From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Tristan Und Isolde yn opera a gyfansoddwyd gan Richard Wagner [1] rhwng 1857 a 1859. Mae'r opera yn adrodd hanes Trystan ac Esyllt. Er ei fod yn adrodd stori sy'n perthyn i fytholeg y Celtiaid mae opera Wagner wedi ei selio ar fersiwn Almaeneg o'r hanes o’r 12g, Tristan gan Gottfried von Strassburg.
Ludwig a Malvina Schnorr von Carolsfeld fel Tristan ac Isolde ym mherfformiad cyntaf yr opera (1865) | |
Enghraifft o'r canlynol | gwaith drama-gerdd |
---|---|
Iaith | Almaeneg |
Dyddiad cyhoeddi | 19 g |
Dechrau/Sefydlu | 1857 |
Genre | opera |
Cymeriadau | Trystan, Esyllt, Brenin March, Curwenal, Melyn, Branwen, Bugail, Llywiwr, Morwr ifanc, Morwyr, marchogion, ac ysweiniaid |
Libretydd | Richard Wagner |
Lleoliad y perff. 1af | Theatr Genedlaethol München |
Dyddiad y perff. 1af | 10 Mehefin 1865 |
Statws hawlfraint | parth cyhoeddus |
Cyfansoddwr | Richard Wagner |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Perfformiwyd Tristan Und Isolde am y tro cyntaf yn Theatr Genedlaethol München ar 10 Mehefin 1865 [2] o dan arweiniad Hans von Bülow. Chwaraewyd rhan Trystan gan Ludwig Schnorr van Carolsfeld a rhan Esyllt gan Malvina Schnorr van Carolsfeld yn y perfformiad cyntaf.
Cymeriad | llais |
---|---|
Tristan - Trystan, Uchelwr Llydewig ac edling March | tenor |
Isolde - Esyllt, Tywysoges Wyddelig a dyweddi March | soprano |
Brangäne - Branwen, morwyn Esyllt | soprano |
Kurwenal - Curwenal, Gwas Trystan | bariton |
Marke - March, Brenin Cernyw | bas |
Melot, - Melyn, gŵr llys a chyfaill Trystan | tenor (neu fariton) |
Bugail | tenor |
Llywiwr | bariton |
Morwr ifanc | tenor |
Morwyr, marchogion, ac ysweiniaid | |
Mae Esyllt a'i forwyn Branwen ar long sy'n cael ei lywio gan Trystan ar eu ffordd i Gernyw er mwyn iddi priodi'r brenin March. Mae'r opera yn cychwyn gydag un o'r morwyr yn canu am forwyn wyllt o'r Iwerddon (Westwärts schweift dêr Blick). Mae Esyllt yn tybio bod y gan yn ei gwatwar hi. Mae hi'n colli ei thymer ac yn gweddïo am i'r môr dryllio'r llong a phawb sydd arni (Erwache mir wieder, kühne Gewalt). Mae hi'n arbennig o flin efo Trystan y marchog sy'n gyfrifol am fynd a hi at March ac i briodas nad yw hi'n dymuno. Mae Esyllt yn mynnu bod Trystan yn ymddangos o'i flaen, ond mae o'n gwrthod gwneud hynny. Mae Curenwal yn ddweud wrth Branwen nad oes gan Esyllt hawl i roi gorchmynion i Trystan, gan fod Trystan wedi lladd ei chyn cariad Marhaus.[3]
Mae Branwen yn ailadrodd sylwadau Curenwal ac mae Esyllt yn adrodd yr hanes o sut daeth hi o hyd i farchog wedi anafu a sut bu iddi ddefnyddio ei doniau iachau i'w hachub. Yn ystod ei adferiad canfu Esyllt mae Trystan, yr un lladdodd ei chariad ydoedd. Gwnaeth hi geisio ei ladd gyda'i gleddyf ei hun. Ond wrth iddi fynd ati i geisio e drywanu sylwodd nad oedd Trystan yn edrych ar y cleddyf oedd am ei ladd na'r llaw oedd yn ei drafod ond yn edrych i'w llygaid. (Er sah' mir in die Augen). Toddodd ei edrychiad ei chalon a methodd ei ladd. Gadawodd i Trystan byw ac ymadael a'r Iwerddon gydag addewid na ddaw byth yn ôl. Wedi gwylltio o ddeall bod Trystan wedi ei bradychu trwy ddychwelyd er mwyn ei phriodi i un nad yw'n ei garu. Mae hi'n mynnu bod Trystan yn yfed llwncdestun iddi fel iawn am ei gam. Mae hi'n gofyn i Branwen i baratoi diod ar gyfer y llwncdestun. Mae Branwen yn cael sioc o weld bod rysáit y ddiod yn cynnwys gwenwyn marwol.[4]
Mae Curwenal yn rhoi gwybod i'r merched bod y daith bron ar ben. Mae Esyllt yn ddweud ei bod am wrthod mynd oddi ar y llong oni bai bod Trystan yn yfed y llwncdestun iddi. Mae Trystan yn cytuno i yfed y llwncdestun er ei fod yn gwybod bod perygl iddo gan ei fod yn cofio am ddoniau Esyllt gyda llysiau meddyginiaethol. Mae Trystan yn yfed rhan o'r ddiod ac mae Esyllt yn yfed y gyfran arall. Dydy'r ddiod dim yn eu lladd ond yn gwneud i'r ddau syrthio mewn cariad. Mae Branwen yn cyfaddef ei bod wedi defnyddio cyffur cariad yn hytrach na gwenwyn wrth baratoi'r ddiod.
