Remove ads
gwleidydd Cymreig From Wikipedia, the free encyclopedia
Gwleidydd Llafur o Gymru yw John Griffiths (ganwyd 19 Rhagfyr 1956). Ganed yng Nghasnewydd, Sir Fynwy, mae Griffiths yn Aelod o'r Senedd dros etholaeth Dwyrain Casnewydd, ers sefydlu'r Cynulliad yn 1999.
John Griffiths AS | |
---|---|
Aelod o Senedd Cymru dros Ddwyrain Casnewydd | |
Deiliad | |
Cychwyn y swydd 6 Mai 1999 | |
Rhagflaenwyd gan | Sefydlwyd y swydd |
Mwyafrif | 4,896 (23.7%) |
Gweinidog yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd | |
Mewn swydd 13 Mai 2011 – 14 Mawrth 2013 | |
Prif Weinidog | Carwyn Jones |
Rhagflaenwyd gan | Jane Davidson |
Dilynwyd gan | Carl Sargeant [a] |
Cwnsler Cyffredinol Cymru | |
Mewn swydd 9 Rhagfyr 2009 – 13 Mai 2011 | |
Prif Weinidog | Carwyn Jones |
Rhagflaenwyd gan | Carwyn Jones |
Dilynwyd gan | Theodore Huckle QC |
Manylion personol | |
Ganwyd | Casnewydd, Sir Fynwy | 19 Rhagfyr 1956
Plaid wleidyddol | Llafur Cyd-weithredol |
Alma mater | Prifysgol Cymru |
Proffesiwn | Gwleidydd Bargyfreithiwr |
a. ^ fel Gweinidog dros Adnoddau Naturiol |
Astudiodd y gyfraith fel myfyriwr hŷn ym Mhrifysgol Cymru.
Cyn ei ethol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, roedd yn gyfreithiwr (cyfraith droseddol, anaf personol ac ymgyfreithiad sifil cyffredinol).
Roedd Griffiths yn gynghorydd ar Gyngor Sir Gwent a CBC Chasnewydd. Roedd yn aelod o Fforwm Polisi Cenedlaethol y Blaid Lafur, Plaid Cyd-weithredol, Cymdeithas Addysg y Gweithwyr a Fforwm Cyflogaeth Lawn. Mae'n weriniaethiwr. Mae'n aelod o undeb llafur ISTC. Mae wedi bod yn aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru dros Orllewin Casnewydd ers 1999.
Mae ei ddiddordebau gwleidyddol yn cynnwys datblygu economaidd, cynhwysiant cymdeithasol, addysg ac Ewrop.
Yn Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, fe'i penodwyd yn Ddirprwy Weinidog dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Pobl Hŷn) o fis Mai 2003 tan fis Mai 2007. Yn y Trydydd Cynulliad, fe'i penodwyd yn Ddirprwy Weinidog dros Addysg, Diwylliant a'r Iaith Gymraeg (31 Mai 2007) ac arhosodd yn y swydd honno pan cyhoeddwyd y llywodraeth glymblaid rhwng Plaid Cymru a Llafur ar 19 Gorffennaf. Cefnogodd Carwyn Jones yn y gystadleuaeth arweinydd Plaid Lafur Cymru yn 2009. Cafodd ei benodi yn Gwnsler Cyffredinol ac yn Arweinydd y Rhaglen Ddeddfwriaethol yn y Cynulliad yn Rhagfyr 2009, swydd a wnaed yn flaenorol gan y Prif Weinidog, Carwyn Jones.[1]
Cafodd ei benodi'n Weinidog yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd yn 2011 ond fe adawodd y swydd pan ad-drefnwyd y Cabinet yn 2014.[2]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.