From Wikipedia, the free encyclopedia
Ardal a chymuned yng Nghaerdydd yw Pontprennau. Roedd sawl fferm yn gorchuddio'r ardal yn y gorffennol, ond neilltuwyd y tir yn yr 1970au ar gyfer datblygiad tai, a dyluniwyd cyffordd 30 yr M4 yn arbennig ar gyfer gwasanaethu'r datblygiad. Mae wedi ymestyn yn sylweddol ers dechrau'r 1990au, gyda ystadau tai preifat a swyddfeydd cwmnïau yn bennaf.
Math | cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 7,134 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Dinas a Sir Caerdydd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.5365°N 3.1408°W |
Cod SYG | W04000868 |
AS/au y DU | Anna McMorrin (Llafur) |
Roedd 8,037 o bobl yn byw ym Mhontprennauyn ystod cyfrifiad 2001. Ond mae hyn wedi cynyddu ers hyn, gyda thai newydd yn cael eu codi yng nghorllewi Pontprennau a thai pellach ar ddarnau bychain o dir yma ac acw. Disgwylir i'r ardal ymestyn eto dros y blynyddoedd i ddod, mae eisoes cais cynlluno ar gyfer 4,000 o dai ar dir fferm rhwng Pontprennau a Llysfaen.
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[1][2][3][4]
Cyfrifiad 2011 | ||||
---|---|---|---|---|
Poblogaeth cymuned Pontprennau (pob oed) (7,353) | 100% | |||
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Pontprennau) (770) | 11.1% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 19% | |||
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Pontprennau) (5214) | 70.9% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 73% | |||
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Pontprennau) (407) | 14.2% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 67.1% |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.