Remove ads
un o golegau Prifysgol Caergrawnt From Wikipedia, the free encyclopedia
Un o golegau cyfansoddol Prifysgol Caergrawnt yw Coleg y Breninesau (Saesneg: Queens' College). Fe'i sefydlwyd gyntaf ym 1448 gan Farged o Anjou. Ail-sefydlwyd y coleg ym 1465 gan Elizabeth Woodville, gwraig Edward IV o Loegr. Adlewyrchir yr ail-sefydlu hwn yn yr enw: Coleg y Breninesau, nid Coleg y Frenhines.
Coleg y Breninesau, Prifysgol Caergrawnt | |
Arwyddair | Floreat Domus ("Bloduir y tŷ hwn") |
Enw Llawn | Coleg Brenhines Santes Farged a Sant Bernard ym Mhrifysgol Caergrawnt |
Sefydlwyd | 1448 |
Enwyd ar ôl | Marged o Anjou (1448) Elizabeth Woodville (1465) |
Lleoliad | Silver Street, Caergrawnt |
Chwaer-Goleg | Coleg Penfro, Rhydychen |
Prifathro | Arglwydd Eatwell |
Is‑raddedigion | 525 |
Graddedigion | 370 |
Gwefan | www.queens.cam.ac.uk |
Coleg y Breninesau yw'r ail goleg mwyaf deheuol ar lan yr Afon Cam. Y lleill - o'r agosaf hyd y pellaf - yw Coleg y Brenin, Clare, Neuadd y Drindod, Coleg y Drindod, Coleg Sant Ioan, a Choleg Magdalene i'r gogledd a Choleg Darwin i'r de.
Llety'r Arlywydd yng Ngholeg y Breninesau yw'r adeilad hynaf ar yr afon yng Nghaergrawnt (tua 1460). Mae gan Goleg y Breninesau adeiladau ar y brif safle ar ddwy ochr yr afon: nodwedd a rennir gan un coleg arall yn unig, Coleg Sant Ioan.
Cysylltir rhan hynaf (neu Yr Ochr Dywyll, fel y'i gelwir gan y myfyrwyr) a rhan fwyaf newydd y coleg (Yr Ochr Olau) gan y 'Bont Fathemategol', a llun y bont yw un o ddelweddau mwyaf adnabyddus Caergrawnt (gyda'r llun fel rheol yn cael ei dynnu o bont Silver Street). Yn ôl yr hanes, cynlluniwyd ac adeiladwyd y bont yn wreiddiol gan Syr Isaac Newton heb ddefnyddio'r un bollt na chneuyn, ac yna, rhywbryd wedi hynny, ceisiodd rhai myfyrwyr (neu gymrodorion, yn dibynnu ar ba fersiwn o'r hanes sy'n cael ei hadrodd) ei dymchwel a'i hail-adeiladu. Yn ôl yr hanes, gan nad oeddynt yn gystal peiriannwyr â Newton, bu rhaid iddynt, wedi amser hir o geisio a methu, yn y diwedd, ddefnyddio cnau a bolltydd i'w hail-adeiladu. Dyna pam y gwelir cnau a bolltydd yn y bont hyd heddiw. Celwydd yw'r stori hon: adeiladwyd y bont ym 1749 gan James Essex yr Ieuaf (1722–1784) yn ôl cynllun William Etheridge (1709–1776), dwy flynedd ar ugain ar ôl marwolaeth Newton. Fe'i hail-adeiladwyd ym 1866 ac eto ym 1905, yn ôl yr un cynllun.
Mae Coleg y Breninesau yn unigryw ymhlith colegau'r brifysgol gyda'i neuadd amlbwrpas, Neuadd Fitzpatrick. Cynhelir perfformiadau theatrig, ffilmiau a bopiau yno, yn ogystal â nifer o weithgareddau chwaraeon. "Queens' Ents" yw enw'r mudiad sy'n trefnu'r bopiau ac erbyn hyn mae gan y coleg enw ledled y brifysgol am drefnu'r bopiau gorau, gan ddenu enwau adnabyddus megis Lethal Bizzle, Pat Sharp a Robbo Ranx.
Meistr yw'r enw a roddir i bennaeth y rhan helaeth o golegau'r brifysgol, ond Arlywydd fu enw pennaeth Coleg y Breninesau er 1448.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.