![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/d/db/Aerial_View_of_St_Asaph_Cathedral.jpg/640px-Aerial_View_of_St_Asaph_Cathedral.jpg&w=640&q=50)
Llanelwy
dinas yn Sir Ddinbych / From Wikipedia, the free encyclopedia
Dinas a chymuned yn Sir Ddinbych, Cymru, yw Llanelwy (Saesneg: St Asaph). Yn gynt, roedd yn yr hen sir draddodiadol Sir y Fflint. Mae ganddi boblogaeth o tua 3,491 (Cyfrifiad 2001). Fe'i lleolir rhwng Afon Elwy ac Afon Clwyd ar yr A525 6 milltir i'r de o'r Rhyl a 5 i'r gogledd o Ddinbych. Mae'r A55 yn osgoi'r dref i'r gogledd. Mae Esgobaeth Llanelwy yn sedd Esgob Llanelwy, gyda'i eglwys gadeiriol ei hun, y lleiaf yng Nghymru. Ceir sawl adeilad hanesyddol yn y dref, e.e. yr elusendai o'r 17g ar y Stryd Fawr lle treuliodd Henry Morton Stanley gyfnod annedwydd iawn (1847 - 1856).
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/cy/thumb/4/40/Llanelwy2.gif/640px-Llanelwy2.gif)
Ffeithiau sydyn Math, Gefeilldref/i ...
![]() | |
Math | dinas ![]() |
---|---|
Gefeilldref/i | Bear, Lannarstêr ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Llanelwy ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 53.2577°N 3.4416°W ![]() |
Cod OS | SJ035743 ![]() |
Cod post | LL17 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Gareth Davies (Ceidwadwyr) |
AS/au | Gill German (Llafur) |
![]() | |
Cau