![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/a/aa/Gwespyr_cottages_-_geograph.org.uk_-_182105.jpg/640px-Gwespyr_cottages_-_geograph.org.uk_-_182105.jpg&w=640&q=50)
Gwesbyr
pentref yn Sir y Fflint / From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref yng nghymuned Llanasa, Sir y Fflint, Cymru, yw Gwesbyr[1] ( ynganiad ) (amrywiad: Gwespyr).[2] Saif ym mhen gogleddol y sir ger arfordir gogledd-ddwyrain Cymru, rhwng Prestatyn 4 km i'r gorllewin a Ffynnongroyw i'r dwyrain ar briffordd y A548. Fymryn i'r gogledd mae Talacre a'r Parlwr Du ac i'r de mae pentref Llanasa. Mae Bryniau Clwyd yn codi i'r gorllewin o'r pentref.
Ffeithiau sydyn Math, Daearyddiaeth ...
![]() | |
Math | pentref ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Llanasa ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 53.3381°N 3.3383°W ![]() |
Cod OS | SJ109832 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Hannah Blythyn (Llafur) |
AS/au | Rob Roberts (Ceidwadwyr) |
![]() | |
Cau
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Hannah Blythyn (Llafur)[3] ac yn Senedd y DU gan Rob Roberts (Ceidwadwyr).[4]