Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol
ardal sy'n cael ei gwarchod / From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol (AOHNE) yn cael eu dynodi gan Gyfoeth Naturiol Cymru (cynt: Cyngor Cefn Gwlad Cymru) ar ran Llywodraeth Cymru. Yng Nghymru, mae yna bum Ardal o Harddwch Naturol Eithriadol:
- Arfordir Môn
- Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy
- Penrhyn Gŵyr
- Penrhyn Llŷn
- Dyffryn Gwy
Ffeithiau sydyn Enghraifft o'r canlynol, Math ...
Enghraifft o'r canlynol | dynodiad o ran cadwraeth, designation type |
---|---|
Math | ardal gadwriaethol, treftadaeth naturiol |
Gweithredwr | Natural England, Cyfoeth Naturiol Cymru, Northern Ireland Environment Agency |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cau
Penrhyn Gŵyr oedd yr ardal gyntaf i gael ei phenodi'n Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol yng Nghymru. Mae’r rhain wedi’u neilltuo oherwydd eu harddwch naturiol eithriadol ond yn wahanol i’r Parciau Cenedlaethol, nid yw hamdden yn un o'r rhesymau dros eu neilltuo hwn.
Ceir 14 Arfordir Treftadaeth yng Nghymru hefyd sy'n cynnwys dros 40% o arfordir Cymru. Nid oes unrhyw sail statudol iddyn nhw ond mae’r sustem gynllunio’n eu cydnabod yn swyddogol.