From Wikipedia, the free encyclopedia
Un o faesdrefi a chymuned yn ninas Caerdydd, Cymru, yw Llandaf ( ynganiad ). Cafodd ei ymgorffori yn y ddinas ym 1922. Mae hefyd yn rhoi ei henw i un o esgobaethau'r Eglwys yng Nghymru, a fu yn hanesyddol gyda'r rhai tlotaf yng Nghymru a Lloegr, ond sydd erbyn hyn yn cwmpasu'r ardal fwyaf poblog yn ne Cymru. Dominyddir Llandaf gan yr Eglwys Gadeiriol, a gerllaw mae adfeilion Llys yr Esgob, a'i dinistriwyd gan Owain Glyndŵr.
Math | maestref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 8,771 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Dinas a Sir Caerdydd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.4933°N 3.2133°W |
Cod SYG | W04000850 |
Cod post | CF5 |
AS/au y DU | Alex Barros-Curtis (Llafur) |
Ymhlith yr enwogion a enwyd yno y mae'r awdur Roald Dahl a'r gantores Charlotte Church; cawsant hefyd eu haddysgu yn ysgolion bonedd Llandaf. Mae pencadlys y BBC yng Nghymru yn Llandaf. Gwasanaethir yr ardal gan orsaf trenau Llandaf, sydd mewn gwirionedd yn ardal Ystum Taf.
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[1][2][3][4]
Cyfrifiad 2011 | ||||
---|---|---|---|---|
Poblogaeth cymuned Llandaf (pob oed) (8,997) | 100% | |||
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llandaf) (1,337) | 15.3% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 19% | |||
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llandaf) (6464) | 71.8% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 73% | |||
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Llandaf) (1,150) | 30.3% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 67.1% |
Yng nghyfrifiad 2011 nodwyd bod 15.3% o'r boblogaeth dros dair blwydd oed yn medru'r Gymraeg, sef 1337 o bobl. Roedd hyn yn gwymp bach ar ffigyrau cyfrifiad 2001, sef 15.4%.[5]
Mae pencadlys BBC Cymru ac Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf ymysg y sefydliadau Cymraeg pwysig yn y ward.
Mae ymchwil Owen John Thomas yn dangos cryfder y Gymraeg yn Llandaf yn hanesyddol. Yn ôl ei lyfr Yr Iaith Gymraeg yng Nghaerdydd c.1800–1914, roedd Eglwys anghydffurfiol yn Heol Caerdydd yn Gymraeg ei hiaith yn 1813.
Mae ei waith yn dangos mai Cymraeg oedd iaith arferol y stryd yn Llandaf yn yr 17eg canrif.[angen ffynhonnell]
Ymwelodd Gerallt Gymro â Llandaf yn ystod ei daith trwy Gymru yn 1188.
Y drasiedi fwyaf a ddioddefodd Gwastadeddau Gwent a'r cyffiniau oedd llif enfawr 20 Ionawr 1607. (Ddechrau’r 17g, y cyntaf o Fawrth oedd diwrnod cyntaf y flwyddyn, ac felly ar y pryd, ystyrid mai ym mis olaf ond un 1606, ac nid ym mis cyntaf 1607, y bu’r llif).[6]
Boddwyd ardal o Barnstaple, Bryste, i Gaerloyw, mor bell â Cheredigion. Boddwyd Gwastadeddau Gwent, gan ladd 2000, gan yr ymchwydd.[8]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.