amgueddfa awyr agored yn Sain Ffagan, Caerdydd From Wikipedia, the free encyclopedia
Amgueddfa awyr-agored sy'n cofnodi hanes phensaerniaeth, diwylliant a ffordd o fyw y Cymry yw Amgueddfa Werin Cymru. Mae'n rhan o Amgueddfa Cymru. Lleolir yr amgueddfa yn nhiroedd castell Sain Ffagan, ar gyrion Caerdydd.
Math | amgueddfa awyr agored, amgueddfa werin, amgueddfa genedlaethol |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Amgueddfa Cymru |
Lleoliad | Adeilad Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan |
Sir | Sain Ffagan |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 29.8 metr |
Cyfesurynnau | 51.4869°N 3.2725°W |
Cod post | CF5 6XB |
Rheolir gan | Amgueddfa Cymru |
Statws treftadaeth | Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Mae'r amgueddfa yn nodedig am ei chasgliad o adeiladau traddodiadol a symudwyd yno o bob rhan o Gymru, carreg wrth garreg. Mae'n gofnod gwerthfawr o hanes y genedl ac er mwyn arddangos ac astudio agweddau ar ddiwylliant Cymru o'r 15g ymlaen, gan gynnwys pensaernïaeth draddodiadol, crefftau, offer amethyddol, llên gwerin, dillad, ac ati. Mae yno hefyd nifer o dai Celtaidd wedi'u codi ac arteffactau o'r cyfnod ynghyd ag elfen o ail-greu ac ail-actio cyfnod o'n hanes.
Syniad y bardd a'r arbenigwr llên gwerin Iorwerth C. Peate oedd sefydlu'r amgueddfa, ar sail Skansen, sef amgueddfa awyr-agored pensaerniaeth brodorol Sweden yn Stockholm. Ond roedd rhan fwyaf o adeiladau Skansen yn rai pren, a byddai amgueddfa tebyg yng Nghymru yn naturiol yn fwy uchelgeisiol ocherwydd fod adeiladau brodorol Cymru wedi eu adeiladu o gerrig yn bennaf. Dechreuwyd y gwaith o ddatblygu'r amgueddfa ym 1946 yn dilyn y rhodd o'r castell a'i thiroedd gan Iarll Plymouth, agorodd yn swyddogol ym 1948. Peate oedd y curadur cyntaf, ac fe'i olynwyd gan Trefor M. Owen.
Cynlluniwyd prif adeilad yr amgueddfa gan Dale Owen, yn gweithio ar gyfer Partneriaeth Percy Thomas, ac fe'i adeiladwyd rhwng 1968 a 1974.[1] Enillodd y Fedal Aur am Bensaernïaeth yn Eisteddfod Genedlaethol 1978.[2]
Llun | Enw | Dyddiad | Ail-godwyd | Safle wreiddiol | Sir (traddodiadol) |
Sir (presennol) |
Nodiadau pellach |
---|---|---|---|---|---|---|---|
Pentre Celtaidd | — | 1992 | Sain Ffagan | — | Caerdydd | Replica ar sail adfeilion yng Ngwynedd, Sir y Fflint a Swydd Gaerwrangon.[3] | |
Ffermdy Hendre'r Ywydd Uchaf | 1508[4] | 1962 | Llangynhafal | Sir Ddinbych | Sir Ddinbych | ||
Eglwys Sant teilo | 1100 - 1520 | 2007[4] | Llandeilo Tal-y-bont, Pontarddulais | Sir Forgannwg | Abertawe | Ymddengys fel yr oedd tua 1510-30[5] | |
Ffermdy Cilewent | Dechreuwyd 1470
(Ffurf bresennol: 1734) |
1959 | Llansanffraid Cwmdeuddwr, Rhaeadr Gwy | Sir Drefaldwyn | Powys | ||
Y Garreg Fawr | 1544[4] | 1984 | Waunfawr | Sir Gaernarfon | Gwynedd | ||
Ysgubor Stryt Lydan | tua 1550 | 1951 | Llannerch Banna | Sir y Fflint | Wrecsam | [6] | |
Castell Sain Ffagan | 1580 | — | Sain Ffagan | Sir Forgannwg | Caerdydd | ||
Ysgubor Hendre Wen | Tua 1600 | 1982 | Llanrwst | Sir Ddinbych | Conwy | ||
Talwrn Dinbych | 17g | 1970 | Hawk and Buckle Inn, Dinbych | Sir Ddinbych | Sir Ddinbych | ||
Ffermdy Kennixton | 1610 | 1955 | Llangynydd | Sir Forgannwg | Abertawe | Ailgodwyd y ffermdy yn wreidddiol heb yr adeiladau fferm cyfagos, oherwydd bod y rhain dal yn cael eu defnyddio, ond yn 2007 fe'u cynigwyd i'r amgueddfa.[7] | |
Ffermdy Abernodwydd | 1678 | 1955 | Llangadfan | Sir Faldwyn | Powys | ||
