Natural England

From Wikipedia, the free encyclopedia

Corff cynghori a chynllunio cadwraeth cyhoeddus yn y Deyrnas Unedig yw Natural England. Mae'n gyfrifol am ddiogelu a datblygu amgylchedd Lloegr: tirweddau, fflora a ffawna, dŵr yfed ac amgylcheddau morol, daeareg a chadwraeth pridd .

Ffeithiau sydyn Enghraifft o:, Dechrau/Sefydlu ...
Natural England
Enghraifft o:corff cyhoeddus anadrannol 
Dechrau/Sefydlu1 Hydref 2006 
Pennaeth y sefydliadChief Executive of Natural England 
RhagflaenyddCountryside Agency, English Nature, Rural Development Service 
Rhiant sefydliadAdran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig 
PencadlysEfrog 
Gwefanhttps://www.gov.uk/government/organisations/natural-england 
Cau

Nod y sefydliad yw datblygu'r dirwedd naturiol genedlaethol yn gynaliadwy er budd cenedlaethau'r dyfodol. Mae'r asiantaeth yn gweithio gyda ffermwyr, rheoli tir, masnach a diwydiant, yn ogystal â chynllunwyr a llywodraethau lleol a chenedlaethol.

Cyfrifoldebau

Thumb
Wildlife Haven, Mawdesley a ddynodwyd gan Natural England
  • Cadwraeth Natur: Gwarchod tirweddau, bioamrywiaeth, daeareg, priddoedd, adnoddau naturiol, henebion diwylliannol ac elfennau naturiol eraill.
  • Rheoli tirwedd (ffermio a stiwardiaeth tir)
  • Rheoleiddio a thrwyddedu
  • Cynllunio gofodol a chyngor polisi meysydd gwaith eraill

Fel corff cyhoeddus anadrannol (NDPB, non-departmental public body), mae Natural England yn annibynnol ar y llywodraeth. Fodd bynnag, mae gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig y pŵer cyfreithiol i gyhoeddi canllawiau i Natural England ar faterion amrywiol,[1] cyfyngiad na roddwyd ar yr NDPB a ragflaenodd Natural England.

Hanes

Sefydlwyd Natural England ar 1 Hydref 2006 gan Ddeddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig 2006, (Natural Environment and Rural Communities Act 2006),[1] a roddodd argymhellion adolygiad gwledig gan y Baron Haskins o Skidby ar waith. Fe'i ffurfiwyd trwy gyfuno tri chorff sefydlu:

  • Countryside Agency, yr elfennau tirwedd, mynediad a hamdden
  • English Nature
  • Rural Development Service, swyddogaethau rheoli tir amgylcheddol Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra)

Derbyniodd bwerau'r cyrff sefydlu yma.

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

Dolenni allanol

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.