Mae'r Brenin March yn arwain parti hela fin nos, gan adael Esyllt a Branwen ar eu pen eu hunain yn y castell. Mae Esyllt, yn gwrando am y cyrn hela, gan gredu sawl gwaith bod y blaid hela yn ddigon pell i warantu diffodd y tan fel arwydd i Trystan ei fod yn ddiogel iddo ymweld â hi ("Nicht Hörnerschall tönt so hold"). Mae Branwen yn rhybuddio Esyllt bod Melyn, un o farchogion y Brenin March, wedi gweld yr edrychiadau serchus sy'n cael eu cyfnewid rhwng Trystan ac Esyllt ac yn amau eu bod mewn cariad ("Ein Einz'ger war's, ich achtet 'es wohl"). Mae Esyllt yn credu bod Melyn yn driw i Trystan, ac yn diffodd y tân.
Mae'r cariadon yn cwrdd am noson o serch. Mae Branwen yn eu rhybuddio sawl gwaith bod y nos ar fin dod i ben a bod March ar fin dychwelyd ond mae ei rhybuddion yn syrthio ar glustiau byddar. Mae'r wawr yn torri ac mae Melyn yn arwain y Brenin March i ddal Trystan ac Esyllt ym mreichiau ei gilydd. Mae March wedi ei siomi'n arw gan frad Trystan ac Esyllt a gan frad Melyn o'i gyfeillgarwch i Trystan ("Mir - dies? Dies, Trystan - mir?"). Mae Melyn yn datgan mae'r rheswm am fradychu Trystan i'r brenin oedd ei fod ef hefyd mewn cariad ag Esyllt. Mae Melyn a Trystan yn ymladd, ond, ar yr adeg dyngedfennol, mae Trystan yn taflu ei gleddyf o'r neilltu ac yn caniatáu i Melyn ei anafu'n ddifrifol.
Mae Curwenal yn mynd a Trystan adref i'w gastell Kareol yn Llydaw. Mae bugail yn chware tôn drist ar ei bibgorn ac yn holi am hynt Trystan. Mae Curwenal yn ddweud wrth y bugail na all dim ond dyfodiad Esyllt achub Trystan, ac mae'r bugail yn cynnig cadw golwg ac yn ddweud bydd yn canu alaw lawen i nodi dyfodiad unrhyw long. Mae tristwch Trystan yn dod i ben pan mae Curwenal yn dweud wrtho fod Esyllt ar ei ffordd. Mae Trystan, yn llawn hapusrwydd yn gofyn "a yw llong Esyllt mewn golwg?", ond dim ond alaw drist pibell y bugail sy'n cael ei glywed.
Mae Trystan yn atglafychu ac yn syrthio i ddeliriwm. Yn ei ddeliriwm mae'n clywed y bugail yn pipio can llawen i ddweud bod llong Esyllt yn y golwg. Mae o'n tynnu'r holl rwymau o'i glwyfau ac yn marw wrth i Esyllt ei gyrraedd.
Mae Esyllt yn llewygu wrth ymyl ei chariad ymadawedig ar yr yn union adeg mae cyrhaeddiad llong arall yn cael ei gyhoeddi. Mae Curwenal yn gweld Melyn, March a Branwen yn cyrraedd. Mae'n credu eu bod wedi dod i ladd Trystan ac, mewn ymgais i ddial drosto, mae'n ymosod ar Melyn. Mae March yn ceisio atal y frwydr heb lwyddiant. Mae Melyn a Curwenal yn cael eu lladd yn y frwydr. Mae March a Branwen yn cyrraedd Trystan ac Esyllt. Gan alaru dros gorff ei gyfaill mwyaf triw ("Tot denn alles!"), mae March yn esbonio bod Branwen wedi datgelu cyfrinach y cyffur cariad a'i fod wedi dod i uno'r cariadon yn hytrach na'u gwahanu (Warum Isolde, warum mir das?). Mae Esyllt yn deffro o'i llewyg ac yn yr aria derfynol mae'n disgrifio gweledigaeth o Trystan wedi atgyfodi ac mae hi'n syrthio'n farw.[4]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.