffranconeg y Rhein, Ffranconeg Canol ac Almaeneg Canol y Dwyrain, yn dafodieithoedd Hochdeutsch, sef Almaeneg Uchel neu Almaeneg Safonol. Ar y llaw arall, fe gyfrifir bod y tafodieithoedd na ddigwyddodd yr ail symudiad sain iddynt (neu lle na ddigwyddodd ond i raddau cyfyngedig iawn) yn perthyn i deulu Almaeneg Isel (neu Isalmaeneg), o'r cyfnod modern cynnar ymlaen.
Yr adeg honno yr ymddangosodd y gair theodiscus (Deutsch yn Almaeneg Uchel Diweddar) yn y Lladin, wedi ei seilio ar y gair Germanig am 'bobl' sef thioda, thiodisk. Golygai iaith y bobl nad oeddynt yn siarad Lladin na iaith Romáwns. Bu i'r gair hŷn Fränkisch am eu hiaith eu hunain ddiflannu'n araf tua'r 9g yn sgil y newidiadau canlynol. Ar y naill law bu i'r bobl Westfränkisch a reolai diroedd y gorllewin (a fyddai yn ddiweddarach yn Ffrainc) fabwysiadu iaith Romáwns y brodorion; ar y llaw arall roedd pobl y tiroedd dwyreiniol, yr Ostfrankenreich, yn cynnwys llwythau eraill heblaw am y Ffranconiaid, megis yr Alemaniaid, y Fafariaid, y Thwringiaid a'r Sacsoniaid.
Yn ystod yr Oesoedd Canol roedd cyfundrefnau gwleidyddol tiroedd y Teutschen (y llwythau Almaenig) yn ddrylliog, pob llwyth yn mynd ei ffordd ei hun, yn wahanol i'r gwledydd cyfagos, lle y canolwyd grym gwleidyddol ynghynt (ni ffurfiwyd yr ymerodraeth Almaenig hyd 1871). Gwahanwyd y bobloedd hefyd gan fynyddoedd uchel a fforestydd trwchus. Oherwydd hyn datblygodd tafodieithoedd Almaenig am gyfnod hir ar wahân i'w gilydd gan achosi gwahaniaethau sylweddol rhwng y tafodieithoedd. Honnir y gellir gweld y cam cyntaf tuag at gysoni'r tafodieithoedd rhanbarthol yn iaith farddol beirdd yr uchelwyr adeg yr Uwch Almaeneg Ganol, tua 1200. Yn wir fe welir yn eu cerddi eu bod i ryw raddau yn osgoi defnyddio geirfa nad oedd yn gyfarwydd ymhobman na defnyddio ynganiad arbennig i un ardal, a hynny er mwyn sicrhau y byddai'r cerddi yn ddealladwy ledled y llwythau Almeinig. Eto i gyd rhaid barnu mai bach iawn oedd dylanwad y beirdd hyn a weithient yn y llys, ar adeg pan nad oedd prin neb yn llythrennog nac â'r cyfle i ymwneud â diwylliant y llys. Gellir dirnad dechreuadau Almaeneg Isel Gyfoes ysgrifenedig a safonol yn well yn y broses o gysoni iaith rhwng y rhanbarthau a ddigwyddodd yn yr Oesoedd Canol diweddar ac ar ddechrau'r Cyfnod Modern.
Yn wahanol i fwyafrif gwledydd Ewrop, lle mae'r iaith safonol yn seiliedig ar dafodiaith y brifddinas, mae Almaeneg safonol yn deillio o ryw fath o gyfaddawd rhwng y tafodieithoedd Canol ac Uwch sy'n perthyn i'r tiroedd i'r de o'r llinell Benrather. Rhed y llinell hon yn fras trwy drefi Düsseldorf, Kassel, Magdeburg, a Berlin.
