mae Esgob Bangor yn gyfrifol am Esgobaeth Bangor, sy'n cynnwys Môn, y rhan fwyaf o Wynedd a darn bach o Bowys. From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Esgob Bangor yn gyfrifol am Esgobaeth Bangor, sy'n cynnwys Môn, y rhan fwyaf o Wynedd a darn bach o Bowys. Mae'r Eglwys Gadeiriol ym Mangor, a phreswylfa swyddogol yr esgob yw Tŷ'r Esgob ym Mangor.
Sefydlwyd esgobaeth yn hen Deyrnas Gwynedd gan Deiniol Sant tua'r flwyddyn 546. Yn ddiweddarach daeth yr esgobaeth dan reolaeth Archesgob Caergaint, a bu cryn dipyn o ddadlau rhwng yr Archesgob a Thywysogion Gwynedd ynghylch penodi esgob, yn enwedig yn ystod teyrnasiad Gruffudd ap Cynan ac Owain Gwynedd. Yn dilyn marwolaeth y Gwir Barchedig Anthony Crockett, yr 80fed esgob, etholwyd Andrew John i'r swydd ym mis Hydref 2008.
Cyfnod | Enw | Nodiadau |
---|---|---|
c546 hyd 572 | Deiniol | Sant Deiniol; sefydlodd fynachlog ym Mangor |
572 hyd c768 | anadnabyddus | |
c768 hyd 809 | Elfodd | Disgrifir yn y Brutiau fel "Prif esgob Gwynedd", efallai Esgob Bangor. |
809 hyd c904 | anadnabyddus | |
c904 hyd 944 | Morlais | |
??? hyd 1055 | anadnabyddus | |
c1050 hyd ???? | Dyfan | |
c1081 hyd ???? | Revedun | |
1092 hyd 1109 | Hervey le Breton | Bu raid iddo ffoi o'r esgobaeth ddiwedd y 1090au. Gwnaed ef yn Esgob Ely |
1109 hyd 1120 | Christopher Meare | Mae'n debyg na allodd gymeryd meddiant o'i esgobaeth |
1120 hyd 1139 | Dafydd y Sgotyn | |
1139 hyd 1161 | Meurig | |
1165 hyd 1177 | Arthur o Enlli (answyddogol) | Penodwyd Arthur o Enlli gan Owain Gwynedd c. 1165 a chysegrwyd ef yn Iwerddon, ond ni derbyniwyd ef gan Archesgob Caergaint. |
1177 hyd c1190 | Gwion (Guy Rufus) | |
c1191 hyd 1195 | vacant | Am bedair blynedd |
1195 hyd 1197 | Alban (Alan) | Prior of St Ioan o Jeriwsalem |
1197 hyd 1212 | Robert o Amwythig | |
1215 hyd 1236 | Cadwgan I o Landyfai (Martin) | |
1236 hyd 1240 | Hywel | |
1240 hyd 1267 | Richard | |
1267 hyd 1303 (or 1307) | Anian I | Archddiacon Mon |
1303 hyd 1306 | Cadwgan II | |
1307 hyd 1300 | Gruffudd ap Iorwerth | |
1320 hyd 1327 | Lewis | Yn ôl Heylyn |
1309 hyd 1328 | Einion Sais | Yn ôl Le Neve |
1327 hyd 1357 | Matthew de Englefield (Madog ap Iowerth) | |
1357 hyd 1366 | Thomas de Ringstead | |
1366 hyd 1370 | Gervase de Castro | |
1370 hyd 1371 | Hywel ap Goronwy | |
1371 hyd 1375 | John Gilbert | |
1375 hyd 1400 | John Swaffham styled John Clovensis yn ôl Heylyn | Esgob Cloyne, Iwerddon |
1400 hyd 1404 | Richard Young | Daeth yn Esgob Rochester |
1404 hyd 1407 | Lewis Byford | |
1407 | Gruffudd Yonge | Apwyntiwyd gan Owain Glyndŵr |
1408 hyd 1418 | Benedict Nicholls | |
1418 hyd 1424 | William Barrow | Canon o Lincoln; daeth yn Esgob Caerliwelydd |
1424 hyd 1436 | John Clitherow (neu Nicholas?) | Canon Chichester[1] |
1436 hyd 1448 | Thomas Cheriton | |
1448 hyd 1454 | John Stanbury | |
1454 hyd 1464 | James Blakedon | Esgob Achad-Fobhair |
1464 hyd 1496 | Thomas Edenham (alias Richard Evendon) | |
1496 hyd 1500 | Henry Deane | Prior Llanthony ac Arglwydd Ganghellor Iwerddon |
1500 hyd 1504 | Thomas Pigot | |
1504 hyd 1509 | John Penny | Daeth yn Esgob Caerliwelydd |
1509 hyd 1534 | Thomas Skeffington | Abad Waverley |
