gêm iaith ar-lein sydd ar gael mewn sawl iaith From Wikipedia, the free encyclopedia
Gêm eiriau ar-lein yw Wordle a ddyfeisiwyd yn 2021 gan Josh Wardle, brodor o Landdewi Rhydderch, Sir Fynwy, ar gyfer ei bartner, Palak Shah. Diolch i'w boblogrwydd ar Twitter, roedd y gêm yn llwyddiant ar unwaith yn ei fersiwn Saesneg. Cafodd ei gynnig yn gyflym mewn ieithoedd eraill a'i efelychu mewn fersiynau eraill gan gynnwys y Gymraeg sydd â tri fersiwn - Wordle Cymraeg, Cyrdle a Gairglo. Bu'r gêm am ddim ond prynwyd y gêm gan The New York Times Company ym mis Ionawr 2022 am swm saith ffigur nas datgelwyd (sef o leiaf $1,000,000)[1], gyda'r bwriad i'w gadw'n rhad ac am ddim i bob chwaraewr, o leiaf i ddechrau.[2]
Enghraifft o'r canlynol | gêm porwr |
---|---|
Cyhoeddwr | The New York Times |
Gwlad | Unol Daleithiau America |
Rhan o | The New York Times Games |
Iaith | Saesneg |
Dyddiad cyhoeddi | Hydref 2021 |
Genre | word video game, letter game |
Perchennog | The New York Times Company |
Prif bwnc | word guessing |
Dosbarthydd | The New York Times |
Gwefan | https://www.nytimes.com/games/wordle/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae'r mecaneg bron yn union yr un fath â gêm ysgrifbinnau a phapur 1955 Jotto a'r sioe gemau deledu Lingo yn UDA. Mae gan Wordle un ateb dyddiol, gyda'r holl chwaraewyr yn ceisio dyfalu'r un gair.
Amcan y gêm yw dyfalu gair pum llythyren benodol mewn uchafswm o chwe ymgais, ysgrifennu llythrennau ar sgrin chwe llinell o bum sgwâr yr un. Mae'r chwaraewr yn ysgrifennu gair pum llythyren o'i ddewis ar y llinell gyntaf ac yn nodi ei gynnig. Ar ôl pob brawddeg, mae'r llythrennau'n ymddangos mewn lliw: mae'r cefndir llwyd yn cynrychioli'r llythrennau sydd ddim yn y gair a chwiliwyd, mae'r cefndir melyn yn cynrychioli'r llythrennau sydd i'w cael mewn man arall yn y gair, ac mae'r cefndir gwyrdd neu las yn Gairglo, yn cynrychioli'r llythrennau sydd yn y gair a chwiliwyd. ac yn lle cywir yn y gair i'w ddarganfod.[3]
Mae Wordle Saesneg yn defnyddio rhestr o eiriau gyda sillafu Americanaidd, er bod y datblygwr yn dod o Gymru ac yn defnyddio enw parth DU ar gyfer y gêm; mae'n byw ers amser maith yn Brooklyn, Efrog Newydd. Mae chwaraewyr y tu allan i'r Unol Daleithiau wedi cwyno bod y confensiwn sillafu hwn yn rhoi mantais annheg i chwaraewyr Americanaidd.[4][5]
Mae Josh Wardle yn ddatblygwr meddalwedd sydd wedi cydweithio ar ddatblygu dau brofiad cymdeithasol ar gyfer Reddit. Yn ystod cyfnod clo oherwydd pandemig Covid-19, dyfeisiodd y gêm ar gyfer ei bartner, sy'n frwd dros gemau pos. Wrth weld brwdfrydedd ei bartner a'i deulu, penderfynodd roi ei gêm ar-lein. Ym mis Rhagfyr 2021, ychwanegodd y gallu i rannu ei ganlyniadau ar gyfryngau cymdeithasol trwy emojis. Roedd y llwyddiant yn syth: ar 1 Tachwedd 2021, chwaraeodd 90 o bobl, ac mewn ychydig wythnosau, mwy na dwy filiwn.
Ceir tri fersiwn o'r gêm Wordle yn y Gymraeg.
Ceir Wordle Cymraeg sy'n dilyn yr un fformat â'r fersiwn Saesneg wreiddiol a'r un llythrennau. Nid yw'n dilyn yr wyddor Gymraeg felly nid yw deunodau (digraphs) Cymraeg - ch, dd, ll, rh, ph, ng - yn cael eu hystyried yn un lythyren ond yn hytrach rhaid defnyddio l + l, neu c + h. Nid cheir acenion Cymraeg chwaith megis hirnod neu'r ddidolnod ar gael gan nad ydynt yn yr wyddor Saesneg.[6]
Ceir addasiad arall ar yr un llinellau â'r Saesneg wreiddiol, Cyrdl [7] a ddatblygwyd gan Laine Skinner, datblygwr gwe o Bowys, lansio’r ap a’r wefan mewn ymgais i gael ei phlant i siarad Cymraeg gartref. [8]
Datblygwyd fersiwn benodol Gymraeg gan Dr Rodolfo Piskorski, Brasiliad sydd wedi dysgu Cymraeg ac oedd y person cyntaf i sefyll arholiad i ennill dinasyddiaeth Brydeinig yn yr iaith Gymraeg.[9]
Yn wahanol i'r ddau fersiwn Gymraeg arall, mae Gairglo yn defnyddio llefariaid ag acennodau Cymraeg a'r wyddog Gymraeg yn gywir.[10] Ymffrost Gairglo yw bod yna "3,400 o eiriau Cymraeg gyda 5 llythyren ar y gêm, mewn cymhariaeth â 2,315 ar Wordle Saesneg!"[4][11] Mae'r gêm yn rhan o becyn o adnoddau ar gyfer dysgu a gwella sgiliau siarad ac ysgrifennu Cymraeg ar ei wefan Hir-iaith.cymru.
Yn fuan ar ôl ennill poblogrwydd firaol ymhlith defnyddwyr Saesneg eu hiaith ym mis Ionawr 2022, addaswyd Wordle i ieithoedd eraill, gan gynnwys:
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.