Dros gyfnod, yn enwedig yn sgil y Diwygiad Protestannaidd, fe ymdreiddiodd Almaeneg Isel drwy ogledd yr Almaen hefyd, fel iaith ysgolion a materion swyddogol, ar draul y tafodieithoedd Isel Almaeneg (neu Isalmaeneg), sef Plattdeutsch, Niedersächsisch, a Niederfränkisch. Ond cyn hynny, yn ystod y cyfnod pan oedd y Cynghrair Hanseatig ar ei anterth (yn ystod y 14eg a'r 15g) defnyddid Isel Almaeneg fel iaith gyffredin (neu lingua franca) o amgylch moroedd y Gogledd a'r Baltig. Mae Iseldireg hithau yn dafodiaith o'r Isel Almaeneg.
Cyfieithodd Martin Luther y Testament Newydd ym 1521 a'r Hen Destament ym 1534 i Almaeneg Isel Diweddar (Neuhochdeutsch) ysgrifenedig, iaith a oedd bryd hynny yn dal i ddatblygu. Oherwydd pwysigrwydd crefyddol Luther a'i Feibl fe ymdreiddiodd yr iaith a ddefnyddiodd, oedd â blas Almaeneg Canol Dwyreiniol (Ostmitteldeutsch) iddi, drwy genedlaethau lawer. O edrych yn ôl, fe welir fod cyfraniad Luther i ddatblygiad iaith ysgrifenedig safonol wedi cael ei orbwysleisio am hir amser. Ers y 14g bu eisoes ddatblygiad graddol a lledaeniad yn nefnydd iaith ysgrifenedig wedi ei safoni rhwng y rhanbarthau, a elwid yn Diweddar Cynnar (Frühneuhochdeutsch). Roedd Beibl Luther felly yn adeiladu ar seiliau a osodwyd gan lenorion cynharach. Pan gyhoeddwyd y Beibl gyntaf cafodd rhestr o eiriau ei hatodi oedd yn trosi geiriau anghyfarwydd i eiriau'r dafodiaith leol, pob ardal â'i rhestr ei hun. Parhawyd i ddatblygu iaith safonol ac erbyn yr 17g yr oedd datblygiad iaith ysgrifenedig safonol yn gyflawn.
Yn lle mabwysiadu teip Rhufeinig tueddai'r Almaen i lynu wrth deip llythyren-ddu, yn arbennig yr amrywiadau Almaenig schwabacher a fraktur arni, ac erbyn y 18g daethpwyd i ystyried llythyren ddu, a ddefnyddiwyd gan Luther a Dürer, fel symbol o'r hunaniaeth Almaenig. Ar y dechrau fe gefnogodd y Natsïaid lythyren ddu yn hytrach na Rhufeinig, a ddefnyddiwyd i gryn raddau hefyd (yn arbennig ar gyfer llyfrau â chylchrediad rhyngwladol megis gweithiau gwyddonol; Rhufeinig a ddefnyddid ar deipiaduron), ond yn ystod yr Ail Ryfel Byd gyda golwg ar draarglwyddiaethu'r byd fe wnaethon nhw wahardd llythyren ddu gan ddisgrifio schwabacher yn gwbl gyfeiliornus fel teip Iddewig.
Erbyn heddiw dim ond yn achlysurol i gyfleu naws hynafol, er enghraifft mewn hysbysebion, y defnyddir llythyren ddu, sy'n dal i fod â chynodiadau Natsïaidd.
Arferid dysgu plant ysgol sut i ysgrifennu'r llaw Rufeinig a'r llaw Othig redegog kurrentschrift at ei gilydd. Cafwyd ymgyrch aflwyddiannus ar ddechrau'r 20g i beidio â dysgu plant ysgol i sgrifennu'r llaw kurrentschrift, a oedd yn arbennig i'r Almaen, gan ddysgu'r llaw Rufeinig yn unig iddynt. Yna ordeiniwyd i bawb ysgrifennu'r llaw Rufeinig gan y Natsïaid yn ystod yr Ail Ryfel Byd a dyna fu diwedd defnydd cyffredinol kurrentschrift.
Fe rennir hanes Almaeneg yn aml yn bedwar cyfnod:
Cyhoeddodd Johann Christoph Adelung y geiriadur Almaeneg swmpus cyntaf yn 1781. Dechreuodd Jacob a Wilhelm Grimm y gwaith o gyhoeddi geiriadur cynhwysfawr ym 1852, gwaith nas cwblhawyd hyd 1961. Mae'r gwaith o ddiwygio'r geiriadur hwn yn mynd rhagddo.