1534 hyd 1539 | John Capon alias John Salcott | |
1539 hyd 1541 | John Bird | Daeth yn Esgob Caer |
1541 hyd Mawrth 1552 | Arthur Bulkeley | Bu farw yn ystod ei dymor |
Mawrth 1552 hyd 1555 | dim esgob | am dair blynedd |
1555 hyd 1558 | William Glyn | Llywydd Coleg y Breninesau, Caergrawnt. Yr esgob Catholig olaf. Penodwyd Morys Clynnog fel olynydd iddo, ond bu raid iddo ffoi i Rufain cyn cael ei gyesgru. |
1559 hyd 1566 | Rowland Meyrick | Canghellor Tyddewi |
1566 hyd 1585 | Nicholas Robinson | |
1585 hyd 1595 | Hugh Bellot | Daeth yn Esgob Caer |
1595 hyd 1598 | Richard Vaughan | Archddiacon Middlesex; Daeth yn Esgob Caer |
1598 hyd 1616 | Henry Rowlands | |
1616 hyd 1631 | Lewis Bayley | |
1631 hyd 1633 | David Dolben | |
1633 hyd 1637 | Edmund Griffith | Deon Bangor |
1637 hyd 1666 | William Roberts | Is-ddeon Wells |
1666 hyd 1673 | Robert Morgan | Archddiacon Meirionnydd |
1673 hyd 1689 | Humphrey Lloyd | Deon Llanelwy |
1689 hyd 1701 | Humphrey Humphreys | Deon Bangor; daeth yn Esgob Henffordd |
1701 hyd 1715 | John Evans | Daeth yn Esgob Meath, Iwerddon. |
1715 hyd 1721 | Benjamin Hoadley | Rheithor St Peter's-le-Poor, Llundain; daeth yn Esgob Henffordd |
1721 hyd 1723 | Richard Reynolds | Deon of Peterborough; daeth yn Esgob Lincoln |
1723 hyd 1728 | William Baker | Warden Coleg Wadham, Prifysgol Rhydychen; Oxford; daeth yn Esgob Norwich |
1728 hyd 1734 | Thomas Sherlock | Dean of Chichester; daeth yn Esgob Salisbury |
1734 hyd 1737 | Charles Cecil | Yn Esgob Bryste cynt |
1737 hyd 1743 | Thomas Herring | Deon Rochester; Daeth yn Archesgob Efrog |
1743 hyd 1748 | Matthew Hutton | Daeth yn Archesgob Efrog, yna'n Archesgob Caergaint |
1748 hyd 1756 | Zachary Pearce | Deon Winchester; daeth yn Esgob t Rochester |
1756 hyd 1769 | John Egerton | Deon Henffordd; t |
1769 hyd 1774 | John Ewer | Cynt yn Esgob Llandaf |
1774 hyd 1783 | John Moore | Deon Caergaint |
1783 hyd 1800 | John Warren | Cynt yn Esgob Tyddewi |
5 April 1800 to 1806 | William Cleaver | Cynt yn Esgob Caer; daeth yn Esgob Llanelwy |
13 Rhagfyr 1806 hyd 1809 | John Randolph | Cynt yn Esgob Rhydychen |
12 Awst 1809 hyd 9 Gorffennaf 1830 | Henry William Majendie | Cynt yn Esgob Caer; bu farw yn ystod ei dymor |
10 Hydref 1830 hyd 19 Ebrill 1859 | Christopher Bethell | Cynt yn Esgob Exeter; bu farw yn ystod ei dymor |
12 Mai 1859 hyd 1890 | James Colquhoun Campbell | Archddiacon Llandaf |
1890 hyd 1898 | Daniel Lewis Lloyd | |
1899 hyd 1924 | Watkin Herbert Williams | Deon Llanelwy o 1892 hyd 1899 |
1925 hyd 1928 | Daniel Davies | |
1928 hyd 1944 | Charles Alfred Howell Green | Archesgob Cymru 1934-1944 |
1944 hyd 1948 | David Edwards Davies | |
1949 hyd 1956 | John Charles Jones | |
1957 hyd 1982 | Gwilym Owen Williams | Archesgob Cymru 1971-1982 |
1982 hyd 1992 | John Cledan Mears | |
1992 hyd 1999 | Barry Cennydd Morgan | Wedyn yn Esgob Llandaf ac Archesgob Cymru 2002- |
2000 hyd 2004 | Francis James Saunders Davies | Etholwyd 1999 |
2004 hyd 2008 | Phillip Anthony Crockett | Cynt yn Archddiacon Caerfyrddin a Ficer Cynwyl Elfed; bu farw yn ystod ei dymor. |
2008 - | Andrew John | Cynt yn Archddiacon Aberteifi. |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.