![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/1/12/Gronant_-_geograph.org.uk_-_36948.jpg/640px-Gronant_-_geograph.org.uk_-_36948.jpg&w=640&q=50)
Gronant
pentref yn Sir y Fflint / From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref bychan yng nghymuned Llanasa, Sir y Fflint, Cymru, yw Gronant[1][2] ( ynganiad ). Saif tua milltir o arfordir gogledd Cymru yng nghornel gogledd-orllewinol eithaf y sir, bron ar y ffin â Sir Ddinbych. Mae'n gorwedd rhwng Prestatyn i'r gorllewin a Gwesbyr a Talacre i'r dwyrain.
![]() | |
Math | pentref ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Llanasa ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 53.339°N 3.365°W ![]() |
Cod OS | SJ091833 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Hannah Blythyn (Llafur) |
AS/au | Becky Gittins (Llafur) |
![]() | |
Tu ôl i'r pentref mae nant yn codi i'r Graig Fawr, y cyntaf o Fryniau Clwyd. Mae lôn dan bont ar Reilffordd Arfordir Gogledd Cymru yn arwain o'r pentref i'r traeth a'r tywynnau sy'n ymestyn o Brestatyn i'r Parlwr Du.
Ar y traeth gerllaw Gronant, ceir yr unig fan lle mae'r Fôr-wennol fechan yn nythu yng Nghymru. Mae'r nythod yn cael eu gwarchod gan wirfoddolwyr.
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/b/be/Gronant_sand_dunes_-_geograph.org.uk_-_151646.jpg/320px-Gronant_sand_dunes_-_geograph.org.uk_-_151646.jpg)
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Hannah Blythyn (Llafur)[3] ac yn Senedd y DU gan Becky Gittins (Llafur).[4]