Fe safonwyd fwyfwy ar orgraff yr Almaeneg yn ystod y 19ed ganrif. Cafwyd cam ymlaen tuag at safoni Almaeneg ysgrifenedig ym 1880 pan gyhoeddwyd Orthographischen Wörterbuch der deutschen Sprache (Geiriadur Almaeneg Orgraffyddol) gan Konrad Duden. Diwygiwyd rhyw ychydig ar hwn erbyn 1901, pan gyhoeddwyd canllawiau Almaeneg ysgrifenedig ar gyfer sefydliadau cyhoeddus. Dim ond ym 1996 y diwygiwyd orgraff yr Almaeneg unwaith eto.
Mae diwygiad sillafu 1996 yn bwnc llosg. Mae'r sillafiad diwygiedig wedi ei ddysgu mewn ysgolion ers 1996 ond heb ei dderbyn gan bawb eto, e.e. rhai papurau newydd. Mae'r newidiadau eisoes wedi eu derbyn a'u gweithredu yn ymarferol mewn llawer o wledydd Almaeneg ei hiaith. Ers 1 Awst 2005 mae'n rhaid i bawb yn yr Almaen ddefnyddio'r sillafiad diwygiedig heblaw am ddwy ardal nad ydynt wedi derbyn y sillafiad diwygiedig.
Ehangodd defnydd Almaeneg Uchel gyda thwf yr Ymerodraeth Habsbwrg. Hi oedd iaith y canolfannau gweinyddol a masnachol ar draws y tiroedd Habsbwrg hyd at ganol y 19eg ganrif, e.e. ym Mhrâg a Bwdapest, ond nid pob tref Habsbwrg a siaradai Almaeneg, e.e. arhosodd Milan yn Eidaleg ei hiaith.
Yn yr Almaen defnyddir Almaeneg Safonol (a elwir yn "Hochdeutsch" yn aml ar lafar) yn:
Mae rheolau arbennig ar gyfer y lleiafrifoedd sy'n siarad Daneg yn Schleswig-Holstein a'r Sorbeg yn Brandenburg a Sacsoni, ac ar gyfer siaradwyr Isel Almaeneg yn rhanbarthau gogleddol yr Almaen.
Yn Awstria Almaeneg yw iaith swyddogol y wlad. Mae Croateg a Slofeneg hefyd yn ieithoedd swyddogol yn y rhanbarthau lle mae'r lleiafrifoedd hynny'n byw.
Almaeneg yw un o 20 iaith swyddogol yr Undeb Ewropeaidd ac un o ieithoedd gwaith y Cenhedloedd Unedig.
Ffugdybiad yw hi bod Almaeneg ymron â chael lle iaith swyddogol yn UDA.
Mae llawer dros y byd yn dysgu Almaeneg fel ail iaith mewn ysgolion. Yn Ewrop Almaeneg sydd wedi lledaenu'r fwyaf ac eithrio'r Saesneg. Honna 38% o ddinasyddion Ewrop (heblaw am siaradwyr Almaeneg fel mamiaith) eu bod yn gallu cynnal sgwrs yn Almaeneg. Ceir niferoedd sylweddol o ddysgwyr Almaeneg yn yr Iseldiroedd, Sgandinafia, o amgylch y môr Baltig, Slofenia, Croatia, Gwlad Pwyl, Japan, Bosnia-Hertsegofina, ardaloedd Rwmanaidd y Swistir, Serbia, Hwngari, Montenegro, Macedonia a Bwlgaria. Yn rhai o'r gwledydd hyn Almaeneg yw'r iaith dramor gyntaf a ddysgir yn yr ysgolion, o flaen Saesneg. Yn Belarws hefyd dysgir Almaeneg yn aml mewn ysgolion. Mewn rhannau o ddwyrain Ewrop hybir dysgu Almaeneg gan ei bod yn bosibl derbyn telediad Almaeneg trwy gebl neu oddi ar loeren. Mewn gwledydd eraill, e.e. Ffrainc ac UDA, mae Almaeneg yn colli tir i'r Sbaeneg.
