From Wikipedia, the free encyclopedia
Cân draddodiadol a genir i longyfarch a dathlu pen-blwydd person yw Pen-blwydd hapus i ti! Yn ôl y Guinness World Records dyma'r gân Saesneg mwyaf adnabyddus ledled y byd.[1] Cenir y gân mewn nifer o ieithoedd. Honir mai dwy chwaer, dwy athrawes a sgwennodd y gân a gyhoeddwyd yn wreiddiol yn 1893 mewn cyfrol o'r enw Song Stories for the Kindergarten, gyda geiriau "Good Morning to All" i groesawu'r disgyblion i'w dosbarth; y ddwy athrawes oedd Patty Hill a Mildred J. Hill. Mae rhai pobl yn mynnu mai'r geiriau'n unig a ysgrifennwyd ganddynt.[2] Prifathrawes mewn kindergarten yn Louisville, Kentucky oedd Patty ar y pryd[3] a phianydd a chyfansoddwraig oedd Mildred.[1] Yn 1912 yr ymddangosodd y geiriau mewn print yn gyntaf, heb unrhyw rybydd o hawlfraint arnyn nhw. Bellach, Warner Brothers bia hawlfraint y gân a chaiff ei defnyddio'n aml i ddangos mor hurt (yng ngolwg rhai) yw deddfau hawlfraint y byd.
Cofrestrodd y cwmni 'Summy' hawlfraint y gân yn 1935, fel gwaith "Work for hire" (comiswn) gan nodi mai'r awduron oedd Preston Ware Orem a 'Mrs. R.R. Forman'. Yn 1988 prynnwyd Cwmni Summy gan "Warner/Chappell Music" am $25 miliwn.[4][5] O seilio'r cyfnod hawlfraint ar y cofrestriad cyntaf yn 1935, bydd yr hawlfraint hwn yn parhau hyd at 2030, ac mae unrhyw berfformiad o'r gân cyn ddiwedd y cyfnod hwn yn anghyfreithlon, oni delir arian i Warner. Er enghraifft, yn Chwefror 2010, canwyd y gân ar y rhaglen Americanaidd The Wendy Williams Show a chostiodd hynny $700.[6] Yng ngwledydd yr Undeb Ewropeaidd bydd yr hawlfraint yn dod i ben ar y diwrnod olaf o Ragfyr 2016; sef bywyd y cyfansoddwr + 70 mlynedd.[7]
Yn 2008, casglodd Warner oddeutu $5,000 y diwrnod ($2 miliwn y flwyddyn) mewn breindal am y 'Pen-blwydd Hapus i Ti'.[1], tud. 4,68 Maent yn mynnu'r breidaliadau hyn am bob perfformiad lle mae'r mwyafrif o'r bobl sy'n cymryd rhan o'r tu allan i'r teulu.
Yn ôl yr Athro Robert Brauneis mae dryswch ynghylch yn union pwy yw awduron y gân, a daeth i'r casgliad, "Bellach, bron yn sicr, nad yw o dan cyfreithiau hawlfraint."[1][8]
Ceir fersiwn Gymraeg o'r gân a genir, fel mewn gwledydd eraill, i'r un dôn ac ar achlysuron dathlu pen-blwydd.[9]
Iaith | Teitl | Ynganiad Rhyngwladol |
---|---|---|
Almaeneg | Zum Geburtstag viel Glück | [t͡sʊmgəˈbʊɐtstakfi:lˈglʏk] |
Arabeg | عيد ميلاد سعيد | [aidamilɛd sait] |
Arabeg | Aïd milèd saïd | [aidmilɛdsaid] |
Basgeg | Zorionak zuri | [sorionak suri] |
Bengali | শুভ জন্মদিন ! | [ʃubʱodʒɔnmod̪in] |
Belarwseg | З днём нараджэння | Z dnyom naradžennya [zdn̪ʲɔmnaradʐɛn̪ʲn̪ʲa] |
Catalaneg | Per molts anys | [pərmolzanʃ] |
Creol Haiti | Bòn fèt | [bɔn fɛt] |
Cymraeg | Pen-blwydd hapus | [pɛnblʊɨðˈhapɨ̞s] |
Eidaleg | Buon compleanno ou Tanti auguri a te | [bwɔŋkompleˈanːo] |
Esperanto | Feliĉan naskiĝtagon | [felit͡ʃanːaskid͡ʒtagon] |
Ffinneg | Hyvää syntymäpäivää | [hyvæːsyntymæpæi̯væː] |
Ffrangeg Ffrangeg | Joyeux anniversaire[10] Bonne fête | [ʒwajøzanivɛʁsɛʁ] [bon fɛt] |
Groeg | χαρούµεvα γενέθλια | [xaˈrumena jeˈnɛθlja] |
Gwyddeleg | Breithlá sona | [brɛhɛtlasona] |
Hebraeg | יוֹם הֻלֶּדֶת שָׂמֵחַ | yom huledet sameakh |
Hindi | जन्मदिन मुबारक | [janmadinmubarka] |
Hwngareg | Boldog születésnapot | [ˌboldoɡˈsylɛteːʃnɒpot] |
Islandeg | Til hamingju með afmælið | [tʰɪlhamɪncʏ:mɛðafmaɪlɪθ] |
Japaneg | お誕生日おめでとう | [otandʒoːbiomedetoː] |
Lladin | Natalis beati | [naːˈtaːlɪs bɛˈaːtiː] |
Llydaweg | Deiz-ha-bloaz laouen | [dɛjzablwazˈlɔwːɛn] |
Malagaseg | Arahaba ianao | [arahaba ianao] |
Persieg | تولدت مبارک | [tavalodat mobarak] |
Portiwgaleg | Feliz aniversário, parabéns | [fəˌliʒɐnivəɾˈsaɾiu], [pɐɾɐbɐ̃j̃ʃ] |
Pwyleg | Wszystkiego najlepszego | [fʂɨstkʲɛgo najlɛpʂɛgo] |
Rwmaneg | La mulți ani | [lamultsʲanʲ] |
Rwsieg | С днём рожде́ния | S dnyóm rozhdéniya [ˈzdnʲɵmrɐʐˌdʲenʲɪjə] |
Saesneg | Happy birthday | [hæpiˈbɜːθdeɪ̯] |
Sbaeneg | Feliz cumpleaños | [feliθkumpleˈaɲos] |
Serbeg | Cрећан рођендан / Srećan rođendan | [srêt͡ɕanrôd͡ʑɛndaːn] |
Slofaceg | Všetko najlepšie | [ˈfʃɛtkoˌnajlɛpʃɪjɛ] |
Thai | สุขสันต์วันเกิด | [suksãtwãkɛd] |
Tsieceg | Všechno nejlepší | [ˈfʃɛxnoˌnɛjlɛpʃiː] |
Tsieinëeg | 生日快樂 / 生日快乐 | shēngrì kuàilè [ʂə́nkʐɨkʰu̯âɪ̯lə̂] |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.