From Wikipedia, the free encyclopedia
Llythyren yn yr wyddor Almaeneg ac un o'r llythrennau Rhufeinig yw "ß" (ynganiad: ss gryf).
Mae'r German Eszett (a elwir hefyd yn scharfes S, golyga s finiog) ß yn llythyren swyddogol yn y wyddor yn yr Almaen ac Awstria. Yn y Swistir, ni ddefnyddir yr Eszett o gwbl, defnyddir dim ond ss. Cy
Does dim consensws dros wreiddiau'r glyff yma. Golyga ei enw,Es-zett yn syml, S-Z. Awgryma hyn gysylltiad gyda'r "s hir ac z" (ſʒ) ond mae'r sgript Lladin hefyd yn gyfarwydd gyda'r glymlythren "s hir dros s grwm" (ſs). Gan i'r Almaen ddefnyddio stript Gothig hyd at yr 1940au, prin iawn y defnyddiwyd y teipwynebau yma mewn llythrennau bras a daeth fersiwn prif lythryen o'r Eszett byth i ddefnydd cyffredin, er i drafodaethau dros ei chreu fod yn gyffredin ers ddiwedd 19g.
O ganlyniad, yr eilydd ar gyfer fersiwn llythyren bras wrth deip-argraffu oedd yr SZ gwreiddiol (Maße → MASZE, oedd yn wahanol i'r MasNodyn:Zwnjse → MASSE) ac yn hwyrach SS (Maße → MASSE). Defnyddio'r SS hyd yma yw'r unig eilydd ar gyfer y lythyren wrth ei sgwennu fel prif lythyren yn ôl yr orthograff swyddogol Rechtschreibreform yn yr Almaen ac Awstria
Ers 2008 mae'r fersiwn capital version (ẞ) o'r glyff Eszett yn rhan o Unicode gan ymddangos mewn mwy nag un teipwyneb. Nid yw eto wedi llifo i ysgrifennu ar lawr gwlad. Mae allweddell Almaeneg safonnol newydd (DIN 2137-T2) wedi cynnwys y prif lythyren ß ers 2012.
I nifer o Gymry bydd y lythyren Eszet yn gyfarwydd ar fathodyn tîm pêl-droed cenedlaethol yr Almaen yn y gair Fußball ac ar arwyddion stryd lle gwelir y gair Straße (stryd).
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.