Yn ôl ymholiad y Ständigen Arbeitsgruppe Deutsch als Fremdsprache (Pwyllgor Gwaith Almaeneg fel Ail Iaith) sydd yn perthyn i Swyddfa Dramor yr Almaen a Sefydliad Goethe, ymhlith cyrff eraill, roedd y niferoedd mwyaf o ddysgwyr Almaeneg yn 2000 i'w cael yn y gwledydd canlynol:
Erbyn heddiw Almaeneg yw'r iaith a ddefnyddir amlaf ar y rhyngrwyd ac eithrio'r Saesneg. Mae mwy nag 8% o dudalennau'r rhyngrwyd yn Almaeneg.
Yn sgil gwladychu datblygodd yr iaith 'Unserdeutsch' yn yr ynysoedd a elwir heddiw yn Brydain Newydd Dwyreiniol. Erbyn hyn mae'r iaith hon ymron â diflannu gan fod mwyafrif y siaradwyr wedi mudo oddi yno. Heblaw hyn mae rhyw 150 o eiriau Almaeneg eu tarddiad i'w cael yn iaith Tok Pisin Papua Gini Newydd o'r cyfnod pan cafwyd trefedigaeth Gini Newydd Almaenig cyn y Rhyfel Byd Cyntaf.
Mae'r wyddor Almaeneg yn cynnwys 26 llythyren.
Aa, Bb, Cc, Dd, Ee, Ff, Gf, Hh, Ii, Jj, Kk, Ll, Mm, Nn, Oo, Pp, Qq, Rr, Ss, Tt, Uu, Vv, Ww, Xx, Yy, Zz
Yn ogystal â'r 26 llythyren yn yr wyddor Ladin mae Almaeneg yn defnyddio ß (eszett) ac Ää, Öö, Üü - llythrennau ag Umlaut arnynt. Er bod gan yr Umlaut yr un ffurf â'r didolnod a ddefnyddir yn y Gymraeg a ieithoedd eraill, mae ei swyddogaeth yn wahanol, sef newid natur y llafariad.
Mae enwau Almaeneg naill ai yn wrywaidd, yn fenywaidd neu yn ddiryw.
Caiff lluosogion eu creu mewn nifer o ffyrdd:
Fel arfer defnyddir y fannod benodol die yn y lluosog ac felly mewn ffordd mae'r lluosog yn ymddwyn fel pedwerydd cenedl.
Mae gan Almaeneg bedwar cyflwr, er enghraifft:
Mae trefn y geiriau yn Almaeneg yn cynnig nifer o broblemau i ddysgwr sydd â Saesneg, Cymraeg neu'r ieithoedd Romáwns fel eu mamiaith.
Mae yna reolau caeth yn pennu trefn y berfau:
Mit meinem Bruder gehe ich in den Park. (Gyda fy mrawd, af i'r parc.)
Ich werde in der Schule singen. (Byddaf yn canu yn yr ysgol.)
Ich denke, dass wir die Arbeit machen müssen. (Rwy'n credu bod rhaid i ni wneud y gwaith.)
Da du die Arbeit gemacht hast, sehe ich dich morgen. (Gan dy fod wedi gwneud y gwaith, wela i di yfory.)
Mae disgrifiadau berfenwol yn dilyn y drefn, amser + dull + lle: Ich will Montag mit meinem Vater in dem Haus reden. (Rwy eisiau siarad gyda fy nhad yn y tŷ ar Ddydd Llun.)
Heblaw am y rheolau caeth ar safle'r ferf, mae trefn frawddeg yn weddol lac oherwydd defnydd cyflyrau enwau. Er enghraifft, mae gan y ddwy frawddeg ganlynol union yr un ystyr.
Der Hund beißt den Mann a Den Mann beißt der Hund
Mae'r ddwy frawddeg uchod yn golygu Mae'r ci yn cnoi'r dyn, ac felly yn annhebyg i nifer o ieithoedd eraill nid yw'r ystyr yn dibynnu ar drefn y geiriau ond yn hytrach ar ffurfdroadau.
