![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/85/Views_from_Bryn_Llwyn_%2528230m%2529_1km_East_of_Prestatyn%252C_Wales_-_Bryniau_Clwyd_a_Dyffryn_Dyfrdwy_AONB_03_%2528cropped%2529.jpg/640px-Views_from_Bryn_Llwyn_%2528230m%2529_1km_East_of_Prestatyn%252C_Wales_-_Bryniau_Clwyd_a_Dyffryn_Dyfrdwy_AONB_03_%2528cropped%2529.jpg&w=640&q=50)
Prestatyn
tref arfordirol yng ngogledd Sir Ddinbych / From Wikipedia, the free encyclopedia
Tref a chymuned ar arfordir gogleddol Sir Ddinbych, Cymru, yw Prestatyn.[1] Cyn ail-drefnu llywodraeth leol ym 1974, roedd hi'n rhan o Sir y Fflint. Mae gan y dref orsaf ar Reilffordd Arfordir Gogledd Cymru. Mae Llwybr y Gogledd yn cychwyn/gorffen yn y dref.
![]() | |
Math | tref, cyrchfan lan môr, cymuned ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Ddinbych ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 53.331°N 3.405°W ![]() |
Cod SYG | W04000171 ![]() |
Cod OS | SJ065825 ![]() |
Cod post | LL19 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Gareth Davies (Ceidwadwyr) |
AS/au | Becky Gittins (Llafur) |
![]() | |
- Erthygl am y dref yw hon. Am y cwmwd canoloesol o'r un enw gweler Prestatyn (cwmwd).
Lleolir Prestatyn tua 4 milltir i'r dwyrain o'r Rhyl wrth droed y cyntaf o Fryniau Clwyd. Mae'r pentrefi cyfagos yn cynnwys Talacre a'r Gronant i'r dwyrain ac Allt Melyd a Diserth i'r de. Mae Caerdydd 206.3 km i ffwrdd o Prestatyn ac mae Llundain yn 301.7 km. Y ddinas agosaf ydy Lerpwl sy'n 32.2 km i ffwrdd.
Mae Prestatyn yn dref glan môr poblogaidd gyda thraeth braf sy'n estyniad o draeth enwog Y Rhyl. Gorwedd canol y dref fechan tua hanner milltir i mewn o'r traeth. Erbyn heddiw mae nifer o stadau tai newydd yno ac mae canran uchel o'r boblogaeth yn bobl wedi ymddeol.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Gareth Davies (Ceidwadwyr)[2] ac yn Senedd y DU gan Becky Gittins (Llafur).[3]