![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/b/b0/Dyffryn_Clwyd_%2528Vale_of_Clwyd%2529_uwch_ben_%2528above%2529_Llangynhafal%252C_Sir_Ddinbych%252C_Cymru_%2528Wales%2529_12.jpg/640px-Dyffryn_Clwyd_%2528Vale_of_Clwyd%2529_uwch_ben_%2528above%2529_Llangynhafal%252C_Sir_Ddinbych%252C_Cymru_%2528Wales%2529_12.jpg&w=640&q=50)
Dyffryn Clwyd
dyffryn yng Nghymru / From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Dyffryn Clwyd yn ddyffryn eang sy'n gorwedd yn Sir Ddinbych yng ngogledd-ddwyrain Cymru. Llifa afon Clwyd drwyddo, ar lawr y dyffryn, drwy drefi Rhuthun, Dinbych a Llanelwy, i aberu ym Môr Iwerddon ger Y Rhyl. Ar ochr ddwyreiniol y dyffryn ceir Bryniau Clwyd sy'n Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol.
![]() Awyrlun o led Dyffryn Clwyd o Langynhafal tua'r gorllewin | |
Math | dyffryn ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Ddinbych ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 53.21°N 3.38°W ![]() |
![]() | |
- Gweler hefyd Dyffryn Clwyd (gwahaniaethu).
Er mai o'r gogledd i'r de y llifa'r dyffryn, mae'r ffyrdd yn aml yn croesi o'r gorllewin i'r dwyrain, gyda phump o fryngaerau Neolithig yn gwarchod pob bwlch e.e. Moel Fenlli'n gwarchod Bwlch Pen Barras. Ar y cyfan, bywyd cefn gwlad sydd yma, ond yn y gogledd ceir trefi twristaidd y Rhyl a Phrestatyn. Yn y gogledd, hefyd mae un o brif ysbytai Gogledd Cymru: Ysbyty Glan Clwyd.
Ceir llawer o olion bywyd a diwylliant yma drwy Oes y Cerrig ac Oes yr Efydd, gan gynnwys olion Neanderthaliaid yn Ogof Bontnewydd, yng ngogledd-orllewin y Dyffryn a dynol yn Ogof Llandegla. Yn wir caiff gogledd-orllewin Cymru ei gyfrif yn 'un o'r llefydd pwysicaf yng ngorllewin Ewrop am dystiolaeth o weithgaredd dynol Paleolithig'.[1] Yn yr Oesoedd Canol roedd cantref Dyffryn Clwyd yn cyfateb yn fras i'r dyffryn daearyddol ac roedd oddi fewn i'r hyn a elwid y Berfeddwlad (rhwng Afon Conwy a'r Ddyfrdwy).
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/8f/Vale_of_Clwyd_%28Assembly_constituency%29.svg/640px-Vale_of_Clwyd_%28Assembly_constituency%29.svg.png)
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/b/ba/View_over_Vale_of_Clwyd_-_geograph.org.uk_-_1325168.jpg/320px-View_over_Vale_of_Clwyd_-_geograph.org.uk_-_1325168.jpg)
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/cy/thumb/3/37/DyffrynclwydLB01.jpg/640px-DyffrynclwydLB01.jpg)