Nid oes ynganiad Almaeneg safonol cyffelyb i ynganiad Saesneg y BBC. Yn ystod y 19eg ganrif bu ehangu mawr ar addysg a hynny trwy gyfrwng Almaeneg Uchel. Wrth geisio ynganu geiriau Almaeneg Uchel fe ffurfiwyd iaith lafar tra gwahanol yn y wahanol ranbarthau, yn gymysgedd o Almaeneg Uchel a thafodiaith wreiddiol yr ardal.
Ers canol yr 20g mae'r wahanol ieithoedd llafar hyn wedi ymdreiddio tafodieithoedd traddodiadol. Fe fydd siaradwyr yn addasu eu hiaith i fod yn fwy neu yn llai tafodieithol yn ôl y galw. Ar y teledu a'r radio fe glywch y cyflwynwyr gan amlaf yn siarad Almaeneg Uchel ond gydag acen ranbarthol. Ond nid acen yw'r unig wahaniaeth rhwng yr ieithoedd llafar gan fod geirfa a chystrawen hefyd yn amrywio o un ardal i'r llall, yn enwedig rhwng gwledydd am fod pob gwlad â'i diwylliant â'i gweinyddiaeth ei hun ac yn bathu termau newydd, gwahanol i'w gilydd. Erbyn hyn ceir rhai dinasoedd yn yr Almaen ac Awstria lle mae'r dafodiaith draddodiadol wedi diflannu'n gyfan gwbl. Fe erys digon o wahaniaeth rhwng y tafodieithoedd a siaredir heddiw trwy'r tiroedd Almaenig fel bod angen is-deitlau Almaeneg Uchel ar rai ffilmiau tafodieithol o'r gwahanol ranbarthau. Mater o raid yw defnyddio Almaeneg Uchel pan fydd rhywrai sy'n hanu o ranbarthau pellenig am gael sgwrs. Mae Almaeneg y Swistir yn anodd iawn i'w deall gan Almaenwyr ac felly hefyd y tafodieithoedd Isel Almaeneg.
Bu ymdrechion i ffurfio iaith lafar safonol yn seiliedig ar Almaeneg Uchel tua diwedd y 19eg ganrif i'w defnyddio yn y theatr yn bennaf. Cyhoeddwyd canllawiau 'Ynganiad Almaeneg ar gyfer y llwyfan' ym 1898. Roedd ynganiad y geiriau yn gyfaddawd rhwng ynganiad y gwahanol ranbarthau ond yn ymdebygu fwyaf i ynganiad Gogledd yr Almaen. Gan fod pobl o Ogledd yr Almaen yn siarad tafodieithoedd Isel Almaeneg a oedd mor wahanol i Almaeneg Uchel, pan aethant ati i ddysgu Almaeneg Uchel roedd fel petai eu bod yn dysgu iaith wahanol. Dyfeisiasant ynganiad yn ôl y llythrennau ysgrifenedig yn hytrach na dilyn patrwm eu tafodiaith eu hunain.
Bu feirniadu ar 'iaith y llwyfan' fod ei sain yn annaturiol, ac aflwyddiannus fu'r ymdrech i ehangu'r defnydd o'r iaith hon tu allan i'r theatr. Ond pan aethpwyd ati i ysgrifennu canllawiau ynganu ar gyfer dysgwyr dilynwyd yr un trywydd â 'iaith y llwyfan' trwy gyfaddawdu rhwng y gwahanol ranbarthau ond gyda dylanwad cryf iaith y Gogledd. Gelwir hon yn Ynganiad Safonol er nad yw'n perthyn yn union gywir i neb o blith Almaenwyr.
