ardal yng Nghaerdydd From Wikipedia, the free encyclopedia
Ardal a chymuned yng ngorllewin Caerdydd yw Treganna (Saesneg: Canton).
Math | maestref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 14,304, 16,143 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Dinas a Sir Caerdydd |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 308.39 ha |
Cyfesurynnau | 51.48°N 3.21°W |
Cod SYG | W04000840 |
Cod OS | ST164767 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Mark Drakeford (Llafur) |
AS/au y DU | Alex Barros-Curtis (Llafur) |
Statws treftadaeth | Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Nid yw tarddiad yr enw Treganna yn glir, ond dywed rhai ei fod yn deillio o enw Santes Canna, santes yn y chweched ganrif o dde Cymru (merch i nai'r Brenin Arthur yn ôl y chwedl). Digwydd yr elfen canna yn enw'r ardal gyfagos Pontcanna hefyd.
Ar lafar mae'r enwau Treganna/Canton yn cyfeirio at ardal llawer mwy eang na'r gymuned swyddogol gan gyfateb â’r plwyf eglwysig o'r un enw.
Y brif heol yw Heol Ddwyreiniol y Bont-faen: arni y mae llawer o siopau, bwytai a chaffis. Mae sawl parc yn yr ardal, gan gynnwys Parc Fictoria, Parc Thompson a Pharc y Jiwbilî. Mae Canolfan Gelfyddydau Chapter (a agorwyd yn 1971 ar hen safle Ysgol Uwchradd Cantonian) yn un o'r prif atyniadau.
Mae nifer o addoldai yn Nhreganna, gan gynnwys Salem, un o gapeli Cymraeg Eglwys Bresbyteraidd Cymru.
Mae gan Dreganna ddau stadiwm chwaraeon nodedig, sef Stadiwm Dinas Caerdydd (cartref C.P.D. Dinas Caerdydd) a Stadiwm Chwaraeon Rhyngwladol Caerdydd (stadiwm athletau).
Daeth Treganna yn rhan o Gaerdydd yn 1875.
Yng nghyfrifiad 2011 nodwyd bod 19.1% o'r boblogaeth dros dair blwydd oed yn medru'r Gymraeg, sef 2,625 o bobl. Roedd hyn yn gynnydd arwyddocaol ar ffigyrau cyfrifiad 2001, sef 15.6% a 1,964.[1]
Mae dwy ysgol gynradd Gymraeg yn Nhreganna, sef Ysgol Gymraeg Pwll Coch ac Ysgol Gymraeg Treganna. Un addoldy Cymraeg sydd yn y gymuned, sef Salem, un o gapeli Eglwys Bresbyteraidd Cymru. Adeiladwyd addoldy presennol y Cardiff Chinese Christian Church (Heol Llandaf) yn gapel i'r Bedyddwyr Cymraeg, ond troes yr iaith i'r Saesneg ar ddiwedd y 19g.[2]
Yng nghyfrifiad 2011 cafwyd yr ystadegau a ganlyn:[3][4][5][6]
Cyfrifiad 2011 | ||||
---|---|---|---|---|
Poblogaeth cymuned Treganna (pob oed) (14,304) | 100% | |||
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Treganna) (2,625) | 19.1% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 19% | |||
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Treganna) (10119) | 70.7% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 73% | |||
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Treganna) (1,821) | 29.1% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 67.1% |
Yn ogystal â'r ddwy ysgol gynradd Gymraeg (Ysgol Gymraeg Pwll Coch ac Ysgol Gymraeg Treganna), mae dwy ysgol gynradd Saesneg hefyd, sef Ysgol Gynradd Lansdowne ac Ysgol Gynradd Radnor. Un ysgol uwchradd sydd yn y gymuned, sef Ysgol Uwchradd Fitzalan.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.