From Wikipedia, the free encyclopedia
Cyngor Sir Aberteifi oedd awdurdod llywodraeth leol sir Aberteifi, Cymru, sefydlwyd ym 1889 o dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1888. Fe'i disodlwyd gan Gyngor Sir Dyfed.
Cyngor Sir Aberteifi | |
Motto: GOLUD GWLAD RHYDDID | |
Daearyddiaeth | |
Statws | Cyngor Sir |
Hanes | |
Tarddiad | Ddeddf Llywodraeth Leol 1888 |
Crëwyd | 1889 |
Diddymwyd | 1974 |
Ailwampio | Cyngor Sir Dyfed |
Israniadau | |
---|---|
Math | Dosbarth Trefol, Dosbarth Gwledig, Bwrdeistref Ddinesig |
Unedau | Dosbarth Wledig Aberaeron, Dosbarth Trefol Aberaeron, Bwrdeistref Ddinesig Aberystwyth, Dosbarth Wledig Aberystwyth, Bwrdeistref Ddinesig Aberteifi, Bwrdeistref Ddinesig Llanbedr Pont Steffan,
Dosbarth Drefol Ceinewydd, Dosbarth Wledig Glannau Teifi, Dosbarth Wledig Tregaron |
Cynhaliwyd yr etholiad cyntaf ym 1889 a daliodd y Blaid Ryddfrydol fwyafrif helaeth o'r seddi hyd at y Rhyfel Byd Cyntaf, gan adlewyrchu ei goruchafiaeth dros wleidyddiaeth y sir.[1]
Roedd cyfarfod cyntaf y cyngor yn drobwynt nodedig, wrth i Morgan Evans o Oakford gynnig y dylid, er tegwch i fusnes cynghorwyr Cymru, gael ei drafod yn Gymraeg yn ogystal ag yn Saesneg. Aeth ymlaen i gynnig y crefftwyr o Aberystwyth Peter Jones, a etholwyd i gynrychioli Trefeurig wledig yn gadeirydd. Eiliwyd y cynnig hwn gan Iarll Lisburne.[2]
Erbyn blynyddoedd cynnar yr ugeinfed ganrif roedd llawer o'r brwdfrydedd cynharach wedi mynd yn wasgaredig a dim ond ychydig o gyfarfodydd y flwyddyn a fynychai llawer o'r aelodau.[3]
Yn y blynyddoedd cynnar cynhaliodd y cyngor sir eu cyfarfodydd yn Neuadd y Dref Llanbedr Pont Steffan.[4] Sefydlodd y cyngor sir swyddfeydd i swyddogion y sir a'u hadrannau yn hen neuadd y dref yn Aberaeron yn 1910 ac nid tan 1950 y sefydlodd y cyngor ganolfan barhaol yn Swyddfa'r Sir yn Aberystwyth.[5] Arhosodd rhai adrannau, gan gynnwys adrannau'r syrfëwr sirol a'r pensaer sirol, yn Aberaeron.[6]
Diddymwyd yr awdurdod yn dilyn ad-drefnu llywodraeth leol ym 1974 pan ddaeth yr ardal dan weinyddiaeth Cyngor Sir Dyfed a Cyngor Dosbarth Ceredigion.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.