Fe rennir y tafodieithoedd traddodiadol yn dair prif ran, sef Uwch Almaeneg (tua'r de), Almaeneg Canol (y deilliodd Almaeneg Uchel yn bennaf ohono) ac Isel Almaeneg (tua'r gogledd). Fesul cam y gwelir newidiadau wrth symud o un ardal i ardal gyfagos, gan gynnwys yr ymdoddiad ieithyddol o diroedd Almaeneg Canol i diroedd Isel Almaeneg. Mae'n bwnc llosg a ddylid ystyried Isel Almaeneg, sy'n cynnwys Iseldireg a Fflemeg, yn iaith ar wahân i Almaeneg Uchel. Mae rhanbarthau Hambwrg, Schleswig-Holstein, Niedersachsen, Mecklenburg-Vorpommern a Bremen wedi cael cydnabyddiaeth gan Gyngor Ewrop fod yr iaith Isel Almaeneg (sef y tafodieithoedd Nieder Sächsisch) yn iaith ranbarthol swyddogol. Fodd bynnag, y mae'n bosib mai marwolaeth fydd tynged yr Isel Almaeneg, serch yr ymdrechion gwleidyddol i'w harbed.
Yn hanesyddol mae pobl ardaloedd tafodieithol cyfagos Isel Almaeneg, o ogledd yr Almaen draw at wlad Belg a'r Iseldiroedd, yn deall ei gilydd. Yn ôl y diffiniad ieithyddiaeth felly maent yn perthyn i'r un teulu ieithyddol. Ond mae'r tafodieithoedd yn yr Iseldiroedd a'r Almaen yn tyfu fwyfwy ar wahân trwy fod ffin wleidyddol rhyngddynt. Hefyd mae llawer o'r tafodieithoedd Isel Almaeneg yn colli tir i Iseldireg neu Almaeneg Safonol, a rhai ohonynt bron â bod yn farw. Trwy'r broses hon gellir gweld ffin ieithyddol yn ymddangos rhwng Iseldireg ac Almaeneg.
Gan fod siaradwyr Almaeneg yn byw yng Nghanolbarth Ewrop y mae Almaeneg wedi dylanwadu arni drwy'r canrifoedd gan ieithoedd eraill. Yn ystod yr Oesoedd Canol ac ynghynt cafwyd benthyg geiriau o'r Lladin yn bennaf. Benthycwyd geiriau o'r Lladin yn ymwneud â phensaernïaeth, crefydd, a rhyfela, ymhlith pynciau eraill, e.e. Fenster ‘ffenestr’, Keller ‘seler’, Karren ‘cert’, dominieren ‘goruchafu’, Kloster ‘mynachlog’. Cafwyd benthyg hefyd o'r Groeg ym meysydd crefydd, gwyddoniaeth, ac athroniaeth, e.e. Philiosphie ‘athroniaeth’, Physik ‘ffiseg’, Demokratie ‘democratiaeth’.
Yn ddiweddarach Ffrangeg oedd yr iaith fwyaf dylanwadol ar Almaeneg. Ffrangeg a siaredid mewn llawer lys wedi'r Rhyfel Deng Mlynedd ar Hugain, a ddaeth i ben ym 1648. Mae'n debyg bu afael gwell gan Dywysogion Prwsia ar Ffrangeg nag ar Almaeneg. Gan hynny codwyd geirfa helaeth yn ymwneud â byd y boneddigion o'r Ffrangeg, e.e. Boulevard ‘rhodfa’, Trottoir ‘palmant’, Konfitüre ‘jam’. Benthycwyd i raddau llai o'r ieithoedd Slafaidd, e.e. Grenze ‘ffin’, Pistole ‘llawddryll’, o'r Iddew-Almaeneg a Rotwelsch, e.e. meschugge ‘yn wirion bost’.
Gwelir dylanwad Arabeg ym meysydd masnach, botaneg, a meddygaeth, dylanwad oedd ar ei anterth yn ystod yr Oesoedd Canol, gan gynnwys adeg y croesgadau, e.e. Koffer (cist), Benzin (petrol), Limonade (lemonêd).
