Stadiwm y Mileniwm

stadiwm cenedlaethol Cymru From Wikipedia, the free encyclopedia

Stadiwm y Mileniwm

Lleolir Stadiwm y Mileniwm neu Stadiwm Principality (Saesneg: Principality Stadium) yng Nghaerdydd, ar lan Afon Taf. Mae'r enw yn adlewyrchu cytundeb nawdd gyda Cymdeithas Adeiladu'r Principality rhwng 2016 a 2026. Dyma stadiwm cenedlaethol Cymru, ac Undeb Rygbi Cymru yw ei berchennog. Dyma'r ail stadiwm fwyaf yn byd gyda tho y gellir ei dynnu yn ôl yn gyfan gwbwl; mae ganddo le ar gyfer 75,154 o bobl.[1] Fe'i adeiladwyd yn 1999, ar gyfer Cwpan Rygbi'r Byd, a gynhaliwyd yng Nghymru y flwyddyn honno. Fe gostiodd £126 miliwn i Undeb Rygbi Cymru ac fe'i hariannwyd gan fuddsoddiad preifat, arian y Loteri a benthyciadau. Fe'i defnyddiwyd am y tro cyntaf ar 26 Mehefin 1999 pan chwaraeodd Cymru yn erbyn De Affrica.

Ffeithiau sydyn Math, Enwyd ar ôl ...
Stadiwm y Mileniwm
Thumb
Mathstadiwm rygbi'r undeb, stadiwm bêl-droed, safle rygbi'r undeb 
Enwyd ar ôl3edd mileniwm, Cymdeithas Adeiladu'r Principality 
Agoriad swyddogol26 Mehefin 1999 
Sefydlwyd
  • 1997 
Daearyddiaeth
SirCaerdydd 
Gwlad Cymru
Arwynebedd40,200  
Cyfesurynnau51.4781°N 3.1825°W 
Hyd222 metr 
Rheolir ganUndeb Rygbi Cymru 
Thumb
PerchnogaethUndeb Rygbi Cymru 
Cost181,000,000 punt sterling 
Cau

Pan agorodd y stadiwm yn swyddogol ym mis Mehefin 1999, hwn oedd dim ond yr ail stadiwm yn Ewrop â tho gwbwl codadwy, ar ôl Arena Amsterdam. Fe'i hadeiladwyd ar safle yr hen Stadiwm Cenedlaethol ym Mharc yr Arfau; hwn oedd y pedwerydd tro i'r safle hwnnw gael ei ailddatblygu.[2]

Cynhaliwyd gemau terfynol Cwpan yr FA yma rhwng 2001 a 2006,[1] tra'r oedd Stadiwm Wembley yn Llundain yn cael ei ail-adeiladu.[3] Cynhaliwyd hefyd gemau pêl-droed yng Ngemau Olympaidd 2012[4] a gemau yng Nghwpan Rygbi'r Byd 2015.[1] Dyma fydd safle gêm derfynol Cynghrair y Pencampwyr UEFA yn 2017.[5] Mae nifer o gerddorion wedi perfformio mewn cyngherddau yma, gan gynnwys Madonna, Take That, The Rolling Stones a Paul McCartney.[6] Yn 2004, cynhaliwyd Cyngerdd Cymorth Tsunami yn y stadiwm.

Oriel

Dolen allanol

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.