Efail Llawr-y-Glyn | 18g | 1972 | Llawr-y-Glyn | Sir Drefaldwyn | Powys | ||
Tanerdy Rhaeadr Gwy | hwyr yn y 18g | 1968 | Rhaeadr Gwy | Sir Drefaldwyn | Powys | ||
Melin Wlân Esgair Moel | 1760 | 1952 | Llanwrtyd | Sir Frycheiniog | Powys | ||
Bwthyn Llainfadyn | 1762 | 1962 | Rhostryfan | Sir Gaernarfon | Gwynedd | ||
Bwthyn Nant Wallter | Tua 1770 | 1993 | Taliaris | Sir Gaerfyrddin | Sir Gaerfyrddin | ||
Tolldy Penparcau | 1772 | 1968 | Penparcau, Aberystwyth | Sir Aberteifi | Ceredigion | ||
Capel Pen Rhiw | 1777 | 1956 | Dre-fach Felindre | Sir Gaerfyrddin | Sir Gaerfyrddin | ||
Beudy Cae Adda | 18fed–19eg ganrif | 2003 | Waunfawr | Sir Gaernarfon | Gwynedd | ||
Twlc mochyn Hendre Ifan Prosser | tua 1800 | 1977 | Hendre Ifan Prosser | Sir Forgannwg | Rhondda Cynon Taf | ||
Bythynnod Rhyd-y-Car | Tua 1800 | 1986 | Rhyd-y-Car, Merthyr Tudful | Sir Forgannwg | Merthyr Tudful | Chwech o dai teras wedi eu creu i gynrychioli chwe chyfnod cronolegol yn ystod y diwydiant haearn: 1805, 1855, 1895, 1925, 1955, 1985 | |
Ffermdy Llwyn-yr-Eos | Dechreuwyd 1820 | — | Sain Ffagan | Sir Forgannwg | Caerdydd | Fferm wreiddiol o ystâd Castell Sain Ffagan. Agorwyd fel rhan o'r amgueddfa ym 1989. | |
Melin ŷd Bompren | 1852– | 1977 | Cross Inn | Ceredigion | |||
Sied wair | 1870 | 1977 | Maentwrog | Gwynedd | Dim ond y tirfeddianwyr cyfoethocaf oedd yn codi'r fath siediau gwair ar gyfer eu deiliaid.[8] | ||
Tŷ haf | tua 1880 | 1988 | Parc Bute, Caerdydd | Sir Forgannwg | Caerdydd | ||
Siop Gwalia | 1880 | 1991 | Cwm Ogwr, ger Pen-y-bont ar Ogwr | Sir Forgannwg | Pen-y-bont ar Ogwr | Ymddengys fel yr oedd yn y 1920au | |
Ysgol Maestir | defnyddiwyd 1880–1916 | 1984 | Llanbedr Pont Steffan | Sir Aberteifi | Ceredigion | ||
Melin lifo Llanddewi Brefi | 1892 | 1994 | Tŷ'n Rhos, Llanddewi Brefi | Ceredigion | |||
Siop teiliwr Cross Inn | 1896 (ymhelaethwyd 1920au) | 1992 | Cross Inn | Ceredigion | |||
Crochendy Ewenni | tua 1900 | 1988 | Ewenni | Sir Forgannwg | Bro Morgannwg | ||
Popty'r Dderwen | 1900 | 1987 | Thespian Street, Aberystwyth | Sir Aberteifi | Ceredigion | Caewyd 1924 | |
Institiwt y Gweithwyr, Oakdale | 1916 | 1995 | Oakdale, Y Coed Duon | Sir Fynwy | Caerffili | ||
Gweithdy Cyfrwywr | 1926 | 1986 | Sanclêr | Sir Gaerfyrddin | Sir Gaerfyrddin | ||
Tŷ Masnachwr | 1580 | 2012 | Hwlffordd | Sir Benfro | Sir Benfro | ||
Swyddfa bost | 1936 | 1992 | Blaen-waun, ger Hendy-gwyn ar Daf | Sir Gaerfyrddin | Sir Gaerfyrddin | Ymddengys fel yr oedd yn yr Ail Ryfel Byd[9] | |
Pre-fab | 1948 | 1998 | Gabalfa | Sir Forgannwg | Caerdydd | Ymddengys fel yr oedd tua 1950[10] | |
Tŷ Gwyrdd ("Tŷ'r Dyfodol" yn wreiddiol) |
2001[11] | Sain Ffagan | — | Caerdydd | Ar y cyd gyda'r BBC. Ysbrydolwyd gan ddulliau adeiladau traddodiadol a thechnoleg werdd.[12] | ||
Bryn Eryr | 2016 | Llansadwrn | Sir Fôn | Caerdydd | |||
Llys Llewelyn (Llys Rhosyr) | 1200s | 2016–18 (ail-greu) |
Rhosyr | Sir Fôn | Sir Fôn | } | |
Tafarn y Vulcan | Caerdydd | — |
Mae'r amgueddfa wedi cynnal yr "Everyman Open Air Theatre Festival" (a ddechreuodd ym 1983) ers 1996,[13] pan symudwyd yno o Erddi Dyffryn ger Casnewydd. Mae'r ŵyl yn cynnwys drama Shakespeare, cynhyrchiad gerddorol a sioe ar gyfer y teulu, ac mae wedi dod yn rhan elfennol o galendr theatr yng Nghymru dros y 25 mlynedd diwethaf.
Ffilmwyd y rhan fwyaf o benodau Doctor Who "Human Nature" a "The Family of Blood" yn Sain Ffagan. Ffilmiwyd penodau Poldark yno hefyd.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.