pentref a chymuned yn Sir Fynwy From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref a chymuned yn Sir Fynwy, Cymru, yw Llan-gwm,[1] weithiau Llangwm.[2] Saif i'r dwyrain o dref Brynbuga. Heblaw Llan-gwm ei hun, mae'r gymuned yn cynnwys pentrefi Llanfihangel Torymynydd a Llan-soe. Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 400. Ar un cyfnod ceid Llangwm Uchaf a Llan-gwm Isaf (Gwarthacwm bellach).
Math | cymuned, pentrefan |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Fynwy |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.696°N 2.83°W |
Cod SYG | W04000789 |
Cod OS | SO425005 |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Peter Fox (Ceidwadwyr) |
AS/au | Catherine Fookes (Llafur) |
Mae'r gymuned yn cynnwys bryngaer fwyaf Sir Fynwy, y Gaer Fawr. Cysegrir eglwys Llan-gwm i Sant Sierôm, ac mae'n cynnwys croglen nodedig o tua 1500. Ganed Walter Cradock, un o arweinwyr mwyaf blaenllaw y Piwritaniaid cynnar, yn Llan-gwm.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Peter Fox (Ceidwadwyr)[3] ac yn Senedd y DU gan Catherine Fookes (Llafur).[4]
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[5][6][7][8]
Cyfrifiad 2011 | ||||
---|---|---|---|---|
Poblogaeth cymuned Llan-gwm (pob oed) (440) | 100% | |||
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llan-gwm) (23) | 5.3% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 19% | |||
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llan-gwm) (264) | 60% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 73% | |||
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Llan-gwm) (53) | 31.2% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 67.1% |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.