Ers canol yr 20g mae Saesneg wedi dylanwadu fwyfwy ar Almaeneg. Mae'r datblygiad hwn yn ddadleuol. Achwynir bod llawer o'r geiriau benthyg ffug-Saesneg, e.e. Handy (ffôn symudol) yn disodli geiriau cyfystyr Almaeneg sy'n bodoli eisoes neu y gellid fod wedi bathu geiriau â gwreiddiau Almaeneg. Erbyn hyn mae ffilmiau wedi eu trosleisio'n wael o'r Saesneg hefyd yn dylanwadu ar Almaeneg. Er mwyn cadw cydwefusiad ar ffilmiau Saesneg (ac oherwydd anwybodusrwydd) fe greir geiriau ac ymadroddion nad ydynt yn gyfarwydd yn Almaeneg ond sydd ar fyr dro yn ymgartrefu yn yr iaith lafar, e.e. Oh mein Gott am 'Oh my God' Saesneg, yn hytrach na'r ymadrodd draddodiadol Um Gottes Willen. Fe elwir yr iaith sydd yn gymysgedd o Almaeneg a Saesneg yn Denglish.
Mewn llawer o wledydd, e.e. Ffrainc a Gwlad yr Iâ, ceir ymdrechion gwleidyddol i arbed yr iaith frodorol rhag ymdreiddiad o du'r Saesneg. Nid felly y mae hyn yn yr Almaen am fod cymaint o ofn unrhyw bolisïau sy'n debyg i bolisïau'r Natsïaid. Mae eraill yn collfarnu ymdrechion o'r fath gan eu cyfrif yn buryddiaeth ieithyddol afiach.
Mae llawer o eiriau wedi eu benthyg o'r Almaeneg i ieithoedd eraill, gan gynnwys Saesneg. Tardda trwch y geiriau benthyg o ddyfeisiadau Almaenig, o adeg y rhyfeloedd byd, neu o'r ymfudwyr i UDA a siaradent Almaeneg neu Iddew-Almaeneg. Enghreifftiau o'r geiriau benthyg yma yw:
Mae'r Almaeneg ysgrifenedig gynharaf sydd wedi goroesi yn dyddio o'r 8g, ar ffurf llawysgrifau eglwysig a nodiadau ymyl y ddalen mewn llawysgrifau Lladin. Yng nghanol y 12g fe ledodd cwmpas llenyddiaith Almaeneg tu allan i'r byd eglwysig. Aethpwyd ati i ysgrifennu llawer o ganeuon a chwedlau o dan nawdd yr uchelwyr. Gwelir dylanwad Ffrengig ar lenyddiaeth yr Almaen yn dechrau'r adeg hon, dylanwad a fyddai'n parhau am ganrifoedd. Enghreifftiau o'r canu hwn yw Rolandslied (cân Roland), Tristan und Isolde (Tristan ac Esyllt), Parzival (Parsifal) a'r Nibelungenlied.
Fel ag yn Gymraeg bu cyhoeddi'r Beibl yn Almaeneg, ym 1522 a 1534, yn garreg filltir bwysig yn natblygiad yr iaith safonol yn ogystal ag yn natblygiad yr Eglwys Gristnogol.
Mae llenyddiaeth helaeth wedi ei chyhoeddi yn Almaeneg ar hyd yr oesoedd. Ymhlith y llyfrau mwyaf enwog y mae:
Bu'r Holocawst yn ysgogiad i lenyddiaeth a ffilmiau. Gellir enwi gwaith y beirdd Iddewig Paul Celan, yn arbennig ei gerdd enwog Todesfuge, a Nelly Sachs yn y cyswllt hwn. Datblygiad diweddar yw trafod dyddiau olaf y Trydydd Reich o safbwynt Hitler a'i staff yn y ffilm Der Untergang, ac yn y gyfres deledu Heimat dylunnir bywyd bob-dydd yn ystod yr 20g wrth i'r Almaenwyr geisio dod i delerau â'u hanes. Mae nifer o lyfrau Almaeneg wedi eu cyfieithu i'r Gymraeg.
