Wrecsam – dinas fwyaf newydd Cymru, ac anheddiad mwyaf gogledd Cymru, a gafodd y statws yn 2022.[2][4] Mae’r ddinas yn gartref i glwb pêl-droed hynaf Cymru, CPD Wrecsam ynghyd a stadiwm rhyngwladol hynaf y byd, y Cae Ras. Mae'r ddinas hefyd yn gartref i un o Saith Rhyfeddod Cymru yn Eglwys San Silyn, gŵyl gerddoriaeth fwyaf Cymru Focus Wales, Tŷ Pawb, Xplore!, y brand lager hynaf yn arddull yr Almaen, Wrexham Lager, a'r plasty yn Erddig.[5]
Bangor – dinas hynaf Cymru ac mae ei chadeirlan yn dyddio o’r 6ed ganrif. Lleolir y ddinas yng Ngwynedd yng Ngogledd Orllewin Cymru, ger dyfroedd Afon Menai. Mae gan Fangor hefyd bier a phlasty'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol o'r enw Castell Penrhyn yn ogystal â Stryd Fawr hiraf Cymru.[2]
Dyfarnwyd statws dinas i Lanelwy, yn Sir Ddinbych gyda phoblogaeth o 3,500 yn 2012.[4]
Llandudno – ymhlith y tri phrif gyrchfan wyliau mwyaf poblogaidd yng Nghymru.[8] Ymhlith yr atyniadau mae’r promenâd, ei draeth, llwybr Alys yng Ngwlad Hud, y Gogarth, ei gar cebl a’i dramffordd.[9][10][11]
Dinbych -y-pysgod –cyrchfan gwyliau mwyaf poblogaidd Cymru yn y blynyddoedd diwethaf.[8]
Merthyr Tudful – mae atyniadau’n cynnwys Castell Cyfarthfa, amgueddfa ac oriel gelf Cyfartha, BikePark Wales (cyrchfan beicio mynydd mwyaf Cymru), Rock UK Summit Centre, Parkwood Outdoors Dolygaer, Rheilffordd Mynydd Aberhonddu, Redhouse Cymru, Joseph Parry’s Cottage, Canolfan Ymwelwyr Garwnant ar ymyl Bannau Brycheiniog, a sawl cwrs golff.[14]