pentref ar Ynys Mon From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref bychan a chymuned yn Ynys Môn yw Bodffordd[1][2] ( ynganiad ) (neu Botffordd). Fe'i lleolir yng nghanol yr ynys ar y lôn gefn B5109 tua dwy filltir a hanner i'r gorllewin o Langefni, ar ben deheuol Llyn Cefni. Tri chwarter milltir i'r de mae Heneglwys ac mae Bodffordd ei hun yn rhan o'r plwyf eglwysig honno.
Math | pentref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 960, 991 |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Ynys Môn |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 2,529.425 ±0.001 ha |
Yn ffinio gyda | Llanddyfnan, Bodedern, Trewalchmai, Cymuned Llangefni, Bryngwran, Llannerch-y-medd, Tref Alaw |
Cyfesurynnau | 53.261944°N 4.362778°W |
Cod SYG | W04000005 |
Cod OS | SH424765 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Llinos Medi (Plaid Cymru) |
Fymryn i'r gorllewin o'r pentref ceir Maes Awyr Môn.
Ystyr yr enw Bodffordd yw 'Anedd ar y ffordd', sef yr hen ffordd fawr ar draws Môn, o Borthaethwy i Gaergybi. Roedd Bodffordd yn perthyn i Esgob Bangor gynt; gelwid y "dref" fechan yn Bodffordd Ddeiniol (ar ôl Deiniol Sant, sefydlydd Eglwys Gadeiriol Bangor yn ôl y traddodiad) neu Bodffordd Esgob.[3] Roedd yn rhan o gwmwd Malltraeth, cantref Aberffraw.
Cafodd Bodffordd ei ddewis fel lleoliad Eisteddfod Môn 2007.
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6]
Cyfrifiad 2011 | ||||
---|---|---|---|---|
Poblogaeth cymuned Bodffordd (pob oed) (960) | 100% | |||
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Bodffordd) (680) | 72.5% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 19% | |||
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Bodffordd) (725) | 75.5% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 73% | |||
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Bodffordd) (138) | 32.9% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 67.1% |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.