Ar draws Ewrop, yn sgil y Diwygiad Protestannaidd, dechrewyd cyfansoddi cerddoriaeth grefyddol gan ddefnyddio testunau yn yr iaith leol yn hytrach na Lladin, e.e. gweithiau J.S. Bach ar ddechrau'r 18g. Yn ddiweddarach dechrewyd cyfansoddi cerddoriaeth glasurol ar bynciau seciwlar. Pan gyfansoddodd Mozart Die Zauberflöte (y Ffliwt Hud) ym 1791, Eidaleg oedd cyfrwng arferol operâu. Bwriad Mozart wrth ddefnyddio testun Almaeneg oedd apelio at werin Fienna yn ogystal â'r byddigion, gan fod yr opera yn ymdrin ag Urdd y Seiri Rhyddion, yr oedd Mozart yn aelod ohoni. Yn ystod y 19eg ganrif defnyddiwyd y chwedlau Almaeneg o'r Oesoedd Canol mewn operâu, gan gynnwys operâu Wagner. Bu cyfansoddwyr Almaeneg yn arloeswyr canu clasurol y 19eg ganrif a elwir heddiw yn ganu 'Lieder' (sef 'caneuon' yn Almaeneg). Yn eu plith roedd Franz Schubert, Robert Schumann, a Johannes Brahms.
Tyfodd bri a dylanwad prifysgolion y gwledydd Almaeneg eu hiaith yn gyflym yn ystod y 19eg ganrif. Erbyn y 1870au roedd Almaeneg wedi disodli Lladin fel prif iaith addysg prifysgolion Ewrop. Câi Almaeneg ei defnyddio mewn meddygaeth yn nwyrain Asia yn hytrach na Lladin. Ym meysydd ieithyddiaeth, athroniaeth, hanes, a gwyddoniaeth, ymhlith eraill, yr oedd siaradwyr Almaeneg a phrifysgolion Almaenig ar flaen y gad academaidd. O'r herwydd ymddangosodd nifer fawr o weithiau pwysig y byd yn Almaeneg gan gynnwys:
Ymddangosodd y ffilm hir sain Almaeneg gyntaf ym 1929, sef Melodie der Welt (Cân y byd). Ymddangosodd ffilmiau sain Almaeneg byd-enwog yn ystod y cyfnod sain cynnar, gan gynnwys ffilm gyntaf Marlene Dietrich Der Blaue Engel (Yr angel glas – 1930), Berlin Alexanderplatz (1931), ac M (1931). Pan ddaeth y Natsïaid i rym, buan y collwyd gwneuthurwyr ffilm mwyaf dawnus yr Almaen. Cynhyrchwyd nifer fawr o ffilmiau Almaeneg yn ystod cyfnod y Natsïaid, gan fod y sinema yn hynod boblogaidd yn yr Almaen, serch neu yn hytrach oherwydd tlodi enbyd y bobl, ond prin yw'r ffilmiau y bernir eu bod yn bwysig erbyn heddiw. Wedi'r Ail Ryfel Byd cafwyd rhywfaint o adfywiad mewn ffilmiau Almaeneg eu hiaith, ond nid tan y 60au y cafodd sinema Almaeneg sylw rhyngwladol eto. Yn ystod y 70au y gwelwyd ffilmiau y Neues Deutsches Kino (y Sinema Almaenig Newydd) yn cael sylw a chlod beirniadol, yn eu plith Aguirre, der Zorn Gotte (Aguirre, digofaint Duw - 1972), Angst essen Seele auf (Ofn a lynca'r enaid – 1974) a Die Ehe der Maria Braun (Priodas Maria Braun – 1979). Yn ddiweddar iawn mae nifer o ffilmiau wedi ymddangos yn trin cyfnod y Natsïaid gan gynnwys Das Schreckliches Mädchen (Y ferch ddychrynllyd - 1989), Der Untergang (Y dymchwel - 2004), a Sophie Scholl – die Letzten Tage (Sophie Scholl – y dyddiau olaf - 2005).
Oherwydd bod hanes y pobloedd sy'n siarad Almaeneg wedi bod mor gythryblus mae llawer rhagor o wahanol ffurfiau ar y gair 'Almaeneg' mewn ieithoedd tramor nag sydd i'r mwyafrif o ieithoedd y byd.
Yn gyffredinol gellir dosbarthu'r gwahanol dermau am Almaeneg yn ôl eu tarddiad i chwech grŵp sef:
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.