From Wikipedia, the free encyclopedia
Y brif ffynhonnell cyngor cyfreithiol i Lywodraeth Cymru ac aelod o Gabinet Llywodraeth Cymru[1] yw Cwnsler Cyffredinol Cymru. Ei swyddogaeth yw i gynghori Llywodraeth Cymru ar faterion deddfwriaethol yng Nghymru a chymhwysedd deddfwriaethol Senedd Cymru.
Disgrifir swydd y Cwnsler Cyffredonol (yn swyddogol Cwnsler Cyffredinol i Lywodraeth Cymru) yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006.[2] Penodir y Cwnsler Cyffredinol gan y teyrn Prydeinig (Elisabeth II ar hyn o bryd) ar enwebiad Prif Weinidog Cymru, ac mae'n rhaid i'r Cynulliad gytuno ar yr argymhelliad. Gall y Cwnsler Cyffredinol fod yn Aelod o'r Senedd, ond nid yw hyn yn amod angenrheidiol.[3]
Y Cwnsler Cyffredinol cyntaf oedd Carwyn Jones, AC dros Pen-y-bont ar Ogwr, oedd hefyd yn cyflawni'r swydd o Arweinydd y Tŷ.[4] Pan ddaeth Jones yn Brif Weinidog yn 2009 fe benodwyd John Griffiths AS i'w olynu.[5] Penodwyd y Cwnsler Cyffredinol nesaf, Theodore Huckle, yn swyddogol ar 10 Mehefin 2011, ac ef oedd y person cyntaf i ddal y swydd nad oedd yn Aelod o'r Cynulliad.[6]
Enw | Llun | Dechrau'r swydd | Gadael y swydd | Plaid wleidyddol | Llywodraeth | |
---|---|---|---|---|---|---|
Carwyn Jones AC | 19 Gorffennaf 2007 | 9 Rhagfyr 2009 | Llafur | Clymblaid Llafur/Plaid Cymru | ||
John Griffiths AC | Rhagfyr 2009 | 27 Mai 2011 | Llafur | Clymblaid Llafur/Plaid Cymru | ||
Theodore Huckle CF[7] | 27 Mai 2011 | 19 Mai 2016 | Dim | Llafur | ||
Mick Antoniw AC | 27 Mehefin 2016 | 14 Tachwedd 2017 | Y Blaid Lafur | Llafur / Democrat Rhyddfrydol | ||
Jeremy Miles AC | 14 Tachwedd 2017 | 13 May 2021[8] | Y Blaid Lafur | Llafur / Democrat Rhyddfrydol / Annibynnol | ||
Mick Antoniw AS | 13 Mai 2021 | deiliad | Llafur | Llafur (Llywodraeth Leiafrifol) |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.